Israel a Phalesteina'n dal ati

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Chwadan » Maw 29 Awst 2006 11:59 pm

Heb drio symud y ddadl yn rhy bell oddi wrth Israel-Libanus, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng gwahanol amcanion yng nghyd-destun gweithredoedd treisgar.

Dan Dean a ddywedodd:Diddorol, achos dwin meddwl mae dweud bod rhaid i derfysgwr fod efo rheswm gwleidyddol dros derfysgu yn amharu ar be mae'r gair "terfysgwr" yn feddwl yn lythrennol. Ac yndw, mi fuaswn yn fodlon galw'r sniper yn derfysgwr hefyd, yr un ffordd mi fuasai hefyd yn derfysgwr os wnaeth o hyn achos ei fod o'n erbyn polisiau'r Ty Gwyn.

Y broblem efo cymryd y gair "terfysgaeth" yn llythrennol ydi nad ydi'r ystyr hwnnw yn cael ei ddefnyddio bellach - fatha'r defnydd gwreiddiol o'r gair "gay". Ydi, ma sniper sy'n saethu pobl ar hap yn derfysgwr mewn un ystyr, ond tydan ni ddim yn defnyddio'r ansoddair "terfysgol" achos yr arwyddocâd gwleidyddol sydd ynghlwm â'r gair bellach. Ma rhoi arwyddocâd terfysgol i'r sniper yn awgrymu fod yna fwriad gwleidyddol lle nad oes un mewn gwirionedd. Ma fel cyflwyno ffrind gan ddeud "he's feeling very gay tonight" - gan roi camargraff (bwriadol?). Ond ma gennan ni eiriau eraill i ddisgrifio canlyniadau erchyll gweithredoedd treisgar angwleidyddol, felly oherwydd y camargraff fasa'n codi yn sgil defnyddio'r gair "terfysg" yn y fath achosion, welai ddim rheswm dros ddychwelyd at y defnydd gwreiddiol o'r gair.

Gan dderbyn fod y canlyniadau yn uffernol dim ots pwy sy'n gweithredu mewn ffordd dreisgar, onid y gwahaniaeth sylfaenol rhwng terfysgwyr yn yr ystyr confensiynol-wleidyddol a'r ystyr mwy rhyddfrydol (h.y. llywodraethau terfysgol) ydi fod grwpiau terfysgol-gonfensiynol yn anelu i newid y status quo (yn nhermau'r llywodraeth sydd mewn grym ac, yn achos Hizbollah, y gyfundrefn ehangach) tra fod llywodraethau "terfysgol" yn anelu at gadw petha fel y maent (nid yn unig yn nhermau cadw grym ond hefyd yn nhermau cadw, er enghraifft, y system Westffalaidd neu ffinoedd gwledydd)?

Sori, wedi crwydro :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dili Minllyn » Mer 30 Awst 2006 8:38 am

Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau'n diffinio terfysgaeth fel "premeditated, politically motivated violence perpetrated against non-combatant targets by subnational groups or clandestine agents". Cyfleus iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garnet Bowen » Mer 30 Awst 2006 11:36 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau'n diffinio terfysgaeth fel "premeditated, politically motivated violence perpetrated against non-combatant targets by subnational groups or clandestine agents". Cyfleus iawn.


Mae'r ffaith nad oes 'na un diffiniad safonol o derfysgaeth yn dyst i'r ffaith fod y gair ei hun yn bwnc gwleidyddol llosg. Mae o'n air sy'n cael ei gam-ddefnyddio gan y ddwy ochr. Mae George Bush a'i debyg yn ei ddefnyddio fel rhyw fath o catch-all i ddisgrifio unrhyw un sy'n gweithredu yn eu herbyn nhw, tra bo'r rhai sy'n gwrthwynebu polisi tramor America yn trio troi hyn ar ei ben, a defnyddio'r gair er mwyn gwneud cymhariaeth rhwng gweithredoedd y UDA a'i gelynion. Ond mae'r ddwy ochr yn gwneud rhywbeth sy'n peri pryder i mi, sef plygu ystyr geiriau i siwtio eu hamcanion eu hunain. Yn y pen draw, os oes 'na ddwy garfan wahanol yn penderfynnu fod dau ystyr i'r un gair, yna mae'r gair yn colli ei werth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Mer 30 Awst 2006 7:22 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau'n diffinio terfysgaeth fel "premeditated, politically motivated violence perpetrated against non-combatant targets by subnational groups or clandestine agents". Cyfleus iawn.


Mae'r ffaith nad oes 'na un diffiniad safonol o derfysgaeth yn dyst i'r ffaith fod y gair ei hun yn bwnc gwleidyddol llosg.

Yn fy marn i, y rheswm pam nad oes diffiniad safonol o derfysgaeth yw am nad oes rheswm digon rhesymegol i feddwl rhaid i wleidyddiaeth fod yng nhgefndir yr ymosodiad yn y lle cynta. A tra nad oes ystyr pendant a rhesymegol yn cael ei gynnig lle mae bawb yn cytuno, yna mi sticiai at y disgrifiad llythrennol o'r gair.

Garnet Bowen a ddywedodd:A defnyddio'r gair er mwyn gwneud cymhariaeth rhwng gweithredoedd y UDA a'i gelynion.


Nage, edrych ar rhai o ymosodiadau yr UDA ydwi a dod i ganlyniad fy hun na terfysgol ydyn nhw oherwydd natur, bwriad a chanlyniad yr ymosodiad.

Chwadan a ddywedodd:Y broblem efo cymryd y gair "terfysgaeth" yn llythrennol ydi nad ydi'r ystyr hwnnw yn cael ei ddefnyddio bellach

Yn wir, ond mae dal yn bosib disgrifio gweithred yn derfysgol a fod yn gywir os ydi'r ymosodiad yn llythrennol yn derfysgol, os oes rheswm gwleidyddol neu beidio. Dyma pam dwin erbyn y syniad bod gwleidyddiaeth yn gorfod chwarae rhan mewn terfysgaeth.

Mae gen ti bwynt dilys am y gair "gay". Ond y gwahaniaeth ydi mi elli di dal disgrifio bob un hoyw yn "gay", tra ni elli di ddisgrifio gweithred sydd yn llythrennol derfysgol yn "derfysgol". I mi, mae hyn yn broblem.

Gyda llaw Garnet, mae hyn yn dangos na nid y fi sydd yn "plygu" gwir ystyr geiriau "er mwyn fy hun", achos dylir gair feddwl be mae llythrennol yn feddwl. Plygu gair yn ol at ei siap wreiddiol dwi yn fama.

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n credu'n gryf fod yn rhaid ymladd i warchod ystyr geiriau

Wahei, rhywbeth ni'n gallu cytuno efo yn gryf!
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dili Minllyn » Iau 31 Awst 2006 6:53 pm

Erthygl ddiddorol gan Uri Avnery o fudiad Gush Shalom. (Diolch i Owain Llwyd am y ddolen).

Uri Avnery a ddywedodd:When our Zionist fathers decided to set up a safe haven in Palestine, they had a choice between two ways. They could appear in West Asia as a European conqueror, who sees himself as a bridge-head of the white race and a master of the natives... The second way was to consider themselves as an Asian nation returning to its home - a nation that sees itself as an heir to the political and cultural heritage of the Semitic race, and which is prepared to join the peoples of the Semitic region in their war of liberation from European exploitation.

O edrych ar bethau fel hyn, efallai mai Argyfwng Suez 1956, pan gynghreiriodd Israel â Phrydain a Ffrainc, oedd y trobwynt mawr, yn hytrach na 1967. O gofio (a) na fu Penrhyn Sinai erioed yn rhan o Israel (b) bod yr Aifft wedi ennill y rhyfel, a hynny gyda chefnogaeth gudd yr Unol Daleithiau, byddai wedi bod yn llawer mwy buddiol i Israel ochri gyda'r Aifft yn 1956, gan fynnu cytundeb heddwch yn dâl am ei chymorth. Byddai hynny wedi golygu troi Llain Gasa'n rhan ffurfiol o'r Aifft, yn ôl pob tebyg, gan nad oedd sôn ar y pryd am wladwriaeth Palesteina. Gellid bod wedi symud ymlaen wedyn i gymodi gydag Iorddonen.

O ran ymyrraeth America yn y Dwyrain Canol, gyda llaw, pwnc godais i ynghynt, mae'n werth darllen hwn gan y Cyngresydd Ron Paul am fel mae'r Unol Daleithiau wedi cyfrannu at ansadrwydd yr ardal.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garnet Bowen » Llun 04 Medi 2006 8:11 am

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau'n diffinio terfysgaeth fel "premeditated, politically motivated violence perpetrated against non-combatant targets by subnational groups or clandestine agents". Cyfleus iawn.


Mae'r ffaith nad oes 'na un diffiniad safonol o derfysgaeth yn dyst i'r ffaith fod y gair ei hun yn bwnc gwleidyddol llosg.

Yn fy marn i, y rheswm pam nad oes diffiniad safonol o derfysgaeth yw am nad oes rheswm digon rhesymegol i feddwl rhaid i wleidyddiaeth fod yng nhgefndir yr ymosodiad yn y lle cynta. A tra nad oes ystyr pendant a rhesymegol yn cael ei gynnig lle mae bawb yn cytuno, yna mi sticiai at y disgrifiad llythrennol o'r gair.


Disgrifiad "llythrenol" o'r gair. Be ydi hwnw felly? Wyt ti'n awgrymu bod terrorism="something that causes terror"? Os felly, ydi dyn sy'n cadw tren sgrech mewn ffair, neu gyfarwyddwr ffilm arswyd yn terrorist?

Be ydi dy ddiffiniad di o derfysgaeth, Dan?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Llun 04 Medi 2006 11:30 pm

[Nes i atab i hwn gyna ond nath y ffacing cyswllt dorri a collais y bastad atab. Grrr. Ma hwn yn atab dra gwahanol.]

Garnet Bowen a ddywedodd:Disgrifiad "llythrenol" o'r gair. Be ydi hwnw felly? Wyt ti'n awgrymu bod terrorism="something that causes terror"? Os felly, ydi dyn sy'n cadw tren sgrech mewn ffair, neu gyfarwyddwr ffilm arswyd yn terrorist?

Be ydi dy ddiffiniad di o derfysgaeth, Dan?


Nadyn, yn bennaf achos nid ydynt yn gorfodi'r cwsmeriad reidio y tren neu edrych ar y ffilm, a dwin meddwl bod hyn yn ffactor reit bwysig. Hefyd, dwin meddwl ddylswn ni gadw at drafod ymosodiadau derfysgol. Siwr ddoi nol at fy ddiffiniad personol o derfysgaeth rhywbryd eto tra gennyf fynadd a llai o awydd mynd i'r gwely. Dal heb feddwl na gweld unrhyw reswm resymegol pam rhaid i gweithred treisgar terfysgol fod gyda rheswm wleidyddol tu ol iddo.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Maw 05 Medi 2006 8:38 am

Dan Dean a ddywedodd: Dal heb feddwl na gweld unrhyw reswm resymegol pam rhaid i gweithred treisgar terfysgol fod gyda rheswm wleidyddol tu ol iddo.


Oherwydd heb yr elfen wleidyddol, mae llawer iawn o droseddwyr cyffredin yn haeddu'r enw terfysgwr. Ydi gang o hogia yn mynd rownd Pwllheli ar nos sadwrn yn colbio pobl yn eu diod yn derfysgwyr? Mae nhw'n brifo pobol, mae nhw'n indiscriminate, a mae nhw'n creu ofn ymhlith y boblogaeth.

Neu be am gymryd engrhaifft mwy difrifol? Wyt ti'n cofio be ddigwyddodd yn Birmingham ryw nos calan, ychydig o flynyddoedd yn ol? Gang o hogia yn saethu at griw o bobl tu allan i barti, ac yn lladd dwy hogan. Ishio setlo dadl efo gang arall oedden nhw, ond mi laddwyd genod diniwed. Ydi'r hogia yma yn derfysgwyr hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Maw 05 Medi 2006 10:12 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Oherwydd heb yr elfen wleidyddol, mae llawer iawn o droseddwyr cyffredin yn haeddu'r enw terfysgwr.


Dyma pam?!

Wel dyna reswm cachu. Mae rhan fwyaf o weithredau terfysgol gyda elfen gwleidyddol ynddynt beth bynnag, felly be di'r point cymlethu pethau mor bell? Nid oes rhesymeg call i hyn. Mae fatha UEFA yn dweud: "Mae na ormod o goliau yn cael eu sgorio, felly o hyn ymlaen di mond yn gol os di'r sgoriwr efo gwallt". Os yw rhywun yn gwir haeddu'r enw terfysgwr, yna terfysgwr ydio.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ydi gang o hogia yn mynd rownd Pwllheli ar nos sadwrn yn colbio pobl yn eu diod yn derfysgwyr?


Yndi mewn ffor, ond ar lefel isel a tymor byr i'w gymharu ar be da ni'n weld ar y newyddion. A be os ydynt yn ymosod achos, er engraifft, nid yw'r bobol yn pledleisio i'r BNP? Mi fuasai na elfen gwleidyddol iddi wedyn - pa wahaniaeth mae hyn yn ei wneud i natur yr ymosodiad? Dim. Mae (1) sut fath o weithred mae rhywun yn gorfod wneud i gael ei alw yn derfysgwr a (2) y rheswm pam ei bod o yn ei wneud yn ddau beth gwahanol. Ta wyt ti'n trio dweud na terfysgwr fuasai'r hogia tasa na reswm gwleidyddol dros y gweithred?

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae nhw'n brifo pobol, mae nhw'n indiscriminate, a mae nhw'n creu ofn ymhlith y boblogaeth.

Dylir gwneud yr uchod yn fwriadol, heb unrhyw ffactor arall, fod yn ddigon i dy wneud yn derfysgwr.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 06 Medi 2006 10:19 am

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron