Michael J Fox a Rush Limbaud

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Mer 01 Tach 2006 7:11 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'm amheus os byddwn yn cytuno efo Stem Cell Research er gwaethaf y modd y bu i berthynas agos i mi hefyd ddioddef o'r afiechyd creulon hwn.


pam ar y ddaear?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Michael J Fox a Rush Limbaud

Postiogan Mali » Gwe 03 Tach 2006 6:52 am

Positif80 a ddywedodd:Son am gicio dyn pan mae o i lawr. Mae'r cyflwynwr radio Rush Limbaud wedi cyhuddo Michael J Fox o ffugio symptomau yr afiechyd parkinson. Not nice :? .


Gwarth, a cywilydd arno. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Cath Ddu » Maw 07 Tach 2006 2:39 pm

Dylan a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'm amheus os byddwn yn cytuno efo Stem Cell Research er gwaethaf y modd y bu i berthynas agos i mi hefyd ddioddef o'r afiechyd creulon hwn.


pam ar y ddaear?


Oherwydd y tueddiad i ddefnyddio celloedd o 'embryos'. Tydi gwrthwynebiad i ymchwil yn defnyddio celloedd oedolion ddim yn codi, ond yn achos defnyddio celloedd o 'embryos' mae yna gwestiwn moesol yn codi a dwi ddim yn sicr fy mod yn cytuno gyda'r defnydd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dylan » Maw 07 Tach 2006 8:24 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'm amheus os byddwn yn cytuno efo Stem Cell Research er gwaethaf y modd y bu i berthynas agos i mi hefyd ddioddef o'r afiechyd creulon hwn.


pam ar y ddaear?


Oherwydd y tueddiad i ddefnyddio celloedd o 'embryos'. Tydi gwrthwynebiad i ymchwil yn defnyddio celloedd oedolion ddim yn codi, ond yn achos defnyddio celloedd o 'embryos' mae yna gwestiwn moesol yn codi a dwi ddim yn sicr fy mod yn cytuno gyda'r defnydd.


Alla' i ddim gweld unrhyw gwestiwn moesol, achos 'dydi'r embryonau 'ma ddim yn cael eu creu yn unswydd er mwyn i wyddonwyr mewn cotiau gwyn fynd ati i dynnu cwpl o gelloedd allan ohonynt.

Cynnyrch dros ben triniaethau IVF ydyn nhw. Hynny ydi, mae'r embryonau'n cael eu creu beth bynnag. 'Dydi dulliau IVF ddim yn effeithlon iawn eto felly 'dydi pob embryo ddim yn cael y cyfle i droi'n fabi.

Dyma dynged embryo nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil: mae'n cael ei roi yn y bin. Dyna beth mae gwrthwynebwyr ymchwil am ei "amddiffyn". Byddai'n well gan y gwrthwynebwyr jyst eu taflu i ffwrdd. Am wastraff.

'Does dim -DIM - mwy o reswm dros wrthwynebu ymchwil bôn-gelloedd nag sydd dros wrthwynebu IVF. Yn wir, 'swn i'n dweud bod llai, oherwydd o leiaf mae'n gwneud defnydd rhyfeddol o werthfawr o embryonau sbâr a fyddai fel arall yn cael eu rhoi ar y domen.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 07 Tach 2006 8:43 pm

Dylan a ddywedodd:'Does dim -DIM - mwy o reswm dros wrthwynebu ymchwil bôn-gelloedd nag sydd dros wrthwynebu IVF. Yn wir, 'swn i'n dweud bod llai, oherwydd o leiaf mae'n gwneud defnydd rhyfeddol o werthfawr o embryonau sbâr a fyddai fel arall yn cael eu rhoi ar y domen.


Dwi'n derbyn hyn ond tydi dy ddadl ddim yn dal dwr a dweud gwir. Yn fras, ti'n gywir os dwi'n derbyn fod rhoi enbryos yn y bin yn OK. OS nad wyf yn derbyn hynny yna tydi dy ddadl ddim yn dal.

Dwi'n derbyn fod yna ddadl gref o blaid - dwi hefyd yn credu fod yna ddadl hollol glir yn erbyn hefyd. Pob lwc i Michael J Fox - dwi'n edmygu unrhyw un sy'n fodlon sefyll dros argyhoeddiad ond mae ei safbwynt yn un gwleidyddol yng nghyd destun yr UDA ac felly mae'n agored i 'rough and tumble' gwleidyddol arferol. Bu iddo unwaith gyfaddef i beidio defnyddio ei feddyginiaeth (1999) er mwyn cael mwy o effaith wrth dystio i bwyllgor yn y Sneddd yn Washington - onid dyna sail yr honiad yn ei erbyn?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dylan » Maw 07 Tach 2006 9:10 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n derbyn hyn ond tydi dy ddadl ddim yn dal dwr a dweud gwir. Yn fras, ti'n gywir os dwi'n derbyn fod rhoi enbryos yn y bin yn OK. OS nad wyf yn derbyn hynny yna tydi dy ddadl ddim yn dal.


'Dydi hynny ddim yn newid unrhyw beth mewn gwirionedd. Ti jyst yn dweud y byddai'n well gen ti gadw'r holl embryonau 'ma mewn rhewgell am byth (byth bythoedd - 'dydi'r rhain BYTH am fod yn fabis) yn hytrach na'u defnyddio.

wwn i ddim rhyw lawer am achos MJF a dweud y gwir. Os ydi o'n pallu defnyddio cyffuriau ar adegau er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol yna yndi mae hynny'n ddwl. Ond 'dydi hynny ddim yn newid y ffaith bod gwrthwynebu ymchwil bôn-gelloedd yn greulon a gwallgof. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mali » Mer 08 Tach 2006 4:15 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Pob lwc i Michael J Fox - dwi'n edmygu unrhyw un sy'n fodlon sefyll dros argyhoeddiad ond mae ei safbwynt yn un gwleidyddol yng nghyd destun yr UDA ac felly mae'n agored i 'rough and tumble' gwleidyddol


Sut fedri di fod mor oeraidd yn ynglŷn a pherson sydd yn dioddef o afiechyd fel hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dylan » Mer 08 Tach 2006 10:19 am

Mali a ddywedodd:Sut fedri di fod mor oeraidd yn ynglŷn a pherson sydd yn dioddef o afiechyd fel hyn?


wyt ti'n awgrymu ei fod o'n "untouchable" dim ond achos ei fod yn dioddef o afiechyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Mer 08 Tach 2006 12:37 pm

Mali a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
Pob lwc i Michael J Fox - dwi'n edmygu unrhyw un sy'n fodlon sefyll dros argyhoeddiad ond mae ei safbwynt yn un gwleidyddol yng nghyd destun yr UDA ac felly mae'n agored i 'rough and tumble' gwleidyddol


Sut fedri di fod mor oeraidd yn ynglŷn a pherson sydd yn dioddef o afiechyd fel hyn?


Dwi'n methu deall dy bwynt fan hyn Mali. Os di'r hyn dwi wedi ddweud (gweler y bold type uchod) yn oeraidd yna 'guilty as charged'. Ymddengys fy mod yn gywir serch hynny wrth nodi mae'r gwrthwynebiad i eiriau Rush Limbaugh oedd gwrthrych ei sylwadau ac nid yr union sylwadau.

Nol at fy mhwynt - a ddylwn gefnogi ethunasia oherwydd fod pobl sy'n marw'n araf o afiechydon erchyll o blaid? A yw datgan fod yr unigolion hyn yn anghywir yn safbwynt creulon? Mewn geiriau eraill os oes claf yn datgan safbwynt wleidyddol oes disgwyl i bawb arall dawelu o ran parch?

Nid democratiaeth fyddai hyn Mali ond buddugoliaeth 'touchy feely politics'.

O ran Dylan - dwi ddim yn deall dy bwynt a dweud gwir - ond gad i ni ddweud fy mod yn gweld bod dwy ochr i'r ddadl a ti ddim.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dylan » Mer 08 Tach 2006 1:24 pm

'dw i ddim yn deall dy ddryswch

fy mhwynt ydi ei bod hi'n lot gwell gwneud defnydd gwerthfawr o'r embryonau 'ma nag ydi hi i beidio. Achos eu gwastraffu ydi'r unig beth arall a allai ddigwydd iddyn nhw

fyddai dim un o'r embryonau sy'n cael eu defnyddio mewn ymchwil yn datblygu'n fabanod fel arall. 'Dydi'r ymchwil ddim yn digwydd ar draul darpar bobl.

mae'r gwrthwynebwyr o blaid rhoi embryonau yn y bin. Neu mewn rhewgell am byth, sydd fawr gwell.

esbonia beth ydi'r ochr arall 'ma
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai