Corea wedi defnyddio bomb niwclear

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Corea wedi defnyddio bomb niwclear

Postiogan dave drych » Llun 09 Hyd 2006 10:32 am

O shit

Pam oedd angen iddyn nhw neud hynne?!

Dwi fy hun ddim yn siwr be dylai ymateb y 'gymdeithas rhyngwladol' fod. Dwi'm isho gweld rhyfel arall, ond dwi'm isho gweld bob gwlad dan haul yn cael get-away efo iwsho ffycin atom bomb.

Dwi'n drist cos o hyn.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Llefenni » Llun 09 Hyd 2006 10:41 am

Wel yn ôl Edward Luttwak yn y First Post, sna'm pwynt poeni'n ormodol am y peth... :?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan krustysnaks » Llun 09 Hyd 2006 11:18 am

Llefenni a ddywedodd:Wel yn ôl Edward Luttwak yn y First Post, sna'm pwynt poeni'n ormodol am y peth... :?

Sôn am y profion ar daflegrau mae'r erthygl yna, nid am y prawf niwclear.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan bartiddu » Llun 09 Hyd 2006 11:37 am

Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Josef_K » Maw 10 Hyd 2006 10:43 am

Fy hunan, dwi'n meddwl dylai'r ymateb i sylweddoli bod yr polisi dyn ni wedi bod defnyddio yn erbyn Corea - sef sanctions, a geisio ynysu'r gwlad, ddim yn weithio. Dyn ni'n dim ond gwthio'r gwlad i mewn cornel. Dylai'r ymateb i siarad wrth Gogledd Corea, i gynnig gymorth i'r economi y gwlad, nid i gondemnio nhw fel rhan o rhyw fath o "axis of evil". Mae'n amlwg bod y polisiau presennol ddim yn gweithio yn gyfan gwbl. Maen nhw'n cael, yn hytrach, yr effaith o greu un union beth sy'n pryderu ni.

Ond, bydd yr ymateb mwy o'r un, dwi'n siwr, ond nawr gyda Tsieina "on side" hefyd. Allai ddim yn weld sut mae hi'n mynd i helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
Josef_K
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Mer 04 Hyd 2006 8:50 am

Postiogan sanddef » Llun 16 Hyd 2006 1:01 pm

...ac os nad oedd Corea Niwclear yn ddigon drwg, mae Culture Club wedi ailffurfio hefyd. Help!!!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Positif80 » Llun 16 Hyd 2006 1:49 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:...ac os nad oedd Corea Niwclear yn ddigon drwg, mae Culture Club wedi ailffurfio hefyd. Help!!!


Dyna ddau o'r tri hunllef sy'n arwyddion o'r Armageddon...dim ond sioe "prime time" ar sianel genedlaethol am tipit sydd..o shit.... :crechwen:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dili Minllyn » Maw 17 Hyd 2006 7:30 pm

Rhagrith bur yw honni bob Gogledd Corea yn beryglus gan fod ganddi arfau niwclear, ond derbyn, ac amddiffyn hyd yn oed, hawl llu o wledydd eraill i'w cadw nhw. Ar hyn o bryd, mae gan yr Unol Daleithiau tua 9,000 ohonyn nhw; Rwsia tuag 20,000, er bod hanner y rhain mewn storfeydd; Ffrainc tua 350; Tsieina - un o brif feirniaid Corea - tua 400; Prydain tua 200; yr India hyd at 85; Pacistan hyd at 50; ac Israel hyd at 200. (Ffynhonnell). Nes bod y rhain yn dechrau diarfogi o ddifrif, dwi ddim yn gweld bod hawl ganddyn nhw i godi stwr am Ogledd Corea.

At hynny, mae'r Groes Goch eisoes wedi darogan y bydd y mesurau newydd yn erbyn Gogledd Corea yn arwain ddioddefaint dychrynllydd i bobl ddiniwed y wlad.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Positif80 » Mer 18 Hyd 2006 9:50 am

O wel, mae gennym ni arfau niwclear, felly 'sgen Prydain a'r UDA ddim hawl i rwystro nytjob fel Kim Jong Il rhag eu datblygu? Makes perfect sense. :crechwen:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan huwwaters » Mer 18 Hyd 2006 10:18 am

Positif80 a ddywedodd:O wel, mae gennym ni arfau niwclear, felly 'sgen Prydain a'r UDA ddim hawl i rwystro nytjob fel Kim Jong Il rhag eu datblygu? Makes perfect sense. :crechwen:


Wel, o bersbectif Kim Jong-Il, siwr bod o'n gweld Prydain a'r UDA yn nytjobs, o weld bod nhw di honni bod na arfau o ddinistr mawr yn Irac a bod Osama Bin Laden yn Afghanistan, wedyn ymosod a preswylio yn y gwledydd yma yn ôl honiadau.

Ond dwi'n meddwl prif bryder y byd yw bod hyn ddim yn cychwyn ryw fath o arms race yn yr ardal gyda Japan ac Indo-China yn teimlo bod gorfodaeth iddynt ymuno â'r clwb niwclear.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron