Oeddwn i yn Madison, Wisconsin yn barod i ddal bws Greyhound i St Paul, Minnesota pum mlynedd yn nol i heddiw, newydd adael Efrog Newydd 3 diwrnod yng nghynt a wedi bod yn sefyll wrth droed un o'r ddau dwr union wytnnos i'r awr wnaethon nhw ddisgyn. Oeddwn i wedi darllen erthygl yn FHM am yr ymgyrch i fomio'r tyrau yn 1993 a dwi'n cofio meddwl
"byswn i'n buggered os bydde rhain yn disgyn wan".
Cofio mynd ar y bws gyda ffrind i mi a doedd y rhan fwyaf o deithwyr ar y bws ddim yn ymwybodol o be oedd wedi digwydd gan eu bod wedi bod yn teithio dros nos ar y bysus. Cofio gweld faniau du'r FBI gyda dynion blin eu golwg hefo gynau'n gwarchod Senedd Dy, talaith Wisconsin.
Oedden ni'n aros hefo teulu yn St Paul ac oedd y tad yn gweithio yn World Trade Tower, St Paul a wedi cael ei anfon adref o'i waith, a brawd y fam yn gweithio yn y Pentagon heb fod ymhell o ble darodd yr awyren hwnnw.