Mae yna drafodaethau eraill ar y Maes am dda neu ddrwg gwisgo pabi ac i ddadlau am gyfiawnder neu ddiffyg cyfiawnder rhyfel. Nid wyf am ail agor y trafodaethau yna yma
Beth bynnag ein barn, mae dyddiau coffa'r rhyfeloedd arnom eto, ac mae'r rhyfeloedd wedi effeithio ar deuluoedd y rhan fwyaf o aelodau'r Maes
Felly dyma edefyn i ddanfon blodyn coffa i berthnasau ac anwyliaid a aberthwyd mewn rhyfeloedd gan eu cofio heb farn na rhagfarn.
Y ddau berthynas enwocaf imi a gollwyd yn y rhyfeloedd oedd y beirdd Hedd Wyn o deulu Dad, a Wilfred Owen o deulu Mam.
Perthnasau agosach, llai enwog ond cyn bwysiced, oedd fy hen ewythrod:
John Humphreys (1874-1915) a fu farw yn Ffrainc
Hugh Thomas Humphreys (1881-1918) a fu farw yng Ngalipoli
a Hywel Jones Griffith (1913-1940) a fu farw ar y môr
Bendith i'w llwch.