Y Pab wedi rhoi ei sandal ynddi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Iau 21 Medi 2006 12:50 am

Ia, safbwyntiau call cymhedrol fel goresgyn Irac. Gen ti hawl i dy farn fod hynny'n wych, ond does gan yr un mwslem yr hawl i gasau ti a'th debyg am arddel y ffasiwn beth. Da iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 21 Medi 2006 8:16 am

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Dyfyniad oedd o. Taswn i'n dyfynu o Mein Kampf, ydw i'n Nazi?

Mae'n dibynnu, dydi. Dyfynnu yn un peth, cytuno yn beth arall.


Ond mi wnaeth y Pab hi'n berffaith amlwg nad oedd o'n cytuno a'r dyfyniad. Byrdwn ei neges oedd nad oes lle i drais mewn unrhyw grefydd. Ond mae pawb wedi penderfynnu anwybyddu'r neges, er mwyn canolbwyntio ar un dyfyniad.

Dan Dean a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond beth am y Muslim Council of Britain?

Be?! Da ni'n son am yr un corff sydd wedi derbyn ei "ymddiheuriad" yn fama? Ac ar ol i'r pab ddyfynnu, dyma ymateb ysgrifennydd MCB. Plis dangos unrhyw fath o gor ymateb neu eithafiaeth yn fama:

Dr Muhammad Abdul Bari a ddywedodd:One would expect a religious leader such as the Pope to act and speak with responsibility and repudiate the Byzantine emperor's views in the interests of truth and harmonious relations between the followers of Islam and Catholicism.

Regrettably, the Pope did not do so and this has understandably caused a lot of dismay and hurt throughout the Muslim world.


Wwwwww, peryg. A ninnau'n meddwl eu bod yn gymhedrol.


Dwi ddim yn awgrymu fod yr MCB yn beryg. Ond tydyn nhw chwaith ddim yn gymhedrol. Er nad oedd arweinwyr yr MCB allan ar y strydoedd efo placards, mae nhw - yn y bon - yn arddel yr un safbwynt a'r rhai oedd yn protestio. Hynny yw, mae'r MCB yn credu na ddylsa'r Pab fod wedi deud yr hyn ddeudodd o.

I fi, os ydi'r MCB ishio i ni eu cymeryd nhw o ddifri fel corff "cymhedrol", yna mae 'na gyfrifoldeb arnyn nhw i arddel syniadau cymhedrol. Yn yr achos yma, mi ddylsa nhw fod wedi condemnio'r protestwyr, ac amddiffyn hawl y Pab i ddeud ei farn.

Dan Dean a ddywedodd:A hefyd nid beirniadu'r pab am "leisio barn" mae nhw nage, mae'n chydig bach llai du a gwyn na hynnu. Meddylia am sefyllfa fel hyn rhwng dau berson:

Person A: "Ti'n dwat, ti'n thic, sa well gennyf sugno Ian Paisley na rhannu car efo chdi, cefais gachiad delach na dy wraig neithiwr, a sa'r byd ma yn well hebdda chdi"

Person B: "Un gair arall a ti'n mynd i gael clatsien"

Person A: "O typical chdi, yn beirniadu lleisio barn"


Be ydi dy bwynt di? Mae gan Person A berffaith hawl i ddeud bob dim ti 'di restru uchod. Fyswn i ddim yn disgwyl i Person B fod yn ffrindia efo fo. Ond eto fyswn i ddim yn deud bod gan Berson B yr hawl i ddyrnu Person A, nac i fygwth person A.

Dan Dean a ddywedodd:Rwan ta, y nonsens mai "dim canran fechan ydyn nhw", fel mae gormod o aelodau yn ddweud. Mae na 1.2 biliwn o Fwslemiaid yn y byd ma. Hyd y gwn i, os da chi yn rhoi bawb wnaeth brotestio/llosgi/lladd/bygwth oherwydd be ddwedodd y pab, siwr sa chi'n gallu ffitio nhw fewn i Stadiwm y mileniwm. Da chi'n siarad fel bod na filiynau di mynd allan ar y stryd yn ymhob gwlad yn y Dwyrain Canol. Gyda llaw, gennyf yr un safbwynt na chwaithau am y bobol sydd yn protestio/llosgi/lladd/bygwth am y peth. Wnaeth na un cleric drio cael "day of anger" ar ol be gafodd ei ddweud. Day of anger? Nes i weld hyn yn ddigri iawn. Mae'n anhebygol gymerodd rhywun hyn o ddifri :lol:


Ond lle oedd y lleisiau Mwslemaidd a fynegodd gefnogaeth i hawl y Pab i ddeud ei farn? Efallai mai dim ond lleiafrif aeth allan i brotestio yn erbyn y Pab, ond fe gondemniwyd ei sylwadau gan leisiau amlwg eraill o fewn y byd Mwslemaidd. Chlywais i neb yn arddel safbwynt a fyddai'n medru cael ei ddisgrifio fel "Islam Rhyddfrydol" neu "Islam Flaengar". A'r gwir ydi fod y lleisiau hyn yn brin iawn, iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Iau 21 Medi 2006 12:55 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Hynny yw, mae'r MCB yn credu na ddylsa'r Pab fod wedi deud yr hyn ddeudodd o.

I fi, os ydi'r MCB ishio i ni eu cymeryd nhw o ddifri fel corff "cymhedrol", yna mae 'na gyfrifoldeb arnyn nhw i arddel syniadau cymhedrol. Yn yr achos yma, mi ddylsa nhw fod wedi condemnio'r protestwyr, ac amddiffyn hawl y Pab i ddeud ei farn.


Mae na wahaniaeth clir rhwng rhoi'r hawl i rhywun leisio barn a barnu beth mae rhywun wedi ddweud.

Garnet Bowen a ddywedodd:Be ydi dy bwynt di? Mae gan Person A berffaith hawl i ddeud bob dim ti 'di restru uchod. Fyswn i ddim yn disgwyl i Person B fod yn ffrindia efo fo. Ond eto fyswn i ddim yn deud bod gan Berson B yr hawl i ddyrnu Person A, nac i fygwth person A.


Ti'n disgwl i Person B ddeud dim? Fy mhwynt i yw nid "lleisio barn" yw'r broblem. Lleisio barn mae'r MCB wrth feddwl mai camgymeriad peryg oedd i'r pab ddyfynu'r fath beth oherwydd yr ymateb ffyrnig roedd o amlwg yn mynd i'w gael gan y LLEIAFRIF o fwslemiaid.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond lle oedd y lleisiau Mwslemaidd a fynegodd gefnogaeth i hawl y Pab i ddeud ei farn? Efallai mai dim ond lleiafrif aeth allan i brotestio yn erbyn y Pab, ond fe gondemniwyd ei sylwadau gan leisiau amlwg eraill o fewn y byd Mwslemaidd. Chlywais i neb yn arddel safbwynt a fyddai'n medru cael ei ddisgrifio fel "Islam Rhyddfrydol" neu "Islam Flaengar". A'r gwir ydi fod y lleisiau hyn yn brin iawn, iawn.


Ma siwr fuasai rhan fwyaf o Mwslemiaid yn cytuno bod ganddo hawl i'w farn, achos mond y lleiafrif bychan sydd yn eithafwyr. Nid yw'r ffaith bod na rhai heb ei amddiffyn o flaen y cyfryngau yn profi bod na leiafrif ohonynt, na chwaith yn profi eu bod yn erbyn hawl barn. "Prin iawn iawn", fy nhin.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Iau 21 Medi 2006 3:50 pm

Dan Dean a ddywedodd:Ma siwr fuasai rhan fwyaf o Mwslemiaid yn cytuno bod ganddo hawl i'w farn, achos mond y lleiafrif bychan sydd yn eithafwyr. Nid yw'r ffaith bod na rhai heb ei amddiffyn o flaen y cyfryngau yn profi bod na leiafrif ohonynt, na chwaith yn profi eu bod yn erbyn hawl barn. "Prin iawn iawn", fy nhin.


Mae'n anodd iawn profi hyn un ffordd neu'r llall. Yn sicr, tydw i ddim yn cytuno efo chdi bod mwyafrif Mwslemiaid y byd yn cefnogi hawl unigolyn i ryddid barn, os ydi'r hawl hwnw yn tramgwyddo eu daliadau crefyddol. A dwi'n meddwl bod bod yn gymhedrol yn golygu arddel safbwynt fel hyn. Ond mater o farn ydi hyn - mi fedrith y ddau ohonom ni ddeud "mae'n siwr bod hyn yn wir" tan Sul y Pys.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Iau 21 Medi 2006 7:38 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Ma siwr fuasai rhan fwyaf o Mwslemiaid yn cytuno bod ganddo hawl i'w farn, achos mond y lleiafrif bychan sydd yn eithafwyr. Nid yw'r ffaith bod na rhai heb ei amddiffyn o flaen y cyfryngau yn profi bod na leiafrif ohonynt, na chwaith yn profi eu bod yn erbyn hawl barn. "Prin iawn iawn", fy nhin.


Mae'n anodd iawn profi hyn un ffordd neu'r llall. Yn sicr, tydw i ddim yn cytuno efo chdi bod mwyafrif Mwslemiaid y byd yn cefnogi hawl unigolyn i ryddid barn, os ydi'r hawl hwnw yn tramgwyddo eu daliadau crefyddol. A dwi'n meddwl bod bod yn gymhedrol yn golygu arddel safbwynt fel hyn. Ond mater o farn ydi hyn - mi fedrith y ddau ohonom ni ddeud "mae'n siwr bod hyn yn wir" tan Sul y Pys.


Mae'n bosib cefnogi rhyddid barn ond eto cael dy wylltio gan rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud. Ond eto, dim dyna yw'r pwynt. Dim beirniadu dyn am "leisio barn" oeddynt.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Sioni Size » Gwe 22 Medi 2006 12:34 am

Croeso i'r byd mega buddhist o Garnet Bowen. Mae gan bawb hawl i weiddi unrhyw gelwydd sarhaus di-glem at eu giliydd, ac ia, sarhau dy deulu a dy holl berson, dy hunaniaeth a phob dim dan haul, a does gen ti ddim hawl i wylltio am hynny. Mae'n amlwg felly nad ydi Garnet erioed wedi gwylltio hefo neb am ddim. Dyna sut mae'n bosib gweld pob imperialaeth rhyfelgar (wel, o ochr y 'gorllewin') fel rhywbeth fydd yn troi allan yn dda yn y diwedd. A gwarth ar bawb sy'n gwrthwynebu hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 22 Medi 2006 7:55 am

Sioni Size a ddywedodd:Croeso i'r byd mega buddhist o Garnet Bowen. Mae gan bawb hawl i weiddi unrhyw gelwydd sarhaus di-glem at eu giliydd, ac ia, sarhau dy deulu a dy holl berson, dy hunaniaeth a phob dim dan haul, a does gen ti ddim hawl i wylltio am hynny. Mae'n amlwg felly nad ydi Garnet erioed wedi gwylltio hefo neb am ddim.


Mae gen ti berffaith hawl i wylltio os ydi rhywun yn dy sarhau di. Be sgen ti ddim hawl i'w wneud ydi bygwth, brifo, a lladd pobl. Dwi'n gwylltio'n ddigon aml. Ond tydi'r gwylltineb yna erioed wedi arwain at drais.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 22 Medi 2006 12:12 pm

Ond fel y gwelem, mae eisiau condemnio y mwslemiaid oll am drais nad ydyn nhw wedi ei wneud hyd yn oed.
A dwyt ti ddim mor ddwl a hynny i dynnu llinell bendant rhwng bygwth a phropaganda uchel na sy'n gwneud hynny yn uniongyrchol ond sy'n bwriadu troi ei gynulleidfa yn erbyn targed y geiriau, siawns.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dan Dean » Gwe 22 Medi 2006 2:05 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Be sgen ti ddim hawl i'w wneud ydi bygwth, brifo, a lladd pobl.


A dydi dros 99.99% o Fwslemiaid y byd heb wneud hynnu ar ol araith y pab, yn cynnwys yr MCB (a nifer o'r protestiwyr hefyd!). Dwim yn meddwl wnaeth yr MCB hyd noed wylltio cymynt na hynnu, felly dwnim pam ti'n cega yn eu erbyn. A mae condemnio pobol am chwifio placards yn fwy o ffordd o "feirniadu lleisio barn" na dweud bod be ddwedodd y pab wedi eu siomi, felly dwnim pam ti'n disgwl iddynt gwneud hynnu chwaith.

Ond y ffordd mae'r MCB wedi ymddwyn yn y mater yma yw'r unig bwynt hyd yn hyn i helpu barn Garnet "mai dim ond canran fechan o Fwslemiaid sydd yn dal i arddel safbwyntiau call, cymhedrol". Bwlshit, rhaid ti wneud yn well na hynnu!
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai