Etholiad America 2006

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Etholiad America 2006

Postiogan Macsen » Maw 07 Tach 2006 1:55 pm

Y peth gwaethaf all y Democratiaid ei wneud yw enill heddiw. Fydden nhw'n profi yn y 2 flynedd nesaf nad yw nhw'n gwybod beth i'w wneud yn Irac chwaith ac yn colli awdurdod ar yr un mater fydden nhw wedi medru ei ddefnyddio i guro'r prif etholiad am arlywydd yn 2008.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Cath Ddu » Maw 07 Tach 2006 2:52 pm

Macsen a ddywedodd:Y peth gwaethaf all y Democratiaid ei wneud yw enill heddiw. Fydden nhw'n profi yn y 2 flynedd nesaf nad yw nhw'n gwybod beth i'w wneud yn Irac chwaith ac yn colli awdurdod ar yr un mater fydden nhw wedi medru ei ddefnyddio i guro'r prif etholiad am arlywydd yn 2008.


Disgrifiodd Mark Steyn y ddadl uchod fel 'Comforting Delusion of the Month' - ac fel fi y mae am weld y GOP yn ennill heddiw.

Ti'n iawn serch hynny fod yna rhywbeth yn eithaf doniol mewn gweld y chwith gymreig/brydeinig yn ysu am fuddugoliaeth i'r Democrats oherwydd Iraq a'r blaid honno'n hollol ranedig ar y pwnc.

Un o'r 'chydig Ddemocratiaid i wneud ei safbwynt yn glir yw gwrthwynebydd Joe Libermann yn Conneticut. Ia, i'r rhai sy'n cofio, Joe Liberman oedd 'running mate' Al Gore yn 2000 ond fe gafodd ei ddisodli gan rhyw Ddemocrat di-ddim fel ymgeisydd ei blaid ar gyfer y Senedd oherwydd ei gefnogaeth i bolisi tramor Bush. Dewisiodd sefyll fel ymgeisydd annibynnol ac fe ymddengys y bydd Liberman yn ennill yn hawdd.

Mae'r rhan fwyaf o'r Democratiaid sy'n debygol o ennill seddau gan y GOP yn dueddol o fod yn gefnogol i'r rhyfel ac yn llawer mwy asgell dde na democratiaid adnabyddus (ac aflwyddiannus) megis John Kerry.

Beth bynnag, o fod yn mwynhau mantais o 20% wythnos yn ôl mae pethau bellach yn argoeli am ras agos iawn unwaith eto.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Etholiad America 2006

Postiogan huwwaters » Maw 07 Tach 2006 2:52 pm

Macsen a ddywedodd:Y peth gwaethaf all y Democratiaid ei wneud yw enill heddiw. Fydden nhw'n profi yn y 2 flynedd nesaf nad yw nhw'n gwybod beth i'w wneud yn Irac chwaith ac yn colli awdurdod ar yr un mater fydden nhw wedi medru ei ddefnyddio i guro'r prif etholiad am arlywydd yn 2008.


Dwnim, mae'r FBI yn cael eu swampio gyda llwyth o honiadau o public corruption. Cymaint, fel bod nhw wedi cynyddu'r grwpiau ymchwilio o 3 i 5 rwan. Maen't hefyd yn bwriadu creu sting ar y Senate a'r Congress os oes gofyn.

Os byddai'r Democratiaid yn derbyn digon o bwer, dwi'n meddwl cawn nhw'r cyfle i ddangos yr holl bethau dan din mae'r Gwerinwyr wedi bod yn ei wneud. Dim fy nhacteg i o wleidyddiaeth, ond dwi'n meddwl dyle'r Democratiaid ffocysu lot ar wendidau'r Gwerinwyr.

Yn ogystal a hyn, mae Rheolwr Gogledd Corea, yn fwy parod i siarad gyda'r Democratiaid na'r Gwerinwyr.

Cawn weld.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Etholiad America 2006

Postiogan nicdafis » Mer 08 Tach 2006 5:51 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Ti'n iawn serch hynny fod yna rhywbeth yn eithaf doniol mewn gweld y chwith gymreig/brydeinig yn ysu am fuddugoliaeth i'r Democrats oherwydd Iraq a'r blaid honno'n hollol ranedig ar y pwnc.


Sut mae hyn yn ddoniol? Faint o bobl Irac sy'n chwerthin amdano?

Mae Nancy Pelosi, Siaradwr newydd y Tŷ wedi datgan eisioes y bydd cyfeiriad newydd ynglŷn â'r rhyfel yn Irac.

Mae dal yn bosibl y bydd y Democratiaid yn ennill y Senedd hefyd.

Dw i ddim yn ddigon naif i gredu y bydd popeth yn iawn nawr, ond dw i'n methu coelio bod pethau yn mynd i fod yn waeth na fydden nhw wedi bod 'sai'r "Grand Ol' Party" wedi cael 2 flynedd rhagor i ffwcio'r byd lan.

Ac mae sosialaidd wedi ennill yn Vermont. :)

Un pwynt bach, sy ddim yn berthnasol i'r ddadl yma efallai - pam nad oes unrhyw beth am hyn ar wefan BBC Cymru a'r Byd?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chwadan » Mer 08 Tach 2006 6:03 pm

Waw, ma Rumsfeld wedi ymddiswyddo :o
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan huwwaters » Mer 08 Tach 2006 6:18 pm

Ond be sydd yn waw, yw mae gan y Democratiaid mwyafrif yn y ty Cynrychioli ac mae gwarant na fydd y Gwerinwyr yn cael mwyafrif yn y Senedd.

Democratiaid am y senedd hefyd!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Dili Minllyn » Mer 08 Tach 2006 10:07 pm

nicdafis a ddywedodd:Ac mae sosialaidd wedi ennill yn Vermont. :)

Do, dal iawn i Bernie Saunders. Mae gyda ni hefyd Keith Ellison y Mwslem cyntaf i fod yn Gyngresydd, a dyn o egwyddorion cadarn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 09 Tach 2006 12:50 pm

OK - disclaimer: dwi ddim yn gloatio am ddim byd yn llun hwn, a dydi plant ypset ddim yn ddoniol (wel...), a do'n i ddim yn gwybod pwy oedd Santorum OND...ydi hwn y llun mwy bisar a doniol i chi weld ers oes?

[diolch Jim]
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dili Minllyn » Iau 09 Tach 2006 7:13 pm

Yn rhyfedd iawn, mae yna le ar un ystyr i ni fod yn ddiolchgar bod Schwarzenegger wedi'i ail-ethol yn Llywodraethwr Califfornia, gan fod e'n un o'r ychydig iawn o arweinwyr America sydd o ddifrif am daclo newid hinsawdd. Mae Califfornia yn un o chwech economi mwya'r byd - yn fwy nag economïau'r rhan fwyaf o wledydd - ac mae'r Terfynnwr wedi gosod targedi mwy uchelgeisiol ar gyfer lleihau carbon deuocsid na'r rhan fwyaf o wledyddd Ewrop, heb sôn am Arlywydd olewgar ei wlad ei hunan.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Cath Ddu » Iau 09 Tach 2006 9:31 pm

nicdafis a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Ti'n iawn serch hynny fod yna rhywbeth yn eithaf doniol mewn gweld y chwith gymreig/brydeinig yn ysu am fuddugoliaeth i'r Democrats oherwydd Iraq a'r blaid honno'n hollol ranedig ar y pwnc.


Sut mae hyn yn ddoniol? Faint o bobl Irac sy'n chwerthin amdano?


Dy bwynt Nic? Oes wnelo fy sylwadau ddim oll a thrigolion Irac, dim ond nodi pa mor ddoniol ydi gweld ti ac eraill yn amlwg fodlon eich byd fod y Democratiaid yn fuddugol heb fath o werthfawrogiad fod nifer sylweddol ohonynt (mwyafrif) yn gefnogol i'r rhyfel yn Irac. I enwi dim ond un mae Webb, fu'n fuddugol yn Virginia yn erbyn George Allan yn fwy sicr o gyfiawnder y rhyfel yn Irac na llawer i werinaethwr (megis Llywodraether California). Bu i Lincoln Chaffe, un o'r lleiaf cefnogol i Bush ymysg Seneddwyr y GOP hefyd golli yn Rhode Island i wrthwynebydd nad oedd yn galw am newid cyfeiriad y Irac.

Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.

O ran Nancy Pelosi - sylwadau difyr, cawn weld. Ond gan nad oes gan Dy'r Cynrychiolwyr fawr ddim dylanwad ar bolisi tramor sy'n bwnc i'r Arlywydd a'r Senedd dwi ddim yn dal fy ngwynt. Petae Mrs Clnton yn galw am newid yna fe fyddwn yn codi fy nghlystiau rhyw ychydig.

Y dylanwad mwyaf gaiff Nancy a'i chyd Ddemocrataid yn Nhy'r Cynrychiolwyr fydd mynnu agwedd llawer mwy canol y ffordd tuag at bolisi cartref Bush ac yn benodl fe fydd hi'n gwbwl amhosib i'r Gwerinaethwyr benodi Prif Farnwr radicalaidd yng ngwyneb canlyniad nos Fawrth.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron