Roeddwn ar y cyfrifiadur yn lloft gan roeddwn yn cael bob dydd Mercher i ffwrdd o'r coleg 6ed dosbarth. Mam yn gwylio Crossroads neu rwbath, a gweiddi arnai fod 'na newsflash. Cerdded mewn i'r ystafell fyw yn meddwl fod rhyw aelod hen o'r teulu brenhinol wedi marw neu rhywbeth, ond roedd golygfeydd yr oriau canlynol yr anghredadwy. Roedd o fel fod y byd ar fin dod i ben, a roeddwn yn benderfynol fod na rhywbeth am daro Llundain unrhyw funud.
Mae'r byd yn sicr wedi newid. Rydym mwy gwiliadwrus, ac efallai yn deall fod mwy o wahaniaethau rhyngom ni a'r Dwyrain Canol na fuo erioed. Rydym hefyd yn darganfod ar union ochr bwy mae pobol sy'n hynafu o wledydd y dwyrain canol, dim pawb, ond fod llawer yn gweld safbwynt y bobol afiach yma wnath daro'r dau dwr.