Osama bin Laden: wedi marw?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Osama bin Laden: wedi marw?

Postiogan huwcyn1982 » Sad 23 Medi 2006 10:07 am

Adroddiadau bore 'ma bod Osama bin Laden wedi marw o typhoid mis yn ôl, ym Mhacistan.

Mae'r papur newydd Ffrangeg, L'Est Republicain, yn dyfynnu o ddogfennau maent yn honni sy' di dod o'r gwasanaethau cudd.

Yn ôl y papur, mae Saudi Arabia yn hollol confinsd bo bin Laden wedi marw yn hwyr ym mis Awst. Mae Pacistan yn dweud bo nhw'n gwbod dim am yr honiadau.

Os mae'n farw, yn sicr mae digon o ffanatics i lenwi ei sgidie. Ond gwell iddo farw fel hyn yn hytrach na marw fel ryw martyr? (er bydd rhai dal yn ei addoli fel un beth bynnag sy'n digwydd iddo)

Gol.: Dyma'r stori
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Osama bin Laden: wedi marw?

Postiogan dylunio » Sad 23 Medi 2006 2:01 pm

huwcyn1982 a ddywedodd:Ond gwell iddo farw fel hyn yn hytrach na marw fel ryw martyr?
Efallai mae hyn yn well, os yw wedi digwydd o gwbl. Pe bai'r yanks di'i ladd/dal a'i ladd mi fyddai'n ferthur i'w ddilynwir, ac byddai Bush yn anioddefol o hapus. Y ffordd yma mae'n marw heb gormod o hylabalw rhyngwladol, a dydy neb yn 'ennill' fel petau.
Rhithffurf defnyddiwr
dylunio
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 21 Medi 2006 9:17 pm

Postiogan Chip » Sad 23 Medi 2006 7:30 pm

clywes i fel conspiracy theorys bod e 'di marw falle blwyddyn yn ol a just wedi recordio lot o tapiau fygythiol mewn wythnos cyn marw, beth bynnag roedd e ddim yn neud lot, odd e ddim yn wybod am 9/11 nes iddo ddigwydd a ma digon o ffanatics dal mas na i dal(which hunt style)!
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Macsen » Sul 24 Medi 2006 9:58 am

Dwi'n meddwl y byddai mwy o stwr wedi dod o gyfeiriad Al-Q petai o wedi marw go iawn. Fel dyn ni'n gwybod tydyn nhw ddim yn rai i gadw eu teimladau'n gudd a galaru'n dawel.

Ond mi fydden nhw dal yn ei gyfri o fel merthyr oherwydd roedd o'n cuddio, a methu cael triniaeth meddygol, am fod y 'Satan Mawr' yn ceisio ei ladd o.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwcyn1982 » Sul 24 Medi 2006 10:25 am

Debyg bod neb yn credu'r Ffrancwyr nawr, gyda lot o ymatebion "we know nothing!" oddi wrth y Saudis a Phacistan, a dim ymateb gan America a Phrydain.

A wel, tro nesa falle.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Sul 24 Medi 2006 10:54 am

Dwi'n meddwl y byddai Pakistan yn ceisio darganfod y bedd a datgladdu'r corff cyn cyhoeddi ei fod o wedi marw. Y peth olaf fydden nhw ei eisiau yw cysegrfa i'r merthyr yn troi'n ryw fath o ail Mecca ar eu tir nhw. Yn ogystal a hynny byddai'r corff yn brawf terfynol - mi fyddai braidd yn chwithig arnyn nhw petai nhw'n cadarnhau y marwolaeth ag yna Osama yn rhyddhau tap arall o tu hwnt i'r bedd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sanddef » Llun 25 Medi 2006 3:41 pm

A fydd Osama'n cysgu mewn ogof, yn aros ei amser, fel ein Harthur a'n Howain ni?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai