Etholiad America 2006

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Owain Llwyd » Iau 09 Tach 2006 11:37 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.


Naci. Mae'n ganlyniad i anwybodaeth - sy'n ddigon cyffredin ymhlith plant, wrth gwrs, ond fyswn i ddim yn galw 'plentynaidd' arni hi.

Plentynaidd, mae'n debyg, ydi gwawdio pobl eraill am eu diffyg gwybodaeth.

O ran dylanwad Ty'r Cynrychiolwyr ar bolisi tramor, onid oes ganddyn nhw ryw gymaint o ddweud ynghylch y gyllideb berthnasol - dyfarnu pres i'r Arlywydd neu beidio? Ella nad ydi hynna'n ddylanwad uniongyrchol, ond does bosib ei fod o'n amherthnasol.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Dan Dean » Gwe 10 Tach 2006 1:00 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.

Mae na rhai yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid drwg yn erbyn Gwerinaethwyr da hefyd. Yn ffodus, dwi ddim digon gwirion a phlentynaidd i ddefnyddio rhywbeth felma i gega yn erbyn y dde gymreig/brydeinig yn gyffredinol. (Ella fy mod i'n anghywir yn fama, ond a oes gen ti gasineb at Bill Clinton tra'n gefnogol i George Bush?)

Cath Ddu a ddywedodd:dim ond nodi pa mor ddoniol ydi gweld ti ac eraill yn amlwg fodlon eich byd fod y Democratiaid yn fuddugol heb fath o werthfawrogiad fod nifer sylweddol ohonynt (mwyafrif) yn gefnogol i'r rhyfel yn Irac.

Yn lle mae nhw'n "fodlon yn eu byd"? Cega ar y Gwerinaethwyr mae nhw, dim cefnogi'r Democratiaid, gan feddwl does posib i bethau fod yn waeth. Lle mae'r bodlondeb yma? O'r holl bethau dwi di ddarllen am yr etholiad ma, mae nifer fawr wedi dweud dylir y Democratiaid gwneud yn dda er mwyn rhoi pwysau ar polisiau diawledig Bush, yn lle dweud bod y Democratiaid am wneud bob dim yn iawn.

Dwin gweld hyn yn ymgais pathetic arall i symleiddio'r sefyllfa a rantio yn erbyn y chwith gymreig. Gai ddeud hefyd dy fod unwaith wedi honni bod Noam Chomsky yn gefnogol i'r Democratiaid ("mae egwyddorion Chomsky ym ymestyn i gondemnio'r UDA ond ddim os yw'r weithred yn un gan Clinton" - dy eiriau di). Felly ni ddylir cymeryd dy ddadansoddiad o'r perthynas rhwng y chwith a'r Democratiaid o ddifri. :rolio:


Ond ta waeth, mae Rumsfeld di ymddiswyddo. Hahahahahahahaha! Y wancar celwyddog ffiaidd di mynd. Sgin i ddim llawer o ffydd yn y boi Gates na, ond cawn weld - does bosib ei fod yn waeth. :ofn:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Re: Etholiad America 2006

Postiogan nicdafis » Gwe 10 Tach 2006 2:55 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.


A fel wedais i uchod:

nicdafis a ddywedodd:Dw i ddim yn ddigon naif i gredu y bydd popeth yn iawn nawr, ond dw i'n methu coelio bod pethau yn mynd i fod yn waeth na fydden nhw wedi bod 'sai'r "Grand Ol' Party" wedi cael 2 flynedd rhagor i ffwcio'r byd lan.


Wnes i dderbyn dy bwynt (dwywaith) yn fy neges gyntaf, ond ti'n dal i gyhuddo fi o gredu rhywbeth dw i wedi datgan yn glir nad ydw i'n ei gredu.

Rheol cyntaf gwleidyddiaeth, am wn i, yw "peidio gwneud pethau'n waeth nag ydyn nhw nawr". Dyna oedd un o'r prif rhesymau dros fod yn erbyn y rhyfel; y llall oedd bod yr UDA a'r DU yn tanseilio awdurdod yr UN.

Dw i'n hollol fodlon i gyfadde fy mod i'n naif fy ngwleidyddiaeth. Llongyfarchiadau i unrhywun sy'n gallu sgorio pwyntiau yn fy erbyn. Ond os bydd pethau yn well, yn hytrach nag yn waeth, i bobl Irac (ac i bob un ohonon ni am hynny) fel canlyniad yr etholiad yma, cei di chwerthin ar fy mhen cymaint ag ti moyn. Dw i'n nabod pobl yn America oedd yn crio gyda hapusrwydd bod y llanw yna wedi troi yn erbyn Bush.

Bill Hicks dwedodd y peth yr orau, am wn i - dw i'n dyfynnu o'r cof, felly ymddiheuriadau i ffans obsesiynol:

Bill Hicks a ddywedodd:It's not that I think the Democrats are so very good, it's just that I think George Bush and his cronies are murdering souless fucks, who should burn in the lowest circle of hell for all eternity.


Sôn am y tad oedd Bill, ond mae'r peth yn fwy addas nawr nag erioed. Sut elli di edrych ar Rumsfeld a ddim yn gweld taw plentyn Satan yw e?

Wedi dweud hynny, os ti'n hapus, dw i'n hapus ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Positif80 » Gwe 10 Tach 2006 3:12 pm

-'Sgen i ddim clem am beth dylen Mr Bush a Mr Blair gwneud yn Iraq.
- Dwi ddim yn weriniaethwr ac yn sicr ddim yn democrat. Mae'r de eithafol yn fy ngwylltio, ond ddim hanner cymaint a smart-arses y chwith.

Felly dwi wedi drysu'n llwyr ynglyn a'r etholiadau yma. Un peth dwi yn gwybod yw bod llawer mwy o adloniant i'w cael yn yr etholiadau Americanaidd. Mae nhw gwybod sut i wneud smear campaign da yn fanna.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Etholiad America 2006

Postiogan Positif80 » Gwe 10 Tach 2006 3:16 pm

[quote="nicdafis"]
Sut elli di edrych ar Rumsfeld a ddim yn gweld taw plentyn Satan yw e?
[quote]

Gan fod Bin Laden yn edrych yn fwy sinistr - ac Elmo. Ffecin Elmo; swn i'm yn gadael fy mhlant hefo fo a Big Bird.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Cath Ddu » Sad 11 Tach 2006 8:44 am

Owan, Dan a Nic - dwi'n credu bod chi tri yn sensitif iawn fan yma.

Ta waeth, dwi ddim yn casau Clinton nac yn caru Bush. Dwi'n gobeithio fod Dan yn gywir mae gwrthwyneby'r GOP mae pobl ac nid clodfori y Democratiaid.

O ran plentynaidd a diffyg gwybodaeth fel plentyn - wel hollti blewn sy'n dod i feddwl.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Owain Llwyd » Sad 11 Tach 2006 9:26 am

Cath Ddu a ddywedodd:O ran plentynaidd a diffyg gwybodaeth fel plentyn - wel hollti blewn sy'n dod i feddwl.


Hollti blew ydi un o'r ychydig ddoniau sydd gen i. Paid â'i danbrisio fo.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dan Dean » Sad 11 Tach 2006 1:34 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Owan, Dan a Nic - dwi'n credu bod chi tri yn sensitif iawn fan yma.

Ateb rhyfadd. Da ni'n deud dy fod yn anghywir(a mi wyt). Ti'n cyhuddo ni o fod yn "sensitif". Digon teg. :?

Cath Ddu a ddywedodd:Dwi'n gobeithio fod Dan yn gywir mae gwrthwyneby'r GOP mae pobl ac nid clodfori y Democratiaid.

Hyn yn gwneud llawer mwy o synnwyr na cyhuddo'r chwith i feddwl mai mater o da a drwg ydio, yntydi?

Cath Ddu a ddywedodd:Ta waeth, dwi ddim yn casau Clinton nac yn caru Bush.

Fallai ddim mor bell na hynnu, ond ti wedi galw Clinton yn derfysgwr a hefyd wedi dweud dy fod yn gefnogol i Bush. Sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Cath Ddu » Sad 11 Tach 2006 10:30 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Ta waeth, dwi ddim yn casau Clinton nac yn caru Bush.

Fallai ddim mor bell na hynnu, ond ti wedi galw Clinton yn derfysgwr a hefyd wedi dweud dy fod yn gefnogol i Bush. Sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr.


Tydi dyfynu allan o gyd-destun ddim yn dweud llawer am gryfder dy ddadl Dan. Cer i ddarllen y cyfraniad am ymosodiad Clinton oedd yn sail i'r pwynt ac mae'n weddol glir pa bwynt dwi'n wneud. Beth bynnag, dwi'n credu fod trafodaeth sy'n troi o amgylch be dwi wedi neu ddim wedi ddweud blwyddyn neu ddwy yn ol yn wastraff amser i chdi a fi.

Serch hynny, o ran bod yn glir am y peth dwi'n parhau i fod yn gefnogol i Bush yng nghyd-destun y dewis oedd o flaen yr UDA dydd Mawrth diwethaf - ond so what, nid fi oed yn cael bwrw pleidlais.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Sul 12 Tach 2006 12:50 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Cer i ddarllen y cyfraniad am ymosodiad Clinton oedd yn sail i'r pwynt ac mae'n weddol glir pa bwynt dwi'n wneud.

Wrth gwrs fy mod i wedi darllen o. A ti'n cyhuddo Clinton i fod yn derfysgwr o be wnaeth o yn Sudan(cywir). Ti wedyn allan o unlle yn cega ar Chomsky am y peth(hollol anghywir) fel rhyw fath o sgorio pwynt yn erbyn y chwith yn gyffredinol. Ond ti ddim yn fodlon galw Bush yn derfysgwr a fod yn gefnogol iddo, sydd yn uffernol. :ofn:
Dwi yn ffendio hi yn anodd iawn i gymeryd cefnogwr Bush o ddifri, wir i chi. Yn enwedig os ydio yn dweud hyn:
Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.


:lol:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron