Rhagrith bur yw honni bob Gogledd Corea yn beryglus gan fod ganddi arfau niwclear, ond derbyn, ac amddiffyn hyd yn oed, hawl llu o wledydd eraill i'w cadw nhw. Ar hyn o bryd, mae gan yr Unol Daleithiau tua 9,000 ohonyn nhw; Rwsia tuag 20,000, er bod hanner y rhain mewn storfeydd; Ffrainc tua 350; Tsieina - un o brif feirniaid Corea - tua 400; Prydain tua 200; yr India hyd at 85; Pacistan hyd at 50; ac Israel hyd at 200. (
Ffynhonnell). Nes bod y rhain yn dechrau diarfogi o ddifrif, dwi ddim yn gweld bod hawl ganddyn nhw i godi stwr am Ogledd Corea.
At hynny, mae'r Groes Goch eisoes wedi darogan y bydd y mesurau newydd yn erbyn Gogledd Corea yn arwain
ddioddefaint dychrynllydd i bobl ddiniwed y wlad.