I ddwys goffau Y rhwyg o golli'r hogiau

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

I ddwys goffau Y rhwyg o golli'r hogiau

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 02 Tach 2006 6:22 am

Mae yna drafodaethau eraill ar y Maes am dda neu ddrwg gwisgo pabi ac i ddadlau am gyfiawnder neu ddiffyg cyfiawnder rhyfel. Nid wyf am ail agor y trafodaethau yna yma

Beth bynnag ein barn, mae dyddiau coffa'r rhyfeloedd arnom eto, ac mae'r rhyfeloedd wedi effeithio ar deuluoedd y rhan fwyaf o aelodau'r Maes

Felly dyma edefyn i ddanfon blodyn coffa i berthnasau ac anwyliaid a aberthwyd mewn rhyfeloedd gan eu cofio heb farn na rhagfarn.

Y ddau berthynas enwocaf imi a gollwyd yn y rhyfeloedd oedd y beirdd Hedd Wyn o deulu Dad, a Wilfred Owen o deulu Mam.

Perthnasau agosach, llai enwog ond cyn bwysiced, oedd fy hen ewythrod:

John Humphreys (1874-1915) a fu farw yn Ffrainc
Hugh Thomas Humphreys (1881-1918) a fu farw yng Ngalipoli
a Hywel Jones Griffith (1913-1940) a fu farw ar y môr

Bendith i'w llwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 02 Tach 2006 9:27 am

Disclaimer: Cydymdeimlaf gyda dy golled. Nid bychanu dy goffad yw fy mwriad.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Y ddau berthynas enwocaf imi a gollwyd yn y rhyfeloedd oedd y beirdd Hedd Wyn o deulu Dad, a Wilfred Owen o deulu Mam.


Be ffac wy' ti'n neud yn wosto amser ar maes-e te? Cer i reito ffacin cerdd 'an!
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai