Clefyd y siwgr - argyfwng byd-eang

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clefyd y siwgr - argyfwng byd-eang

Postiogan Dili Minllyn » Iau 16 Tach 2006 12:42 pm

Mae tua 230 miliwn o bobl y byd yn byw gyda chlefyd y siwgr (diabetes), ac mae disgwyl y bydd y ffigur yma'n codi i 350 miliwn erbyn 2050. Mae'r clefyd yn lladd rhywun bob 10 eiliad, gan achosi cymaint o farwolaethau erbyn hyn â HIV/AIDS, mae'n debyg. Mewn rhannau o wledydd tlotaf y byd, mor anodd yw cael gafael ar foddion fel inswlin fel nad yw rhai pobl yn byw ond ychydig fisoedd cyn cael eu trechu gan y clefyd.

Am yr holl resymau hyn, mae ymgyrch ar y gweill i wneud clefyd y siwgr yn flaenoriaeth i'r Cenhedloedd Unedig, ac mae deiseb y mae 10 mil o bobl eisoes wedi'i llofnodi.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Iau 18 Ion 2007 4:14 pm

Diolch i bawb a lofnododd y ddeiseb, mae'r cynnig bellach wedi'i basio.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Iau 18 Ion 2007 7:18 pm

Yn bersonnol, dwi'n meddwl bod ne fwy i'r clefyd ma, na da ni'n ei wybod. Ma gynnon ni 2 math. Math 1 ble mae'r pancreas yn methu a chreu inswlin, a math 2 ble mae celloedd y corff yn troi'n 'imiwn' i inswlin.

Dwi'n meddwl bod math 2 gyda cysylltiad i rhai o gemegion yr ydym ni yn ei ddefnyddio'n ddyddiol, a nid yn unig problem ymborth cytbwys.

Mae cysylltiad gyda plastic sy'n pydru a lefelau sperm isel ym myd y Gorllewin; hefyd fod rhai polymerau a ddefnyddwyd mewn sbecs diogelwch yn rhyddhau cemegion a all eich gwneud yn ddall, wrth iddo bydru.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 18 Ion 2007 9:13 pm

Mae pobl wedi cysylltu gyda fi yn y gwaith cyn hyn yn gofyn am y cysylltiadau posibl rhwng cemegion yn yr amgylchedd a chlefyd siwgr, ond prin iawn yw'r dystiolaeth. Ar y llaw arall, mae yna lwyth o dystiolaeth bob bwyta'n wael a magu pwysau yn cynyddu'r perygl i chi gael diabetes.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Iau 18 Ion 2007 10:22 pm

Wel, dwi'n caru gwyddoniaeth o bob math - hwnw yw fy mywyd, a dyma be dwi'n ei wneud yn y prifysgol rwan, Ffiseg.

Ond dwi'n amau gallu rhai gwyddonwyr i weld cysylltiadau rhwng rhai pethau. Er mor amlwg ydyn nhw rwan, ar y pryd byse pobl byth wedi meddwl am y peth. 50 mlynedd i gysylltu ysmygu gyda chancr, a dim ond trwy ryw berson dinod yn gofyn cwestiwn diniwed fel "pam fod plant yn ardal Birmingham ddim yn wneud cyn gystal a phlant erill yn yr ysgol?" ateb - heavy metal poisoning. Darganfuwyd dyddodion metelau trymion yn ymennyddau plant oherwydd petrol plwm.

Dim ond yn ddiweddar mae pobl wedi cychwyn gweld patrwm rhwng lefelau sberm a deunydd plastig yn y gorllewin.

Dwi'n bersonol yn meddwl bod na rywbeth nad ydym yn ymwybodol am, sy'n achosi'r clefyd math 2.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Sili » Gwe 19 Ion 2007 1:18 am

huwwaters a ddywedodd:Dwi'n bersonol yn meddwl bod na rywbeth nad ydym yn ymwybodol am, sy'n achosi'r clefyd math 2.


Yn bersonol, allai'm gweld sut fod cyswllt pendant rhwng y ddau. Dwi'n astudio meddygaeth ar y funud, ac er nad ydwi'n arbenigwraig o bell ffordd ar y pwnc, dwi wedi gneud tipyn o waith ar y clefyd 'ma erbyn hyn (eistedd arholiad arna fo dydd Llun, damia!) :winc:

I'r rhai sydd ddim yn gwybod, hormon yw insulin sy'n cael ei gynhyrchu yn y pancreas ac yn gweithredu mewn nifer o wahanol ffyrdd yn y corff. Yn fras, gall achosi i'r heptocytes, neu celloedd yr iau, gymryd glwcos i fyny, gall achosi i glwcos gal ei newid i glycogen yn y cyhyrau ac i triglycerides yn yr adipose tissue (fat). Ar ben hyn, mae'n cael ei ddefnyddio fel 'precursor' mewn nifer o wahanol adweithiau pwysig sydd yn bennaf yn rheoli lefelau glwcos yn y gwaed.

Ymddengys mae'r pethau sy'n achosi 'resistance' i insulin ydi oedran, diffyg ymarfer corff, llai o garbohydrates a dderbynnir gan y corff, cyffuriau a salwch 'intercurrent' (ffiw, Cymraeg gwael - sori!).

Yn groes i dy theori, dwi'n dueddol o feddwl y byddai effaith negyddol unrhyw gemegion yn effeithio Type 1 DM yn fwy parod gan fod y celloedd (neu islets) endocrine cyfa yn y pancreas yn cael eu dinistrio'n gyfan gwbwl yn yr achos yma. Efo Type 2 DM, dim ond yn celloedd beta sy'n rhyddhau insiwlin yn benodol sydd yn cael eu effeithio felly sa raid i unrhyw levelau o 'toxicity' yn y gwaed fod yn benodol iawn i fedru achosi 'resistance' yn y receptor cywir ac felly diabetes. Mae pob archwiliad yn awgrymu fod y salwch yn rhywbeth sy'n cael ei etifeddu ac yn reit ddibynnol ar maint y babi ar ei eni etc yn hytrach na ffactorau allanol.

Yn ddiddorol, mae tipyn o dystiolaeth i gefnogi'r ffaith y gall Type 2 DM ddod yn amlwg oherwydd 'mutation' yn y receptor sy'n derbyn insulin, er fod hwn yn bresennol o'r funud caiff y babi ei eni. Ond i gefnogi dy theori di ar gemegion, falla gall y mutations yma fod yn seiliedig ar y cemegion a gymrwyd yn ystod bywyd y fam yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei etifeddu o genhedlaeth i genhedlaeth?

Eto, sori am safon hynnod wael y Gymraeg yma. Canlyniad sefyll y pwnc drwy'r iaith fain... :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan huwwaters » Gwe 19 Ion 2007 2:20 am

Yr unig rheswm dwi'n rhoi'r cysylltiad yma ymlaen, achos fod y niferoedd uchaf o hyd wedi bod yn y byd gorllewinol, a rwan mae'r niferoedd yn cynyddu mewn gweldydd tlawd wrth iddynt 'ddatblygu' fel ma China'n ei wneud.

Gyda pob polymer (plastig) sy'n cael ei greu heddiw, ma'n prydu'n araf ac yn rhyddhau pob math o gemegion. Jyst i ddychryn chi, wrach na fydd eich DVDs yn gweithio o fewn 20 mlynedd oherwydd i'r plastig pydru ormod.

Ma'n od iawn ac yn hollol 'annaturiol' i gelloedd cychwyn gwrthod cemegyn mae ei angen i oroesi, felly dyma pam dwi'n gwneud y cysylltiad rhwng diabetes math 2 gyda'r byd 'modern' neu deunyddiau a wnaent gan dyn.

O.N. Dwi o'r farn personnol bod 95% o afiechydon heddiw i'w wneud gyda ymborth gwael y gorllewin, sy'n cynnwys llwyth o gemegion a diffyg ymarfer corff. 5% arall o ganlyniad saldra etifeddol, a mwtaniaeth megis ysmygu a byw wrth ymyl peilonnau trydan.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 19 Ion 2007 12:12 pm

huwwaters a ddywedodd:Yr unig rheswm dwi'n rhoi'r cysylltiad yma ymlaen, achos fod y niferoedd uchaf o hyd wedi bod yn y byd gorllewinol, a rwan mae'r niferoedd yn cynyddu mewn gweldydd tlawd wrth iddynt 'ddatblygu' fel ma China'n ei wneud.

Ydyn, ac wrth i'r gwledydd yma ddatblygu, mae ffordd pobl o fyw yn mynd yn fwyfwy Gorllewinol. Mae pobl yn llifo i'r trefi o gefn gwlad, ac yn bwyta mwy o fwydydd Gorllewinol sy'n orlawn o egni. Fe adroddwyd yn nhudalennau busnes y Telegraph yn ddiweddar bod McDonald's yn agor 100 (ie, cant) o fwytai newydd yn Tsieina bob blwyddyn ar hyn o bryd. Mae tystiolaeth hefyd bod bwyd a diod pobl trwy'r byd yn mynd yn fwy melys, a phobl yn magu mwy o chwant am fwydydd siwgwrog, sydd, wrth gwrs, yn orlawn o egni.

A dweud y gwir, dydyn ni ddim yn hollol siwr beth sy'n achosi diabetes, ac mae theori erbyn hyn mai 'r un clefyd yw diabetes Math 1 a Math 2: wele'r erthygl Breaking down resistance yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Huw Psych » Gwe 19 Ion 2007 4:01 pm

Cytunaf gyda Sili, er mor sili y gall hi fod! :winc:

Diabetes Math 1: diabetes mellitus sydd yn ddibynol ar insiwlin. Dinistrir celloedd beta y pancreas gan glefyd autoimmune, h.y. nid oes celloedd i gynhyrchu insiwlin felly mae'n bosibl trin claf gyda lefelau o insiwlin wedi eu rheoli.

Biabetes Math 2: non-insulin dependent DM. Gall fod oherwydd bod celloedd beta wedi dod yn llai ymatebol i glwcos felly ddim yn rhyddhau insiwlin fel y dylsent, ac/neu bod y celloedd-targed insiwlin wedi dod yn resistant. Y driniaeth ar gyfer y clefyd hwn yw rheoli'r diet, colli pwysau, cyffuriau hypoglycaemia gyda/neu insiwlin (dibynu ar achos y clefyd).

Mae'r cynydd diweddar yn y bobl sydd yn dioddef o DM yn dod yn sgil codi ymwybyddiaeth o'r clefyd. Dros y ddegawd ddiwethaf mae ymwybyddiaeth wedi codi, felly doctoriaid yn deallt mwy am symptomau'r clefyd a'i drin yn sgil hynny yn hytrach na trin y symptomoau sydd yn dod yn sgil diabetes. Wrth i'r ymwybyddiaeth godi mae mwy o bobl yn cael eu diagnosio gyda'r clefyd - felly niferoedd sydd yn dioddef yn codi!

Mae pobl o gefndir asiaidd / africa yn fwy tueddol o gael diabetes math 2, yn ogystal a phobl wyn sydd yn eu harddegau ac yn clinically or-dew.

Er-hynny, dwi'n teimlo bod cysylltiad cryf rhwng modd o fyw a'r clefyd math 2, ac mae newid eich modd o fyw yn gallu bod yn driniaeth effeithiol o reoli y glwcos yn eich gwaed. Mae lefelau cynyddol o siwgr syml yn y diet yn cynyddu, a hynny i weld i gyd-fynd gyda'r cynydd mewn nifer y bobl sy'n dioddef o diabetes.

Mae 'na lawer nad yda ni'n wybod am glefydau yn gyffredinol. Damcaniaethau sydd yn sail i lawer o glefydau. Beth sydd i ddweud nad oedd llawer i glefydau yn bodoli am ganrifoedd cyn i ddyn ei ddarganfod a rhoi enw iddo? Dwi o'r farn fod ambell i glefyd yn rhywbeth sydd yn digwydd, mae'n rhaid dygymod a hynny, efallai fod ffactorau yn cynyddu'r siawns o gael clefyd o'r fath, ond os ewch chi rownd eich bywyd bob dydd yn peidio gneud hyn a peidio byta hwn, fydd ganddo chi fawr o fywyd: elfen o siawns ydi o!

O.N. Onid ydi hi'n anghywir galw DM yn glefyd y siwgr?? Doedd na ddim stwr ddiweddar...rywun yn cofio??
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan huwwaters » Gwe 19 Ion 2007 4:14 pm

Wel, sdim ond angen edrych ar y nifer sy'n dioddef o asthma rwan a hay-fever. Yn ôl sôn, mae'r niferoedd yn codi gan fod pethau yn 'rhy lan' yn dyddiau yma. Ysbytai yn rhy clinigol, a rhieni yn gorymateb i bethau'n bod yn lân i'w plant.

Canlyniad hyn yw achos fod y system imiwnedd yn gwneud dim, mae'n gor ymateb i bethau bach, ac yn ymosod ar y corff i raddau.

Os gymharwch chi y person sy'n mwynhau mynydda, cerdded a mwy neu lai byw y tu allan, i'r person sy 'tu fewn' trwy'r dydd, gan anwybyddu lefelau ffitrwydd y pobol, y person sy'n byw tu allan fyddai'r un iach.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron