huwwaters a ddywedodd:Dwi'n bersonol yn meddwl bod na rywbeth nad ydym yn ymwybodol am, sy'n achosi'r clefyd math 2.
Yn bersonol, allai'm gweld sut fod cyswllt pendant rhwng y ddau. Dwi'n astudio meddygaeth ar y funud, ac er nad ydwi'n arbenigwraig o bell ffordd ar y pwnc, dwi wedi gneud tipyn o waith ar y clefyd 'ma erbyn hyn (eistedd arholiad arna fo dydd Llun, damia!)
I'r rhai sydd ddim yn gwybod, hormon yw insulin sy'n cael ei gynhyrchu yn y pancreas ac yn gweithredu mewn nifer o wahanol ffyrdd yn y corff. Yn fras, gall achosi i'r heptocytes, neu celloedd yr iau, gymryd glwcos i fyny, gall achosi i glwcos gal ei newid i glycogen yn y cyhyrau ac i triglycerides yn yr adipose tissue (fat). Ar ben hyn, mae'n cael ei ddefnyddio fel 'precursor' mewn nifer o wahanol adweithiau pwysig sydd yn bennaf yn rheoli lefelau glwcos yn y gwaed.
Ymddengys mae'r pethau sy'n achosi 'resistance' i insulin ydi oedran, diffyg ymarfer corff, llai o garbohydrates a dderbynnir gan y corff, cyffuriau a salwch 'intercurrent' (ffiw, Cymraeg gwael - sori!).
Yn groes i dy theori, dwi'n dueddol o feddwl y byddai effaith negyddol unrhyw gemegion yn effeithio Type 1 DM yn fwy parod gan fod y celloedd (neu islets) endocrine cyfa yn y pancreas yn cael eu dinistrio'n gyfan gwbwl yn yr achos yma. Efo Type 2 DM, dim ond yn celloedd beta sy'n rhyddhau insiwlin yn benodol sydd yn cael eu effeithio felly sa raid i unrhyw levelau o 'toxicity' yn y gwaed fod yn benodol iawn i fedru achosi 'resistance' yn y receptor cywir ac felly diabetes. Mae pob archwiliad yn awgrymu fod y salwch yn rhywbeth sy'n cael ei etifeddu ac yn reit ddibynnol ar maint y babi ar ei eni etc yn hytrach na ffactorau allanol.
Yn ddiddorol, mae tipyn o dystiolaeth i gefnogi'r ffaith y gall Type 2 DM ddod yn amlwg oherwydd 'mutation' yn y receptor sy'n derbyn insulin, er fod hwn yn bresennol o'r funud caiff y babi ei eni. Ond i gefnogi dy theori di ar gemegion, falla gall y mutations yma fod yn seiliedig ar y cemegion a gymrwyd yn ystod bywyd y fam yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei etifeddu o genhedlaeth i genhedlaeth?
Eto, sori am safon hynnod wael y Gymraeg yma. Canlyniad sefyll y pwnc drwy'r iaith fain...