Michael J Fox a Rush Limbaud

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Michael J Fox a Rush Limbaud

Postiogan Positif80 » Iau 26 Hyd 2006 10:35 am

Son am gicio dyn pan mae o i lawr. Mae'r cyflwynwr radio Rush Limbaud wedi cyhuddo Michael J Fox o ffugio symptomau yr afiechyd parkinson. Not nice :? .
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Michael J Fox a Rush Limbaud

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 27 Hyd 2006 9:24 am

Positif80 a ddywedodd:Son am gicio dyn pan mae o i lawr. Mae'r cyflwynwr radio Rush Limbaud wedi cyhuddo Michael J Fox o ffugio symptomau yr afiechyd parkinson. Not nice :? .


Errr, na, fi'n credu mai beth wnaeth Limbaugh oedd cyhuddo Fox o ddefnyddio'i symptomau er mwyn ennyn cydymdeimlad yn ystod hysbyseb i'r Democratiaid. Mae'r fideo i'w weld fan hyn.

Yn ôl y sôn, mae Limbaugh wedi ymddiheuro, ond dyw'r twat byth yn golygu unrhyw ymddiheurad. Mae Druggie Limbaugh yn afiach o foi.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Michael J Fox a Rush Limbaud

Postiogan Positif80 » Gwe 27 Hyd 2006 10:24 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Son am gicio dyn pan mae o i lawr. Mae'r cyflwynwr radio Rush Limbaud wedi cyhuddo Michael J Fox o ffugio symptomau yr afiechyd parkinson. Not nice :? .


Errr, na, fi'n credu mai beth wnaeth Limbaugh oedd cyhuddo Fox o ddefnyddio'i symptomau er mwyn ennyn cydymdeimlad yn ystod hysbyseb i'r Democratiaid. Mae'r fideo i'w weld fan hyn.

Yn ôl y sôn, mae Limbaugh wedi ymddiheuro, ond dyw'r twat byth yn golygu unrhyw ymddiheurad. Mae Druggie Limbaugh yn afiach o foi.


O'r dyfyniadau dwi wedi darllen, mae Limbaugh yn dweud fod Fox yn "exaggerating" effeithiau'r afiechyd neu o beidio cymeryd ei dabledi er mwyn creu darlun gwaeth o'r afiechyd. Dyna beth o'n i'n meddwl trwy ddweud "ffugio" - o'n i'n methu a chofio'r gair Cymraeg am "exaggerate". Sori am y camarweiniad. :(

Dwi'n gwybod ei fod o wedi ymddiheuro am hynna. ond ei fod o wedyn wedi dweud fod Fox yn ddefnyddio ei symptomau.

Cytunaf nad yw Limbaugh yn creu argraff da ar bobl.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Wilfred » Gwe 27 Hyd 2006 10:48 am

Dyma ran o'r hyn nath Rush Limbaud i ddeud.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Gwe 27 Hyd 2006 1:12 pm

hen dwat bach anifyr yw'r pwrs libaugh :drwg:
glywes i'r cyfweliad ag ynte'n gweud fod fox yn 'exaggerating' - dyw'r boi yn amlwg ddim yn gyfarwydd ag afiechyd Parkinson.

Odd nain yn diodde o'r afiechyd am rhagor na degawd ac does dim posib 'exaggerato' symudiadau fel yna.

twlsyn o foi.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Positif80 » Gwe 27 Hyd 2006 1:20 pm

Mae nhw'n dweud fod dioddeddwyr o Parkinsons yn cael diwrnodau da a drwg, felly mae'n siwr nad oedd ei dabledi'n cael gymaint o effaith pan ffilmwyd y fideo.

Mae'r effeithiau'n reit glir ar gyfresi olaf Fox ar Spin City, lle mae o'n ceisio ei orau i guddio'r peth ond yn methu gwneud, felly'n mae'n anodd dadlau mae "exaggeratio"'r broblem mae Fox.

Mae'r syniad o ychwiliad stem cell yn gymleth i fi oherwydd nad ydw i o blaid erthyliad, heblaw am achosion lle fydd y mam yn marw os nad yw'r proses yn cael ei gwneud. Ond eto, os mai dyma'r unig ffordd sydd o wella'r clefyd ofnadwy yma, pwy ydi Limbaugh i feirniadu'r rhai sy'n ceisio helpu pobl?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan ceribethlem » Gwe 27 Hyd 2006 3:44 pm

Cardi Bach a ddywedodd:hen dwat bach anifyr yw'r pwrs libaugh :drwg:
glywes i'r cyfweliad ag ynte'n gweud fod fox yn 'exaggerating' - dyw'r boi yn amlwg ddim yn gyfarwydd ag afiechyd Parkinson.

Odd nain yn diodde o'r afiechyd am rhagor na dau ddegawd ac does dim posib 'exaggerato' symudiadau fel yna.

twlsyn o foi.
Dyma fi wedi dy gywiro di :winc:
Cytuno, mae honni fod rhywun syn dioddef o'r fath afiechyd ffiaidd yn ffugio mewn rhyw ffordd yn gont, ac yn haliwr o'r radd eithaf.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cath Ddu » Maw 31 Hyd 2006 11:54 pm

Onid y pwynt fan hyn yw fod Michael J Fox yn defnyddio ei afiechyd i alw am weithredu mewn modd sydd yng ngolwg rhai pobl yn anfoesol (sef Stem Cell research?). Mae honni fod Michael J Fox yn gor wneud ei salwch yn ffiaidd ac yn gywilyddus. Mae dweud ei fod yn defnyddio ei sefyllfa anhygoel anffodus er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol yn ddadl wahanol.

Dwi'm amheus os byddwn yn cytuno efo Stem Cell Research er gwaethaf y modd y bu i berthynas agos i mi hefyd ddioddef o'r afiechyd creulon hwn. Yn yr un modd tydi galwadau gan bobl sy'n marw'n araf o afiechydon creulon ddim yn gwneud rhywun sy'n gwrthwynebu 'assisted suicide' yn galon galed - ond mae'r apel emosiynol yn gallu effeithio ar y ddadl a hynny mewn dull sydd ddim bob amser yn arwain at ganlyniad fyddai'n foesol gywir.

Mae mwy i'r draodaeth yma na gwrthwyenbu'r enwog shock jock!
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan huwwaters » Mer 01 Tach 2006 2:14 am

Yr honiad wnaeth Limbaugh oedd fod MJ Fox dim ond wedi ymddangos mewn party political broadcasts ar gyfer y Democratiaid, achos mwy neu lai ma nhw i gyd yn cefnogi stem cell research. Mae hwn yn hollol anghywir achos mae wedi hefyd ymddangos mewn o leiaf un party political broadcast ar gyfer y Gwerinwyr.

Dadl moesol ac un personnol yw'r peth stem cell, ond mae'r ffaith na heddiw ma nhw wedi datgelu bod nhw'n gallu tyfu iau dynol mewn labrody yn cynnig gobaith mawr i' rhai gyda afiechydon, canserau a'r rhai sydd wedi camddefnyddio alcohol. Mae deud eich bod yn lladd bywyd am y ffaith fod bywyd yn deillio o stem cells, yr un fath a deud bod chi'n lladd bywyd pan chi'n taflu llwch mewn i bin. Tydio ddim yn bywyd eto, ond mae'r ddau yn cyfrannu at ddeunydd bywyd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Michael J Fox a Rush Limbaud

Postiogan Blewyn » Mer 01 Tach 2006 4:06 am

Positif80 a ddywedodd:o'n i'n methu a chofio'r gair Cymraeg am "exaggerate". Sori am y camarweiniad. :(

http://www.bbc.co.uk/cgi-bin/wales/lear ... tionary.pl

http://www.geiriadur.com

:-)
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron