Cath Ddu a ddywedodd:Y drwg ydi fod nifer sy'n dilyn gwleiyddiaeth yr UDA o Gymru a Phrdain yn dueddol o weld y cyfan fel Democratiaid da yn erbyn Gwerinaethwyr drwg. Mae hwn y agwedd rhyfeddol o blentynaidd.
A fel wedais i uchod:
nicdafis a ddywedodd:Dw i ddim yn ddigon naif i gredu y bydd popeth yn iawn nawr, ond dw i'n methu coelio bod pethau yn mynd i fod yn waeth na fydden nhw wedi bod 'sai'r "Grand Ol' Party" wedi cael 2 flynedd rhagor i ffwcio'r byd lan.
Wnes i dderbyn dy bwynt (dwywaith) yn fy neges gyntaf, ond ti'n dal i gyhuddo fi o gredu rhywbeth dw i wedi datgan yn glir nad ydw i'n ei gredu.
Rheol cyntaf gwleidyddiaeth, am wn i, yw "peidio gwneud pethau'n waeth nag ydyn nhw nawr". Dyna oedd un o'r prif rhesymau dros fod yn erbyn y rhyfel; y llall oedd bod yr UDA a'r DU yn tanseilio awdurdod yr UN.
Dw i'n hollol fodlon i gyfadde fy mod i'n naif fy ngwleidyddiaeth. Llongyfarchiadau i unrhywun sy'n gallu sgorio pwyntiau yn fy erbyn. Ond os bydd pethau yn well, yn hytrach nag yn waeth, i bobl Irac (ac i bob un ohonon ni am hynny) fel canlyniad yr etholiad yma, cei di chwerthin ar fy mhen cymaint ag ti moyn. Dw i'n nabod pobl yn America oedd yn crio gyda hapusrwydd bod y llanw yna wedi troi yn erbyn Bush.
Bill Hicks dwedodd y peth yr orau, am wn i - dw i'n dyfynnu o'r cof, felly ymddiheuriadau i ffans obsesiynol:
Bill Hicks a ddywedodd:It's not that I think the Democrats are so very good, it's just that I think George Bush and his cronies are murdering souless fucks, who should burn in the lowest circle of hell for all eternity.
Sôn am y tad oedd Bill, ond mae'r peth yn fwy addas nawr nag erioed. Sut elli di edrych ar Rumsfeld a ddim yn gweld taw plentyn Satan yw e?
Wedi dweud hynny, os ti'n hapus, dw i'n hapus