Cymedrolwr: Chwadan
Dan Dean a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Dyfyniad oedd o. Taswn i'n dyfynu o Mein Kampf, ydw i'n Nazi?
Mae'n dibynnu, dydi. Dyfynnu yn un peth, cytuno yn beth arall.
Dan Dean a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Ond beth am y Muslim Council of Britain?
Be?! Da ni'n son am yr un corff sydd wedi derbyn ei "ymddiheuriad" yn fama? Ac ar ol i'r pab ddyfynnu, dyma ymateb ysgrifennydd MCB. Plis dangos unrhyw fath o gor ymateb neu eithafiaeth yn fama:Dr Muhammad Abdul Bari a ddywedodd:One would expect a religious leader such as the Pope to act and speak with responsibility and repudiate the Byzantine emperor's views in the interests of truth and harmonious relations between the followers of Islam and Catholicism.
Regrettably, the Pope did not do so and this has understandably caused a lot of dismay and hurt throughout the Muslim world.
Wwwwww, peryg. A ninnau'n meddwl eu bod yn gymhedrol.
Dan Dean a ddywedodd:A hefyd nid beirniadu'r pab am "leisio barn" mae nhw nage, mae'n chydig bach llai du a gwyn na hynnu. Meddylia am sefyllfa fel hyn rhwng dau berson:
Person A: "Ti'n dwat, ti'n thic, sa well gennyf sugno Ian Paisley na rhannu car efo chdi, cefais gachiad delach na dy wraig neithiwr, a sa'r byd ma yn well hebdda chdi"
Person B: "Un gair arall a ti'n mynd i gael clatsien"
Person A: "O typical chdi, yn beirniadu lleisio barn"
Dan Dean a ddywedodd:Rwan ta, y nonsens mai "dim canran fechan ydyn nhw", fel mae gormod o aelodau yn ddweud. Mae na 1.2 biliwn o Fwslemiaid yn y byd ma. Hyd y gwn i, os da chi yn rhoi bawb wnaeth brotestio/llosgi/lladd/bygwth oherwydd be ddwedodd y pab, siwr sa chi'n gallu ffitio nhw fewn i Stadiwm y mileniwm. Da chi'n siarad fel bod na filiynau di mynd allan ar y stryd yn ymhob gwlad yn y Dwyrain Canol. Gyda llaw, gennyf yr un safbwynt na chwaithau am y bobol sydd yn protestio/llosgi/lladd/bygwth am y peth. Wnaeth na un cleric drio cael "day of anger" ar ol be gafodd ei ddweud. Day of anger? Nes i weld hyn yn ddigri iawn. Mae'n anhebygol gymerodd rhywun hyn o ddifri
Garnet Bowen a ddywedodd:Hynny yw, mae'r MCB yn credu na ddylsa'r Pab fod wedi deud yr hyn ddeudodd o.
I fi, os ydi'r MCB ishio i ni eu cymeryd nhw o ddifri fel corff "cymhedrol", yna mae 'na gyfrifoldeb arnyn nhw i arddel syniadau cymhedrol. Yn yr achos yma, mi ddylsa nhw fod wedi condemnio'r protestwyr, ac amddiffyn hawl y Pab i ddeud ei farn.
Garnet Bowen a ddywedodd:Be ydi dy bwynt di? Mae gan Person A berffaith hawl i ddeud bob dim ti 'di restru uchod. Fyswn i ddim yn disgwyl i Person B fod yn ffrindia efo fo. Ond eto fyswn i ddim yn deud bod gan Berson B yr hawl i ddyrnu Person A, nac i fygwth person A.
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond lle oedd y lleisiau Mwslemaidd a fynegodd gefnogaeth i hawl y Pab i ddeud ei farn? Efallai mai dim ond lleiafrif aeth allan i brotestio yn erbyn y Pab, ond fe gondemniwyd ei sylwadau gan leisiau amlwg eraill o fewn y byd Mwslemaidd. Chlywais i neb yn arddel safbwynt a fyddai'n medru cael ei ddisgrifio fel "Islam Rhyddfrydol" neu "Islam Flaengar". A'r gwir ydi fod y lleisiau hyn yn brin iawn, iawn.
Dan Dean a ddywedodd:Ma siwr fuasai rhan fwyaf o Mwslemiaid yn cytuno bod ganddo hawl i'w farn, achos mond y lleiafrif bychan sydd yn eithafwyr. Nid yw'r ffaith bod na rhai heb ei amddiffyn o flaen y cyfryngau yn profi bod na leiafrif ohonynt, na chwaith yn profi eu bod yn erbyn hawl barn. "Prin iawn iawn", fy nhin.
Garnet Bowen a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Ma siwr fuasai rhan fwyaf o Mwslemiaid yn cytuno bod ganddo hawl i'w farn, achos mond y lleiafrif bychan sydd yn eithafwyr. Nid yw'r ffaith bod na rhai heb ei amddiffyn o flaen y cyfryngau yn profi bod na leiafrif ohonynt, na chwaith yn profi eu bod yn erbyn hawl barn. "Prin iawn iawn", fy nhin.
Mae'n anodd iawn profi hyn un ffordd neu'r llall. Yn sicr, tydw i ddim yn cytuno efo chdi bod mwyafrif Mwslemiaid y byd yn cefnogi hawl unigolyn i ryddid barn, os ydi'r hawl hwnw yn tramgwyddo eu daliadau crefyddol. A dwi'n meddwl bod bod yn gymhedrol yn golygu arddel safbwynt fel hyn. Ond mater o farn ydi hyn - mi fedrith y ddau ohonom ni ddeud "mae'n siwr bod hyn yn wir" tan Sul y Pys.
Sioni Size a ddywedodd:Croeso i'r byd mega buddhist o Garnet Bowen. Mae gan bawb hawl i weiddi unrhyw gelwydd sarhaus di-glem at eu giliydd, ac ia, sarhau dy deulu a dy holl berson, dy hunaniaeth a phob dim dan haul, a does gen ti ddim hawl i wylltio am hynny. Mae'n amlwg felly nad ydi Garnet erioed wedi gwylltio hefo neb am ddim.
Garnet Bowen a ddywedodd:Be sgen ti ddim hawl i'w wneud ydi bygwth, brifo, a lladd pobl.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai