Y Pab wedi rhoi ei sandal ynddi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Pab wedi rhoi ei sandal ynddi

Postiogan Macsen » Gwe 15 Medi 2006 12:49 pm

Pam fod yn rhaid i'r Pab ddenu llid y byd moslemaidd deuddydd cyn i fi fynd i'r Eidal ar fy ngwyliau? Pach.

Be' bynnag, doedd dim yn anghywir gyda be ddywedodd o hyd y gwela i. Dim ond dyfynnu rywun arall oedd o. Oes lleiafrif o foslemiaid yn gor-ymateb unwaith eto?

Muslims mad in Pope mishap
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 15 Medi 2006 12:52 pm

Fel y dywedodd Gwallter Gwalldgoch Gocfawr yn 1578: 'Mae Macsen yn dwat'.

Dim ond dyfynnu...
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan mam y mwnci » Gwe 15 Medi 2006 1:06 pm

"It is clear that the Holy Father's intention is to cultivate a position of respect and dialogue towards other religions and cultures, and that clearly includes Islam" Clearly :rolio:

Dwi'n meddwl bydd angen mwy na hyn i gael y pab allan o hyn.

mae'r peth yn disgrace a dyfynu neu beidio nath o ddim dweud ei fod yn anghytuno efo'r dyfyniad - twat.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Llefenni » Gwe 15 Medi 2006 1:25 pm

Erthygl yn The First Post yn cymeryd ochr arall y ddadl...
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan HBK25 » Gwe 15 Medi 2006 1:34 pm

Y pab yn twat? Mae'n siwr y bydd nifer yn y gyfryngau yn son am ei ddyddiau (dan orfodaeth) yn y Hilter Youth a'r araith yma fel prawf o'i ddrygioni. I fod yn onest, 'sgen i'm ots beth mae Mwslems a Criistnogion yn dweud am ei gilydd.

Mae Mwslemiaid yn beirniadu'n cymdeithas seciwlar ayyb. Digon teg. Mae'r pab yn gwneud sylwad am farn rhyw ymerawdwr hynafol i ddangos anealltwriaeth crefyddau (?) tuag at eu gilydd. Digon teg.

I ddweud y gwir, fel rhywun hollol seciwlar nad yw'n poeni dim am beth mae Mohammed na'r Iesu'n pregethu, dwi'm yn gweld yr holl ffys. Mae'r Mwslemiaid a'r Cristnogion yn digon parod i slagio pethau off, ond pan mae rhywun o'r ochr arll yn ei beirniadu nhw, mae'n "cywilyddus2, "hiliol" ayyb.

Os wyt ti'n ddiog twp i gredu'r straeon tylwyth teg yn y beibl a'r koran, ti'n haeddu popeth ti'n cael. Pam na all pawb jyst ymddwyn yn dda heb yr angen am ddogma i'w gorfodi nhw i wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 15 Medi 2006 3:20 pm

Oes gan unrhywun syniad be yn union ddeudodd o? Yr araith i gyd, nid y dyfyniad.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan huwwaters » Gwe 15 Medi 2006 3:22 pm

Ma hwn yn ddatblygiad diddorol ar y ddwy ochor.

Byddai unrhyw ymosodiaeth tuag at Pabyddiaeth gan Islam yn tynnu De America ac ynysoedd fel Indonesia a Pilipinas.

Byddai'n anoddach i bobl bod yn beio'r 'Gorllewin', gan fod y Dwyrain wedi ei dynnu fewn hefyd, yn ogystal a tensiynau yn Indonesia, ble mae nifer fawr o Mwslemiaid a Phabyddion yn byw.

Swnio'n wirion, ond mae'r Catholigion yn nyth cacwn i'r Mwslemiaid.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 15 Medi 2006 5:08 pm

Co'r linc i'r Araith gyfan gan y Pab.

Y dyfynaid gwreiddiol oedd gan Manuel II Palaeologus, o'r Ymerodraeth Bysantaidd. Dwi di trial darllen y pdf er bod e'n llawn o'r guff catholeg arferol, oherwydd ma diddordeb gyda fi mewn hanes y Bysantwyr (s'gen i ddim diddordeb mewn materion Crefyddol), a dyw'r Panzer-Pab dim yn ymosod arno'r Mwslemaid o gwbl o be fi'n gallu gwel.

Gor-ymateb ganddo'r Mwslemaid eto, ond weud hynny, ond odd y dewis o dyfyniad yn eitha twp gan y Pab - dyle fe di wbod yn nêt bydde'n achosi stwr.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Macsen » Gwe 15 Medi 2006 7:54 pm

Mae gan y Pab berffaith hawl i ddyfynnu pwy bynnag mae o ei eisiau. Wnaeth o ddim roi unrhyw arwydd ei fod o'n cytuno gyda geiriau Manuel II Palaeologus.

Mae cwyno am gartwn sy'n mynd ati i gorddi yn un peth, ond mae ceisio rhoi stop ar hawl pobol i hyd yn oed gyfeirio at farn pobol gwrth-fwslemaidd yn mynd yn llawer rhy bell. Mae fel dweud bod fi'n dyfynnu Hitler mewn traethawd ar y natsis yn fy ngwneud i'n wrth-Semitaidd.

Bydd hyn yn cefnogi barn rhai bod nifer o Fwslemiaid jest yn chwilio am ffeit. Gobeithio wir na fydd y Pab yn ymddiheuro.

Ylwch ar y dyfyniad yma:

AHMAD KHATAMI, IRANIAN CLERIC a ddywedodd:It is unfortunate to see that the leader of the world's Christians is so ill-informed about Islam and speaks so shamelessly.

Petai fo mor 'informed' ei hun mi fyddai'n gwybod mae'n debyg nag y Pab yw arweinydd holl Gristnogion y byd? :rolio:

Mae'r caption yma'n dweud cyfrolau hefyd:

Some Indian Muslims burnt an effigy of the world's Roman Catholic leader who quoted remarks which linked Islam to violence.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Garnet Bowen » Sul 17 Medi 2006 9:37 am

Mi oedd 'na benawd ffantastis ar newyddion Radio 4 ddoe. "The Muslim Council of Britain has called on the Pope to distance himself from the views of his 14th century predecessor, Manuel II Palaeologus". Distance himself? Onid ydi 600 mlynedd yn ddigon o "distance" rhwng y ddau ddyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron