'An Daingean' ynteu 'Dingle'?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'An Daingean' ynteu 'Dingle'?

Postiogan Socsan » Mer 18 Hyd 2006 5:50 pm

Newydd weld y stori yma ar wefan y bbc.

Ffrae sydd yn mynd mlaen mewn tref yn De-orllewin Iwerddon ynglyn a'r ffaith fod y llywodraeth wedi newid enw'r dref yn swyddogol o "Dingle" i "An Daingean". Bydd refferendwm yno yn fuan i benderfynu os caiff yr enw newydd aros ai pheidio. Wrth ddarllen yr erthygl, sylwais fod nifer o'r un hen pwyntiau ynglyn a iaith yn cael eu gwneud draw yn fancw ag sydd yn cael eu gwneud yma... Yr unig wahaniaeth oedd mai enw uniaith Wyddelig maen nhw wedi roi ar y dref yma nid enw dwyieithog fel cyfaddawd (fel rhan helaeth o enawu lleoedd Cymraeg) - "The government says there is no precedent for a town to have a bilingual name" - roeddwn yn meddwl fod hyn yn diddorol. Be ydach chi'n feddwl, ddylia nhw roi enw dwyieithog ar y lle er mwyn cadw'r "Dingle brand" i fynd?
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan sanddef » Iau 19 Hyd 2006 12:46 pm

Fel rheol byddwn i'n cefnogi enw uniaith brodorol. Heb weld y stori byddwn yn dychmygu fod y broblem yn yr achos yma'n hanu o'r ffaith fod Dingle eisoes wedi dod yn gyfarwydd fel enw sy'n denu twristiaid (yn enwedig oherwydd y dolffin sy'n byw yno). Efallai maen nhw'n poeni byddai cael gwared o'r enw Saesneg yn drysu twristiaid (?).

O.N.
Wedi darllen y stori. O'n i'n iawn. A dweud y gwir petawn i'n Wyddel Gwyddeleg byddwn i'n cefnogi'r newid.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan khmer hun » Iau 19 Hyd 2006 1:34 pm

Ddim cweit yn deall y ddadl 'An Daingean v Dingle-Daingean Ui Chuis' yma.

Mae'r ochr sy' ddim am golli enw Dingle yn dadlau mai 'Daingean Ui Chuis' yw'r hen enw, nid An Daingean. O ble mae'r dryswch wedi dod?

Wedi bod yno ac wedi gweld Fungie'r dolffin; un bach neis yw e 'fyd. A swn i'n cael dim trafferth yn ffeindio rhywle lle ag enw Gwyddeleg, gyda map. Maen nhw 'di colli shwd gyment o'r enwe druan. Meddwl bod e'n wych bod nhw'n pwyso am arwyddion unieithog.

* Hefyd credu bod hi'n ddyletswydd arnon ni iwsio'r enwe gwreiddiol wrth drafod trefi Iwerddon. Peidiwch bod yn ddiog a jyst dweud Dulyn, Waterford a Killarney, ond rhowch Bhaile Átha Cliath, Phort Láirge a Cill Airne yn gynta'; defnyddiwch Wikipedia i ffeindio'r Wyddeleg.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhys » Iau 19 Hyd 2006 1:44 pm

khmer hun a ddywedodd:* Hefyd credu bod hi'n ddyletswydd arnon ni iwsio'r enwe gwreiddiol wrth drafod trefi Iwerddon. Peidiwch bod yn ddiog a jyst dweud Dulyn, Waterford a Killarney, ond rhowch Bhaile Átha Cliath, Phort Láirge a Cill Airne yn gynta'; defnyddiwch Wikipedia i ffeindio'r Wyddeleg.


Ti'n llygad dy le, yn enwedig pan yn eu trafod yn Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 19 Hyd 2006 2:10 pm

A ddylen ni alw Wexford yn Llwch Garmon felly?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan khmer hun » Iau 19 Hyd 2006 2:23 pm

O'n i'n disgwyl am y smart alec; gofyn amdani siwr o fod wrth weud 'peidiwch... rhowch... defnyddiwch' yn lle dweud 'dw i'n rhoi ... yn fy marn i' ayb. Ah, wel.

Loch Garman yw e'n y Wyddeleg, hyd y gwela i.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Socsan » Iau 19 Hyd 2006 2:42 pm

Cyntuno hefo'r syniad o ddefnyddio'r enwau Gwyddelig yn lle'r enwau Saesneg.

Beth oedd wedi fy synnu i ynglyn a pholisi enwau lleoedd yn Iwerddon, oedd y ffaith nad oes ganddyn nhw'r opsiwn o gael enw dwyieithog. Dim mod i'n meddwl y dyla nhw wneud hynny, jyst pan ydych chi'n cysidro'r ffaith fod y Gymraeg mewn sefyllfa gymaint iachach na'r Wyddeleg mewn sawl ffordd, fysa chi'n meddwl y bysa NI mewn sefyllfa well i wthio am enwau lleoedd uniaith Gymraeg...
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 19 Hyd 2006 3:18 pm

khmer hun a ddywedodd:O'n i'n disgwyl am y smart alec; gofyn amdani siwr o fod wrth weud 'peidiwch... rhowch... defnyddiwch' yn lle dweud 'dw i'n rhoi ... yn fy marn i' ayb. Ah, wel.

Loch Garman yw e'n y Wyddeleg, hyd y gwela i.


Sori. O'n i'n methu help y'n hun! :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dili Minllyn » Llun 23 Hyd 2006 8:03 pm

Am ba resymau bynnag, mae pobl An Daingean wedi pleidleisio'n llu dros enw dwyieithog yn lle'r un Gwyddeleg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan sanddef » Maw 24 Hyd 2006 1:45 pm

Rhys a ddywedodd:
khmer hun a ddywedodd:* Hefyd credu bod hi'n ddyletswydd arnon ni iwsio'r enwe gwreiddiol wrth drafod trefi Iwerddon. Peidiwch bod yn ddiog a jyst dweud Dulyn, Waterford a Killarney, ond rhowch Bhaile Átha Cliath, Phort Láirge a Cill Airne yn gynta'; defnyddiwch Wikipedia i ffeindio'r Wyddeleg.


Ti'n llygad dy le, yn enwedig pan yn eu trafod yn Gymraeg.


Mae Dulyn yn hen enw Cymraeg, fel Caeredin, Caerwrangon, Llundain, a Rhufain. Dw'i'm yn gweld pwynt disodli enwau sydd yn rhan o'n hiaith.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron