Garnet Bowen a ddywedodd:Dyfyniad oedd o. Taswn i'n dyfynu o Mein Kampf, ydw i'n Nazi?
Mae'n dibynnu, dydi. Dyfynnu yn un peth, cytuno yn beth arall.
Garnet Bowen a ddywedodd:Ond beth am y Muslim Council of Britain? Be mae corff "cymhedrol", poblogaidd fel yr MCB yn ei wneud yn beirniadu dyn am leisio barn? Y lleisiau "cymhedrol" hyn sydd yn anog ac yn cynnal y lleiafrif eithafol.
Be?! Da ni'n son am yr un corff sydd wedi derbyn ei "ymddiheuriad" yn fama? Ac ar ol i'r pab ddyfynnu, dyma ymateb ysgrifennydd MCB. Plis dangos unrhyw fath o gor ymateb neu eithafiaeth yn fama:
Dr Muhammad Abdul Bari a ddywedodd:One would expect a religious leader such as the Pope to act and speak with responsibility and repudiate the Byzantine emperor's views in the interests of truth and harmonious relations between the followers of Islam and Catholicism.
Regrettably, the Pope did not do so and this has understandably caused a lot of dismay and hurt throughout the Muslim world.
Wwwwww, peryg. A ninnau'n meddwl eu bod yn gymhedrol.
A hefyd nid beirniadu'r pab am "leisio barn" mae nhw nage, mae'n chydig bach llai du a gwyn na hynnu. Meddylia am sefyllfa fel hyn rhwng dau berson:
Person A: "Ti'n dwat, ti'n thic, sa well gennyf sugno Ian Paisley na rhannu car efo chdi, cefais gachiad delach na dy wraig neithiwr, a sa'r byd ma yn well hebdda chdi"
Person B: "Un gair arall a ti'n mynd i gael clatsien"
Person A: "O typical chdi, yn beirniadu lleisio barn"
Garnet Bowen a ddywedodd:Fy mhryder i ydi mai dim ond canran fechan o Fwslemiaid sydd yn dal i arddel safbwyntiau call, cymhedrol.
Edrych mlaen i weld sail yr honiad uchod, yn enwedig dy syniad o safbwynt call a chymedrol gan un o'r Mwslims hynod brin 'ma. Fallai eu bod yn cefnogi bomio safleoedd niwcliar Iran.
Rwan ta, y nonsens mai "dim canran fechan ydyn nhw", fel mae gormod o aelodau yn ddweud. Mae na 1.2 biliwn o Fwslemiaid yn y byd ma. Hyd y gwn i, os da chi yn rhoi bawb wnaeth brotestio/llosgi/lladd/bygwth oherwydd be ddwedodd y pab, siwr sa chi'n gallu ffitio nhw fewn i Stadiwm y mileniwm. Da chi'n siarad fel bod na filiynau di mynd allan ar y stryd yn ymhob gwlad yn y Dwyrain Canol. Gyda llaw, gennyf yr un safbwynt na chwaithau am y bobol sydd yn protestio/llosgi/lladd/bygwth am y peth. Wnaeth na un cleric drio cael "day of anger" ar ol be gafodd ei ddweud.
Day of anger? Nes i weld hyn yn ddigri iawn. Mae'n anhebygol gymerodd rhywun hyn o ddifri
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi oedd 'na benawd ffantastis ar newyddion Radio 4 ddoe. "The Muslim Council of Britain has called on the Pope to distance himself from the views of his 14th century predecessor, Manuel II Palaeologus". Distance himself? Onid ydi 600 mlynedd yn ddigon o "distance" rhwng y ddau ddyn?
Nadi, ond mae o digon o amser. Tyrd flaen Garnet, pawb yn gwybod be oedd y bennawd yn ei feddwl yn iawn, tydi?