Y Pab wedi rhoi ei sandal ynddi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan huwcyn1982 » Sul 17 Medi 2006 11:02 am

Tybed os wnaiff geiriau'r Pab bore ma gwneud unrhywbeth i newid agwedd yr hard-liners sy' am ennill pwyntiau gwleidyddol/crefyddol o'r sefyllfa:

The following is the official Vatican translation of Pope Benedict words at his Sunday address clarifying his remarks about Islam, which have caused an uproar in world Muslim communities:.

"The Pastoral Visit which I recently made to Bavaria was a deep spiritual experience, bringing together personal memories linked to places well known to me and pastoral initiatives towards an effective proclamation of the Gospel for today.

I thank God for the interior joy which he made possible, and I am also grateful to all those who worked hard for the success of this Pastoral Visit.

As is the custom, I will speak more of this during next Wednesday's general audience.

At this time, I wish also to add that I am deeply sorry for the reactions in some countries to a few passages of my address at the University of Regensburg, which were considered offensive to the sensibility of Muslims.

These in fact were a quotation from a medieval text, which do not in any way express my personal thought.

Yesterday, the Cardinal Secretary of State published a statement in this regard in which he explained the true meaning of my words.

I hope that this serves to appease hearts and to clarify the true meaning of my address, which in its totality was and is an invitation to frank and sincere dialogue, with great mutual respect".


Mae'r lefel diogelwch yn yr Eidal wedi codi nawr, ar ol bygythiadau yn erbyn bywyd y Pab o grwpiau radicalaidd Islamaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dylan » Sul 17 Medi 2006 9:04 pm

Mae nhw'n protestio'n wyllt pan mae rhyw bapur di-ddim o Ddenmarc (o bob man) yn cyhoeddi rhyw gartwnau bach shit, ac mae nhw'n cwyno'n ddi-baid eto pan mae rhyw hen ddyn dwl mewn het pointi yn dyfynnu rhyw dwat gwirion arall o'r bymthegfed ganrif. Ond 'dydyn nhw ddim yn hidio bod pob un gwladwriaeth Mwslemaidd yn trin eu pobl fel shit.

Os mai dyna'u blaenoriaethau nhw, twll eu tinau. 'Dw i 'di cael hen hen ddigon ar y ffyliaid 'ma'n mynd rownd yn llosgi pethau am y rhesymau lleiaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhods » Llun 18 Medi 2006 12:46 pm

Y ffydd mwslemiaeth yw'r ffydd mwya hunan gyfiawn ar wyneb ddaeaer - contrevesial ond fi jyst yn dweud ne ma'r silent majority yn ei feddwl. Pam ma rhywun yn dweud rhwybeth yn erbyn nhw (a ie , difynnu rhwybeth oedd y pab o ganrifoedd yn ol !!), ac wedyn ma na uproar enfawr. Nid yw mwslemiaeth yn derbyn Iesu Grist fel mab Duw - fine, ma hawl da nhw iw barn - ond y gwahanaieth yw da ni ddim, fel cristnogion yn mynd o gwmpas a creu yr hol ymateb ffiaidd y mae nhw yn neud (engraifft arall oedd y cartwns yna yn Denmarc) OND os i ni yn beirniadu ei ffydd nhw - eu ymateb yw trais a llofruddio pobol diniwed.

Mae yn gywilyddus a sic i glywed y bore ma bod lliain wedi cael ei saeth'n farw gan mwslemiaid yn Sudan yn ogystal ar holl effigys o'r pab oeddynt yn llosgi. O ni yn meddwl bod Islam yn crefydd heddychlon?!?!? - ie reit!

Edmygaf y pab newydd yn fawr iawn - mae yn sefyll lan a dweud y beth y mae yn credu ynddo. Hir oes ir pab!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Mr Gasyth » Llun 18 Medi 2006 1:19 pm

Mae'n drocalonus o ddarllen drwy'r edefyn yma sut mae cyfrannwyr rydw i wedi parchu ar hyd y blynyddoedd yn defnyddio 'Mwslemiaid' pan mae'n nhw wir yn cyfeirio at 'y ganran fechan honno sy'n camddefnyddio geiriau'r Koran i gyfiawnhau eu casineb a gweithredoedd treisgar eu hunain'.

Da chi'n disgyn mewn i'r trap bobol ac yn gwneud gwaith y terfysgwyr drostyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Garnet Bowen » Llun 18 Medi 2006 1:33 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Mae'n drocalonus o ddarllen drwy'r edefyn yma sut mae cyfrannwyr rydw i wedi parchu ar hyd y blynyddoedd yn defnyddio 'Mwslemiaid' pan mae'n nhw wir yn cyfeirio at 'y ganran fechan honno sy'n camddefnyddio geiriau'r Koran i gyfiawnhau eu casineb a gweithredoedd treisgar eu hunain'.

Da chi'n disgyn mewn i'r trap bobol ac yn gwneud gwaith y terfysgwyr drostyn nhw.


Tra mod i'n cydymdeimlo efo be ti'n ei ddeud, dwi'n ei chael hi'n anodd gweld bai ar ymateb y maeswyr. Dwn i ddim os mai "canran fechan" ydyn nhw, bellach. Mae'r Muslim council of Britain i fod yn gorff "cymhedrol", ond eto mae nhwytha hefyd yn cymeryd rhan yn y wylofain a rhincian danedd gwirion 'ma. Fy mhryder i ydi mai dim ond canran fechan o Fwslemiaid sydd yn dal i arddel safbwyntiau call, cymhedrol.

Yn hyn o beth, wrth gwrs, tydi'r Mwslemiaid ddim gwahanol i weddill trigolion y byd. Mae nhw'n llyncu'r yr hyn mae'r cyfryngau, yr eglwys a'r dosbarth llywodraethol yn ei fwydo iddyn nhw. Y broblem ydi fod y rhan fwyaf o'r awdurdodau hyn yn pedlera'r myth mai y dyn gwyn sydd yn gyfrifol am eu dioddefaint, er mwyn diogelu eu safle freitiedig eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Rhods » Llun 18 Medi 2006 1:38 pm

Ond mae yn wir, mae mwslemiaid yn gyffredinol yn gor-ymateb (i ddweud y lleia) ..pam ma pethe fel hyn yn digwydd!!! Sori, ond dwi ddim yn 'PC type', dwi o cymoedd y de ac yn dweud e fel rwy'n gweld pethe!. Ie, falle mai lleiafirf yw e ..ond mae yn lleiafrif reit fawr, sa ni yn dweud!!! A ddoe/heddiw ar y radio da chi yn cael arweinwyr mwslemiaid ym Mhrydian yn condemio'r pab, ond ddim yn son unwaith am y ffaith bod pobl sydd yn perthyn iw' ffydd nhw wedi llofruddio llian tan i'r cyflwelydd dod a hyn lan....p'un dy'r neywdd mwya..??Sa ni yn dweud bod gan rhai o arweinwyr y mwslemaid mwy i'w ddweud i pobol eu hunain na pregethu i ni !

Sa pobl yn slagio off cristnogaeth , mae yn cael ei weld yn dderbyniol, ond os ma crefydd arall yw e i.e.mwslemaieth - mae yn cael ei weld yn hiliol. Dyna sydd yn digwydd yn ein cymdeithas rhyddfrydol trendi leffti dosbarth canol gwleidyddol, cywir heddiw! Ridicylys!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Dylan » Llun 18 Medi 2006 6:09 pm

'Dw i'n gwrthod yr honiad mai canran fechan iawn o Fwslemiaid ydyn nhw. Ym Mhrydain, hyd yn oed, 'swn i'n dweud eu bod yn leiafrif weddol helaeth bellach.

Mae yna dueddiad amlwg ledled Ewrop. Mae mewnfudwyr Mwslemaidd, ar y cyfan, yn derbyn bod eu cymdeithas fabwysiedig yn un seciwlar, ac maent yn parchu hynny ac yn ddiolchgar am y croeso. Erbyn yr ail neu'r drydedd genhedlaeth, fodd bynnag, mae'r plantos yn ail-ddarganfod eu crefydd ac yn gwrthryfela yn erbyn y seciwlariaeth yma. Eu fersiwn nhw o "stick it to the Man" neu rhywbeth, am wn i. Mae pob llanc yn mynd trwy rhyw fath o gyfnod gwrthryfelgar, gwrth-sefydliadol. Ond yn achos llawer o Fwslemiaid ifanc, mae'n fersiwn lot mwy treisgar.

Yr hyn sy'n peri i mi dynnu fy ngwallt allan mewn rhwystredigaeth ydi'r ffaith bod miloedd yn protestio yn erbyn cartwnau crap neu araith rhyw hen ddyn, tra mae'r ffaith amlwg bod pob un gwlad Mwslemaidd yn crap yn cael ei anwybyddu. Yr unig gasgliad posibl ydi eu bod nhw'n ddigon bodlon efo'r gwledydd yma, ac yn wir isio cyflwyno rhai o nodweddion y gwledydd hynny (fel diffyg rhyddid barn, a deddfu rhyw fersiwn gwyrdroedig o "foesoldeb") i'w gwledydd mabwysiedig.

Sylwer ar y drafodaeth a gafwyd yn sgil araith y Pab. Mae pob awdurdod Mwslemaidd hyd y gwela i (hynny yw, y rhai cymhedrol honedig) wedi condemnio'r ffaith ei fod wedi meiddio dweud y fath beth o gwbl (heb sôn am y ffaith nad ydyn nhw hyd yn oed wedi deall pwynt Papa Ratzi yn y lle cynta). Mae hynny, i mi, yn safbwynt eithafol.

Mae 'na drafodaeth arall fan hyn, sef pam ddiawl 'dan ni'n rhoi ffycin crefydd ar rhyw bedestal mympwyol yn y lle cynta. Pam bod daliadau crefyddol yn haeddu cael eu hamddiffyn fwy nag unrhyw ddaliadau eraill? Ond edefyn arall ydi hwnna.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Llun 18 Medi 2006 6:55 pm

Dylan a ddywedodd:Y ffaith amlwg bod pob un gwlad Mwslemaidd yn crap.

Twrci? Yr Aifft? Malaysia, Bahrain? Tunisia? Rwyt ti'n siarad o brofiad personol a gwybodaeth fanwl, dwi'n cymryd?

Os caf i roi 'ngheiniogwerth i mewn, dwi'n meddwl bod rhai pobl wedi gorymateb i araith Joseph Ratzinger, ac mae'r gorymateb yn 'nrysu i braidd. Er enghraifft, mae eglwys Anglicanaidd ac un Uniongred yn Nablus wedi'u llosgi. Dwi'n meddwl hefyd bod rhaid darllen geiriau'r Pab yn eu cyd-destun, yn lle tynnu tri neu bedwar ohonyn nhw allan ar gyfer eu dyfynnu.

Ar y llaw arall, dwi'n gweld bod rhai ar begwn arall y sbectrwm, faint bynnag maen nhw'n smalio fel arall, wrth eu bodd efo'r gorymateb, sy'n cadarnhau eu rhagfarnau am Islam.

Os caf i dynnu cymhariaeth hanesyddol, dwi ddim yn cofio neb sôn am beryglon Catholigaeth pan oedd yr IRA yn bomio tafarndai yn Belffast a Birmingham. Yn yr un modd, fasai neb call yn galw Ariel Sharon yn enghraifft o Iddewaeth eithafol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Llun 18 Medi 2006 7:29 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Twrci? Yr Aifft? Malaysia, Bahrain? Tunisia?


Beth amdanyn nhw? Mae ambell un yn ddigon rhyddfrydol o'u cymharu â gwledydd eraill Mwslemaidd, mae'n wir (er alla' i ddim dallt pam ti 'di cynnwys Tiwnisia yn dy restr). Ond mae hynny'n dweud mwy am y gwledydd Mwslemaidd eraill nag am fy natganiad innau.

Mae Twrci yn llawer gwell na'r lleill, ond mae nhw'n dal i drin y Cwrdiaid fel baw. Mae 'na lot o le i boeni am ddiffyg rhyddid barn hefyd; gweler achos diweddar yr awdur Orhan Pamuk, a gafodd ei arestio am feiddio dweud bod Twrci wedi bod yn gyfrifol am hil-laddiad yn erbyn Armeniaid. Sydd, erm, yn berffaith wir. Ar ben hynny, mae'r fyddin yn dal llawer gormod o rym o ystyried bod y lle i fod yn ddemocrataidd.

'Dydyn nhw dal ddim yn agos at fod yn ddigon da i gael eu derbyn i'r UE.

Pan 'dw i'n dweud "shit", 'dw i'n golygu "annerbyniol". Mae rhai yn fwy derbyniol na'i gilydd, ond 'does yr un ohonyn nhw'n ddigon da mae arna' i ofn. I mi mae rhyddid barn, yn anad dim, yn absoliwt.

Ar y llaw arall, dwi'n gweld bod rhai ar begwn arall y sbectrwm, faint bynnag maen nhw'n smalio fel arall, wrth eu bodd efo'r gorymateb, sy'n cadarnhau eu rhagfarnau am Islam.


Wrth gwrs. Un o'r prif resymau pam mae hyn yn mynd ar fy nerfau gymaint ydi 'mod i'n gorfod dioddef yr artaith o weld twpsod rhagfarnllyd hunanfodlon (ac "adain dde") yn cilwenu ac yn dweud "ddwedais i do". Mae'n codi cyfog.

Wir, alla' i ddim credu pa mor wrth-gynhyrchiol mae'r protestiadau 'ma. "Be' haru chi'n awgrymu bod fy nghrefydd i'n un treisgar? Fel protest, wna i fod yn dreisgar!"
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan HBK25 » Llun 18 Medi 2006 8:50 pm

Pam bod hi'n mor anodd i'r crefyddau sylweddoli mae'r un duw mae nhw'n addoli? Mae'r holl gwrthdaro'n wirion.

Dwi'n falch fy mod i wedi sylweddoli nad oes duw. Wel, i mi does dim duw, beth bynnag. Efalla fy mod i'n hollol anghywir, ond dwi'n hapus i beidio credu.

Roedd y Pab yn gwneuud pwynt teilwng, sef fod crefydd a thrais yn mynd hefo'i gilydd ac wedi gwneud ers canrifoedd. Nid ymosod ar Islam yn benodol oedd y Pab, ond yn hytrach dangos agwedd rhai tuag at crefydd arall trwy ddyfynnu ymerawdwr hynafol.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron