Dwi o blaid Masnach Deg oherwydd mai marchnad anghyfartal, anghytbwys yw'r farchnad rydd sydd gyda ni. Mae grym prynu nifer o nwyddau, fel te a choffi, yn cael ei grynhoi yn fwyfwy yn nwylo ychydig bach o gwmnïau mawr, sy'n gallu ystumio'r farchnad a chodi crobris gan gwsmeriaid yn siopau'r wlad yma tra'n cynnig prisiau pitw iawn am eu cynnyrch crai i ffermwyr Affrica.
O ran yr ochr arall i'r ddadl, mae'r
erthygl yma yn cyflwyno'n ddeallus dadleuon rhai o bleidwyr y farchnad rydd yn erbyn Masnach Deg.