Mae gan y Pab berffaith hawl i ddyfynnu pwy bynnag mae o ei eisiau. Wnaeth o ddim roi unrhyw arwydd ei fod o'n cytuno gyda geiriau Manuel II Palaeologus.
Mae cwyno am gartwn sy'n mynd ati i gorddi yn un peth, ond mae ceisio rhoi stop ar hawl pobol i hyd yn oed gyfeirio at farn pobol gwrth-fwslemaidd yn mynd yn llawer rhy bell. Mae fel dweud bod fi'n dyfynnu Hitler mewn traethawd ar y natsis yn fy ngwneud i'n wrth-Semitaidd.
Bydd hyn yn cefnogi barn rhai bod nifer o Fwslemiaid jest yn chwilio am ffeit. Gobeithio wir na fydd y Pab yn ymddiheuro.
Ylwch ar y dyfyniad yma:
AHMAD KHATAMI, IRANIAN CLERIC a ddywedodd:It is unfortunate to see that the leader of the world's Christians is so ill-informed about Islam and speaks so shamelessly.
Petai fo mor 'informed' ei hun mi fyddai'n gwybod mae'n debyg nag y Pab yw arweinydd holl Gristnogion y byd?
Mae'r caption yma'n dweud cyfrolau hefyd:
Some Indian Muslims burnt an effigy of the world's Roman Catholic leader who quoted remarks which linked Islam to violence.