Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 3:04 pm
gan S.W.
Socsan a ddywedodd:
Beth oedd wedi fy synnu i ynglyn a pholisi enwau lleoedd yn Iwerddon..........


Na. "Eire" ti'n feddwl! Cofia, dim ond enwau Celtaidd wan! <gwenoglyn>

Galw'r tre ar gyrion Dulyn, wps sori Bhaile Átha Cliath yn Dunleaoghaire (sut bynnag mae ei sillafu o) yn well na'i alw o'n Kingstown am wn i!

Ond Dulyn fyddai wastad yn ddeud am Dublin, oherwydd dyna ydy'r enw Cymraeg, fel arall waeth i fi alw Lloegr yn England, Caer yn Chester neu Deva, Lerpwl yn Liverpool a'r Almaen yn Deutchland.

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 3:24 pm
gan khmer hun
Dyfaru mod i rioed wedi crybwyll Dulyn. Pob un arall te. Oce, gewch chi roi Llinon am Shannon os chi'n fechgyn da :winc:

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 3:59 pm
gan S.W.
Mond herian, just ufflon o job cofio'r enwau gwreiddiol ma i gyd pan ti di arfer hefo'r rhai eraill (estron?).

Mae'n bwynt teg, ond mater o arfer ydy o, byddai digwydd bod yn hedfan i'r Alban (neu Alba) mewn 3 wythnos, dim i Glaschu (neu Glasgoed fel mae rhai yn dadlau) ond i Glasgow (wedi ei anganu yn Glazgo).

Gyda'r peth yn Iwerddon, dwin hoffi'r ddadl gan y rhai o blaid newid yr enw i'r ffurf gwreiddiol, sef does ddim rhaid i chi ei ddefnyddio ond dyna fydd ynr enw swyddogol. Mae'n debyg mewn amser byddai pobl yn arfer a gweld y ffurf gwreiddiol ar gyfer Dingle.

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 4:07 pm
gan Cardi Bach
Mae'n atgoffa fi rhywfaint o ddadl fuodd yn Aberteifi rhyw flwyddyn neu flwyddyn a hanner yn ol.

Odd Menter Tref Aberteifi (wy'n credu) wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth am Aberteifi iw dosbarthu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt ermwyn marchnata'r dre.

Y drafferth oedd iddyn nhw rhoi'r Saesneg yn gynta gyda Cardigan ar ben y daflen ac Aberteifi ar ei waelod hi.

Ath hi'n grasfa lawr sha Aberteifi ar y Cyngor Tre gyda John Adams Lewis (odd yn faer ar y pryd, os wy'n cofio'n iawn) yn mynnu y dylid rhoi'r Gymraeg ar y top. Odd y Fenter yn dadlau os fyddai'r gymraeg ar y top yna fyddai neb yn gweld y Saesneg am ei fod e wedi ei gwato tu ol i 'flyers' eraill, ac fod 'Cardigan' yn enw brand adnabyddus y byddai'n denu pobl, tra fo 'Aberteifi' yn golygu dim byd i unrhy un heblaw am siaradwyr Cymraeg! :rolio:

Blydi nonsens wir. Whare teg i John Adams Lewis, weda i.

Wy'm yn gwbod beth odd canlyniad y ffrae chwaith.

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 5:40 pm
gan Rhys
sanddef rhyferys a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:
Ti'n llygad dy le, yn enwedig pan yn eu trafod yn Gymraeg.


Mae Dulyn yn hen enw Cymraeg, fel Caeredin, Caerwrangon, Llundain, a Rhufain. Dw'i'm yn gweld pwynt disodli enwau sydd yn rhan o'n hiaith.


Beth oeddwn i'n feddwl oedd waeth ni ddefnyddio enwau Gwyddelig ddim tra'n trafod llefydd yn Gymraeg o leaif. Bydde'n i'n dadlau bod eisiau defnyddio'r enwau greiddiol (beth bynnag oeddynt!) hefyd wrth siarad Saesneg yn hytrach na defnyddio'r enw Saesneg. Ond fel sydd wedie i nodi, dylwn ninnau wedyn ddefnyddio Manchester yn lle Manceinion neu rydan ni yr un mor euog.

(siawns doedd dim fath le a Manceinion yn ystod oes y Rhufeiniaid)

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 11:08 am
gan Mici
Ynglyn a'r pwnc An Daingean yntau Dingle, er fod mwyafrif wedi bleidlesio i newid roedd o'n deud ar y Nuacht :winc: newyddion neithiwr fod yr aelod o'r Dail dros y dref yn dweud fod ganddynt ddim sail a grym i newid yr enw beth bynnag. Ymdrech di-bwynt efallai.

Pnawn ddoe on i yn edrych ar teledu dydd(Richard and Judy Gwyddelig, ond ma Grianne Seioge yn ddelach o lawr na Judy :D ) a oedd na Wyddal yn mynd yn wyllt fod ei bres treth o yn mynd tuag at gynnal diwylliant a'r iaith Wyddeleg, a hollol yn erbyn dysgu iaith wyddeleg mewn ysgolion. Trist iawn efo statws swyddogol sydd gan Gwyddeleg o fewn Ewrop fuasai hi yn gallu cryfhau yn y blynyddoedd nesaf, ond o be dwi dwi weld a darllen hyd yma di'r ewyllys ddim yna.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 12:43 pm
gan sanddef
Mici a ddywedodd: Pnawn ddoe on i yn edrych ar teledu dydd(Richard and Judy Gwyddelig, ond ma Grianne Seioge yn ddelach o lawr na Judy :D )


Hawdd credu :D

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 12:49 pm
gan sanddef
Mici a ddywedodd:Ynglyn a'r pwnc An Daingean yntau Dingle, er fod mwyafrif wedi bleidlesio i newid roedd o'n deud ar y Nuacht :winc: newyddion neithiwr fod yr aelod o'r Dail dros y dref yn dweud fod ganddynt ddim sail a grym i newid yr enw beth bynnag. Ymdrech di-bwynt efallai.

Pnawn ddoe on i yn edrych ar teledu dydd(Richard and Judy Gwyddelig, ond ma Grianne Seioge yn ddelach o lawr na Judy :D ) a oedd na Wyddal yn mynd yn wyllt fod ei bres treth o yn mynd tuag at gynnal diwylliant a'r iaith Wyddeleg, a hollol yn erbyn dysgu iaith wyddeleg mewn ysgolion. Trist iawn efo statws swyddogol sydd gan Gwyddeleg o fewn Ewrop fuasai hi yn gallu cryfhau yn y blynyddoedd nesaf, ond o be dwi dwi weld a darllen hyd yma di'r ewyllys ddim yna.


I'r rhan fwyaf o'r Gwyddelod mae'r iaith yn rhan o'u treftadaeth, ond yn yr un ffordd mae'r kilt tartan yn rhan o dreftadaeth yr Alban. Dim ond yng Ngogledd Iwerddon ydy teimladau tua'r iaith yn nesau at y sefyllfa yng Nghymru, ac hynny oherwydd yng ngogledd Iwerddon mae iaith, hunaniaeth a diwylliant yn rhan o wleidyddiaeth.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 1:15 pm
gan Rhys
Mici a ddywedodd:Pnawn ddoe on i yn edrych ar teledu dydd(Richard and Judy Gwyddelig, ond ma Grianne Seioge yn ddelach o lawr na Judy :D ) a oedd na Wyddal yn mynd yn wyllt fod ei bres treth o yn mynd tuag at gynnal diwylliant a'r iaith Wyddeleg, a hollol yn erbyn dysgu iaith wyddeleg mewn ysgolion.

Darllenais am y rhaglen ar flog Raiméis (Raiméis yw 'malu cachu' mewn Gwyddeleg). Mae'n debyg mae gwr or sefydliad Open Republic Institute oedd yn gwneud y sylwadau? Swnio fel llwyth o wancars neo-ceidwadol gyda'u trwynnau fyny tinnau'r dde Americanaidd. Dyma ddynfyniad o'u gwefan:

new research suggests that free trade spreads peace

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 2:04 pm
gan Mici
Wow, dim mond fi sylwodd mai prat o'r radd flaenaf oedd y boi felly, rhyfadd o fyd. 8)

Adra rwan i weld beth fydd arno fo heddiw!