Clefyd y siwgr - argyfwng byd-eang

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sili » Gwe 19 Ion 2007 5:51 pm

huwwaters a ddywedodd:Wel, sdim ond angen edrych ar y nifer sy'n dioddef o asthma rwan a hay-fever. Yn ôl sôn, mae'r niferoedd yn codi gan fod pethau yn 'rhy lan' yn dyddiau yma. Ysbytai yn rhy clinigol, a rhieni yn gorymateb i bethau'n bod yn lân i'w plant.


Er mod i'n cytuno gyda dy theori uchod, dwi'm yn gweld sut fod bod yn "rhy lan" yn gysylltiedig o gwbwl efo clefyd siwgwr.

Diet Gorllewinol sydd yn effeithio fwyaf ar blant yn enwedig (gan nad oedd plant yn dioddef o'r clefyd tan yn eithaf diweddar). Gormod o 'refined carbohydrates' sydd yn hawdd iawn i'r gyt ei amsugno ac yn sgil hyn yn achosi i lefelau'r glwcos yn y corff godi'n uchel. A wedyn ma'r diffyg ymarfer corff yn ychwanegu i'r effeithiau gan nad ydi'r carbohydradau yn cael eu torri lawr a'u defnyddio.

Os fysa rhieni yn enwedig yn gwneud yn siwr fod eu plant yn bwyta'n iachach, hynny yw mwy o 'complex carbohydrates' fel reis brown a bwydydd 'wholegrain', lefelau cytbwys o brotein a lefelau isel o galoriau, digonnedd o ffrwythau a llysiau ayyb yna dwi'n meddwl y byddai'r nifer o bobl sydd yn dioddef yn gostwng o gryn dipyn. A ma hynny heb hydnoed feddwl am neud digon o ymarfer corff.

huwwaters a ddywedodd:Os gymharwch chi y person sy'n mwynhau mynydda, cerdded a mwy neu lai byw y tu allan, i'r person sy 'tu fewn' trwy'r dydd, gan anwybyddu lefelau ffitrwydd y pobol, y person sy'n byw tu allan fyddai'r un iach.


Digon gwir. Er fod person sydd yn ymwybodol o'i ffitrwydd yn fwy tebygol o fwyta'n iach, tasa ei ddiet ddim cweit 'up to scratch', mi fyddai cyflymder ei fetabolism ddigon effeithiol i fedru delio efo bwydydd sydd yn ychwanegu at broblemau insiwlin beth bynnag, ac felly fyddai'r afiechyd yn llai tebygol o godi'i ben eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan huwwaters » Gwe 19 Ion 2007 6:27 pm

Sili a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Wel, sdim ond angen edrych ar y nifer sy'n dioddef o asthma rwan a hay-fever. Yn ôl sôn, mae'r niferoedd yn codi gan fod pethau yn 'rhy lan' yn dyddiau yma. Ysbytai yn rhy clinigol, a rhieni yn gorymateb i bethau'n bod yn lân i'w plant.


Er mod i'n cytuno gyda dy theori uchod, dwi'm yn gweld sut fod bod yn "rhy lan" yn gysylltiedig o gwbwl efo clefyd siwgwr.


Mae gwneud systemau anianegol y corff yn 'redundant' yn beryg. Dyma pam fod sigwrau syml sy'n y corff, dim digon o ymarfer corff, dim digon o facteria i adeiladu imiwnedd yn gwneud gwaith y mae'r corff eisiau ei wneud yn isel iawn, gan achosi i'r corff ymosod ar ei hun.

Hyn i gyd yn arwain at bethau fel gor dewdra, y corff yn gorymateb i rwbeth fel paill a chelloedd y corff yn gwrthod derbyn inswlin.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 19 Ion 2007 8:52 pm

Huw Psych a ddywedodd:O.N. Onid ydi hi'n anghywir galw DM yn glefyd y siwgr?? Doedd na ddim stwr ddiweddar...rywun yn cofio??

Faswn i ddim yn poeni ryw lawer am hynny. Clefyd y siwgr neu'r clefyd melys yw'r termau Cymraeg traddodiadol. Rhyw gymysgedd o Roeg a Lladin yw diabetes mellitus, sef ffynnon felys, gan fod diabetes yn gwneud dy drwnc yn felys.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Huw Psych » Gwe 19 Ion 2007 9:47 pm

Ia, rwbath fel 'na o'n i'n feddwl, h.y. diabetes mellitus y dylsa fo gael ei alw yn hytrach na clefyd siwgr achos dydi o ddim wir yn glefyd ar siwgr ond clefyd insiwlin! :winc:

Er gwybodaeth! Mae gwefan NICE (national institute for clinical exellence) i'w gael yn Gymraeg...da de!! Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Clinigol

huwwaters a ddywedodd:Mae gwneud systemau anianegol y corff yn 'redundant' yn beryg. Dyma pam fod sigwrau syml sy'n y corff, dim digon o ymarfer corff, dim digon o facteria i adeiladu imiwnedd yn gwneud gwaith y mae'r corff eisiau ei wneud yn isel iawn, gan achosi i'r corff ymosod ar ei hun.
Falch fod na gytundeb ar wbath!!
Mae na lawer i'w wneud i daclo gor-dewdra a modd o fyw pobl heddiw. Dydi'n cyrff ni heb arfer i'r driniaeth ma'n gael ganddo ni...nol a ni i hela am ein bwyd!! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Sili » Sad 20 Ion 2007 1:06 am

huwwaters a ddywedodd:Mae gwneud systemau anianegol y corff yn 'redundant' yn beryg. Dyma pam fod sigwrau syml sy'n y corff, dim digon o ymarfer corff, dim digon o facteria i adeiladu imiwnedd yn gwneud gwaith y mae'r corff eisiau ei wneud yn isel iawn, gan achosi i'r corff ymosod ar ei hun.


Dwi'n dallt dy bwynt di ac mae o'n bwynt teg iawn. Ond y math o glefyd siwgwr sy'n achosi i'r celloedd ymosod ar eu hunain a cael eu dinistrio yw Type 1 DM. A clefyd sy'n cael ei etifeddu yn bennaf ydi hwn, nid rhywbeth sy'n gwbwl ddibynnol ar ffactorau allanol fel diffyg ymarfer corff/gormod o blantos glan ayyb. Ffactorau fel hyn sy'n gwaethygu cyflwr y celloedd wrth i'r baban ddatblygu.

Ond dydi'r achosion dros Type 1 DM (nac ychwaith Type 2 DM a bod yn onast) ddim yn glir iawn o gwbwl felly sa'n ddiddorol iawn tasa rhywun yn cyhoeddi papur ar dy theori. Syniad da at unrhyw waith archwilio sgenai i neud yn y blynyddoedd i ddod falla... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan huwwaters » Sad 20 Ion 2007 1:52 am

Sili a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Mae gwneud systemau anianegol y corff yn 'redundant' yn beryg. Dyma pam fod sigwrau syml sy'n y corff, dim digon o ymarfer corff, dim digon o facteria i adeiladu imiwnedd yn gwneud gwaith y mae'r corff eisiau ei wneud yn isel iawn, gan achosi i'r corff ymosod ar ei hun.


Dwi'n dallt dy bwynt di ac mae o'n bwynt teg iawn. Ond y math o glefyd siwgwr sy'n achosi i'r celloedd ymosod ar eu hunain a cael eu dinistrio yw Type 1 DM. A clefyd sy'n cael ei etifeddu yn bennaf ydi hwn, nid rhywbeth sy'n gwbwl ddibynnol ar ffactorau allanol fel diffyg ymarfer corff/gormod o blantos glan ayyb. Ffactorau fel hyn sy'n gwaethygu cyflwr y celloedd wrth i'r baban ddatblygu.


Sdim ond angen i'r mwtaniaeth ddigwydd unwaith i'r gell, cyn iddo gael effaith ar epil. Tydw i ddim yn bendant am ganlyniad ffeithiau o waith sydd heb ei brofi eto, ond mae defnyddio logic gwyddonol am ddeud, os yw'r mwtaniaeth yma yn y gell, sydd am 'ailysgrifennu' genome y cromosome - achos tydi'r gell ddim am adfer i'w statws cynt (h.y. clefyd y siwgwr ddim yn salwch parhaol) - yna, pan fydd yr oedolyn yn rhan o atgenhedlaeth, byddai'r genome yna'n cael ei basio'n mlaen at yr epil. Mae sefyllfaeodd tebyg yn bodoli rwan gyda chancrau, a chwmnioedd yswiriant iechyd yn gofyn y fath gwestiynnau ar ffurflenni.

Ond dydi'r achosion dros Type 1 DM (nac ychwaith Type 2 DM a bod yn onast) ddim yn glir iawn o gwbwl felly sa'n ddiddorol iawn tasa rhywun yn cyhoeddi papur ar dy theori. Syniad da at unrhyw waith archwilio sgenai i neud yn y blynyddoedd i ddod falla... :winc:


O Wikipedia ynglyn a Math 1:
The most common cause of beta cell loss leading to type 1 diabetes is autoimmune destruction, accompanied by antibodies directed against insulin and islet cell proteins.


O Wikipedia ynglyn a Math 2:
There are numerous theories as to the exact cause and mechanism for this resistance, but central obesity (fat concentrated around the waist in relation to abdominal organs, not it seems, subcutaneous fat) is known to predispose for insulin resistance, possibly due to its secretion of adipokines (a group of hormones) that impair glucose tolerance. Abdominal fat is especially active hormonally. Obesity is found in approximately 90% of developed world patients diagnosed with type 2 diabetes. Other factors may include aging and family history, although in the last decade it has increasingly begun to affect children and adolescents.


Fy theori yn egluro fod systemau anianeg diwaith yn ymosod ar y corff, yn cyd fynd a chofnod Wikipedia o Math 1.

O edrych ar cofnod Wikipedia am Math 2, mae'n deud yn y degawd olaf, fod Math 2 yn fwy fwy effeithio ar blant. Gellir cysylltu hyn gyda mwtaniaeth genome oedolyn sydd wedi cael plant. Tardd gwreiddiol afiechyd math 2 yn dod o ymborth gwael a diffyg ymarfer corff.

Bosib bod cysylltiad o Math 1, a sut mae'r celloedd Beta yn dirywio yn gallu cael ei gysylltu gyda ffliwc natur sy'n achosi i ddementia ac alzheimers ddatblygu, wrth i'r cysylltiadau rhwng neuronau'r ymennydd ddod yn rhydd.

Dylwn i wedi darllen cofnod Wikipedia'n drylwyr achos dwi newydd weld hwn:
Genetics
Both type 1 and type 2 diabetes are at least partly inherited. Type 1 diabetes appears to be triggered by some (mainly viral) infections, or in a less common group, by stress or environmental factors (such as exposure to certain chemicals or drugs). There is a genetic element in individual susceptibility to some of these triggers which has been traced to particular HLA genotypes (i.e. genetic "self" identifiers used by the immune system). However, even in those who have inherited the susceptibility, type 1 diabetes mellitus seems to require an environmental trigger. A small proportion of people with type 1 diabetes carry a mutated gene that causes maturity onset diabetes of the young (MODY).
There is a rather stronger inheritance pattern for type 2 diabetes. Those with first-degree relatives with type 2 have a much higher risk of developing type 2. Concordance among monozygotic twins is close to 100% [citation needed], and 25% of those with the disease have a family history of diabetes. It is also often connected to obesity, which is found in approximately 85% of (North American) patients diagnosed with this type, so some experts believe that inheriting a tendency toward obesity also contributes.


Dwi o leiaf yn hapus bod fy logic yn dal dwr! :D
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron