Pinochet'n marw heb ateb am ei droseddau

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Mer 24 Ion 2007 11:59 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Yn wahanol i ti, mae gyda fi lawer o barch at yr safbwynt Uchel Dorïaidd ar bolisi tramor, sef y dylai gwledydd amddiffyn eu tiriogaeth eu hunain heb fynnu ymyrrydd ym musnes gwledydd eraill.


Sef yr union bolisi ddaru arwain at Suez, polisiau'r UDA yn ne America ayb. Onid dadl am amddiffyn tiriogaeth / zone of interest sydd yma Dili?
Na, rho di Kisinger a Hurd ar bedestal ond dwi'n credu fod agwedd uchel doriaidd (fel a gafwyd yn achos Bosnia) yn ddi-egwyddor, gwrth ddemocrataidd a chywilyddus. Fe fyddet, o dderbyn agweddau High Tory, yn derbyn nad oes rheswm i weithredu yn achos Darfur. Moesol iawn. Onid agwedd High Tory oedd araith Chamberlin yn 1938 yn son am wlad bell a phobl nad ydym yn ei hadnabod? Oes gennyt barch am ganlyniad y polisi tramor hwn Dili? A ti'n galw fi'n ddiniwed :rolio:

Dili a ddywedodd:...sef cred bod rhaid i bobloedd pob gwlad greu eu chwyldro eu hunain os ydyn nhw am gael newid. Mae yna le i'r Pwerau Mawr hwyluso hyn trwy beidio â mynd ati'n fwriadol i gynnal status quo gormesol (fel y gwnaeth Prydain ac America yn Irac yn yr 1980au) ond cadw draw yw'r peth gorau y gallan nhw ei wneud.


Fel yn Hwngari yn '56, Siecoslofacia yn '68, China yn '90?

Unwaith eto Dili - moesol iawn. Yr hyn sy'n rhyfeddol ydi'r faith fod gennyt y gwyneb i datgan fod neo-cons yn hunanol! Agwedd High Tory yn syml ydi nad oes rheswm dros weithredu i roi i eraill y safonau a gymerir yn ganiatol gennym ym Mhrydain / UDA. Sut yn union mae y chwith wedi coleddu y ddadl hon Duw yn unig a wyr, ond diolch i'r drefn am lais y neo-cons fel modd i brocio cydwybod.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 25 Ion 2007 9:59 am

Cath Ddu a ddywedodd:Sef yr union bolisi ddaru arwain at Suez, polisiau'r UDA yn ne America ayb. Onid dadl am amddiffyn tiriogaeth / zone of interest sydd yma Dili?

Enghraifft o ffolineb Prydeinwyr yn methu cydnabod nad oedd modd cynnal ymerodraeth yn y Dwyrain Canol oedd Argyfwng Suez.

Cath Ddu a ddywedodd:Onid agwedd High Tory oedd araith Chamberlin yn 1938 yn son am wlad bell a phobl nad ydym yn ei hadnabod?

O ran Chamberlain yn 1938, rhagrith bur oedd ei honiad nad oedd a wnelai'r argyfwng ddim byd â Phrydain, gan fod llywodraeth Dorïaidd Prydain wedi mynd ati'n fwriadol i hybu llywodraeth Natsïaidd yr Almaen. Pan ddatguddiwyd papurau Swyddfa Dramor yr Almaen yn 1945, cafwyd copi o llythyr oddi wrth Arglwydd Halifax – Ysgrifennydd Tramor Prydain cyn y Rhyfel – yn llongyfarch Hitler ar drechu Comiwnyddiaeth yn yr Almaen ac am sefyll rhwng Prydain a Bolseificiaid Rwsia.

Cath Ddu a ddywedodd:Fel yn Hwngari yn '56, Siecoslofacia yn '68, China yn '90?

Yn y tri achosi hyn fe welwyd ymdrechion gan bobl i greu eu chwyldro eu hunain yn cael eu gormesu gan un o'r Pwerau Mawr, sef yr Undeb Sofietaidd a Tsieina. Ydych chi o ddifri yn awgrymu y dylai America fod wedi ymyrryd o'r ochr arall?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cath Ddu » Iau 25 Ion 2007 11:55 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Enghraifft o ffolineb Prydeinwyr yn methu cydnabod nad oedd modd cynnal ymerodraeth yn y Dwyrain Canol oedd Argyfwng Suez.


Falle wir, ond y ddadl dros weithredu yn 1956 oedd dy ddadl di am weithredu er budd yr hyn a ddisgrifir fel y 'national interest', sef dy union ddadl o blaid agweddau 'high tory (low left?)' tuag at bolisi tramor.

Dili a ddywedodd:O ran Chamberlain yn 1938, rhagrith bur oedd ei honiad nad oedd a wnelai'r argyfwng ddim byd â Phrydain, gan fod llywodraeth Dorïaidd Prydain wedi mynd ati'n fwriadol i hybu llywodraeth Natsïaidd yr Almaen. Pan ddatguddiwyd papurau Swyddfa Dramor yr Almaen yn 1945, cafwyd copi o llythyr oddi wrth Arglwydd Halifax – Ysgrifennydd Tramor Prydain cyn y Rhyfel – yn llongyfarch Hitler ar drechu Comiwnyddiaeth yn yr Almaen ac am sefyll rhwng Prydain a Bolseificiaid Rwsia.


Felly fe ddylai Prydain fod wedi gweithredu yn 1938? :? Dwi ddim yn gweld yn union beth yw cysondeb dy ddadl fan hyn. Oedd Chamberlin yn iawn i ddweud nad oedd amddiffyn Siecoslofacia yn ddim o fusnes Prydain neu oedd o'n anghywir gan ei fod ef (a Halifax) yn gweld yr Almaen fel amddiffynfa yn erbyn Rwsia Gomiwnyddol? Dwi jyst ddim yn deall yn union be ti'n drio ddweud.

Gad i mi ofyn yn syml - mae dy ddiffiniad o bolisi tramor gwaraidd a dy barch tuag at agweddau ti'n ddisgrifio fel 'high tory' yn dweud na ddylai gwlad ymyrryd mewn materion sy'n ymwneud a gwlad arall - cywir? Os felly, oedd Chamberlin yn iawn neu ddim yn 1938? Os nad oedd o (fe y byddwn yn honni) yna lle mae hynny'n gadael dy ddisgrifiad hynod gamoliaethus o agweddau 'high tory' tuag at bolisi tramor?

Dili a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Fel yn Hwngari yn '56, Siecoslofacia yn '68, China yn '90?

Yn y tri achosi hyn fe welwyd ymdrechion gan bobl i greu eu chwyldro eu hunain yn cael eu gormesu gan un o'r Pwerau Mawr, sef yr Undeb Sofietaidd a Tsieina. Ydych chi o ddifri yn awgrymu y dylai America fod wedi ymyrryd o'r ochr arall?


Pam lai? Yn achos Berlin '48 ac hefyd argyfwng Cuba ddechrau'r '60au fe fu bodlonrwydd yr UDA i wrthsefyll yr Undeb Sofietaidd yn llwyddiant. A fyddai'r dull barbaraidd ddefnyddiwyd i drechu gwrthryfelwyr Hwngari yn '56, Prague yn '68 a China yn '90 wedi bod mor erchyll a di-gyfaddawd pe byddai yr Undeb Sofietaidd / China wedi rhagweld perygl o du'r UDA? Ond wrth gwrs, o dderbyn agweddau polisi tramor sy'n datgan nad yw bywydau pobl mewn gwledydd tramor yn cyfrif fe gafodd y gwrthryfelwyr ei chwalu gyda'r gorllewin yn golchi ei dwylo. Ti'n cefnogi'r fath foesoldeb mewn polisi tramor?

Sylwi hefyd nad wyt yn ymateb i'r pwynt am Bosnia. Bu Douglas Hurd a John Major yn gyfrwng i ddwyshau y dioddef yn Bosnia oherwydd amharodrwydd llwyr i ymyrryd (ancient hatreds, far away place etc. etc) sef ymateb clasurol 'high tory' i bolisi tramor. Rhyfeddod i mi yw dy weld yn cefnogi'r fath agwedd fel un iach a di-ragrith.

Rho i mi 'ddiniweidrwydd' syniadaeth y neo-cons unrhyw adeg.

Ta waeth, nol at y pwynt. Tydi meddylfryd neo-cons (beth bynnag dy farn amdano) DDIM yn estyniad o bolisi tramor traddodiadol yr UDA na Phrydain.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 25 Ion 2007 9:03 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Felly fe ddylai Prydain fod wedi gweithredu yn 1938? :?

Dweud rydwi bod Prydain yn gweithredu ymhell cyn 1938, gan fynd ati'n fwriadol i hybu ffasgaeth yn Ewrop fel opsiwn mwy apelgar na Bolsieficiaeth. Fel dywedodd Tony Benn unwaith, "There was no appeasement, the British government encouraged Hitler." A tasai gwleidyddion ceidwadol gwledydd Ewrop ddim wedi bod mor frwd dros Hitler (a'i gyfeillion yn Sbaen a'r Eidal), mae'n gwbl bosibl na fyddai sefyllfa echrydus 1938 wedi codi. Cyfrannodd Prydain yn fwriadol at greu'r anghenfil yn yr Almaen, fel y cyfrannon ni'n fwriadol at greu'r anghenfil yn Irac at ein dibenion ein hunain.

Cath Ddu a ddywedodd:Ond wrth gwrs, o dderbyn agweddau polisi tramor sy'n datgan nad yw bywydau pobl mewn gwledydd tramor yn cyfrif fe gafodd y gwrthryfelwyr ei chwalu gyda'r gorllewin yn golchi ei dwylo. Ti'n cefnogi'r fath foesoldeb mewn polisi tramor?

Does yna ddim lle i'r un wlad fynnu plismona'r byd, a baswn i'n amheus iawn am gymhellion unrhyw wlad sy'n ceisio gwneud hynny. Fel arfer, pan mae gwledydd yn mynd i mewn i wledydd eraill i "gadw trefn" neu "gadw heddwch", cymhellion digonol economaidd sydd ganddynt, fel America yn Irac.

Cath Ddu a ddywedodd:Sylwi hefyd nad wyt yn ymateb i'r pwynt am Bosnia?

Enghraifft arall o sut y mae ymyrraeth y Pwerau Mawr wedi gwaethygu pethau yw'r hen Iwgoslafia. Digon tebyg bod hen gasinebau ethnig yn bodoli ers tro, ond mae'n werth nodi bod pobl yr ardal yn bur unedig yn eu safiad yn erbyn Twrci ar y naill law ac Awstria-Hwngari ar y llall ar ddechrau'r 20fed ganrif. Ond fe waethygwyd y sefyllfa yn sylweddol yn yr 1930au a'r 1940au pan ymgynghreiriodd yr Almaen a Rwsia â gwahanol garfanau ethnig er mwyn hybu eu buddiannau eu hunain, gyda chanlyniadau arhosol iawn. (Fel y gwnaeth Prydain yn yr India a Ffrainc yn Rwanda, gyda chanlyniadau'r un mor waedlyd yn y pen draw).Go brin y byddai rhagor o ymyrraeth o dramor yn Iwgoslafia'n gwella pethau.

Ac os ymyrryd, i wneud beth? O blaid pwy? I sefydlu ffiniau, efallai, ond yn ble, ac ar delerau pwy?

Cath Ddu a ddywedodd:Ta waeth, nol at y pwynt. Tydi meddylfryd neo-cons (beth bynnag dy farn amdano) DDIM yn estyniad o bolisi tramor traddodiadol yr UDA na Phrydain.

Efallai y byddai'n fwy buddiol ei weld yn ymgais i ddychwelyd at yr hen feddylfryd imperialaidd a'r syniad y gall Gorllewinwyr wareiddio'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cath Ddu » Llun 29 Ion 2007 10:13 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Dweud rydwi bod Prydain yn gweithredu ymhell cyn 1938, gan fynd ati'n fwriadol i hybu ffasgaeth yn Ewrop fel opsiwn mwy apelgar na Bolsieficiaeth.


O Dduw bach. Dwi'n credu fod dyfynu Tony 'I was always right' Benn ymhell o fod yn cryfhau dy ddadl. Rhyfedd fod ymyraeth Stalin yn y sefyllfa Ewropeaidd ddiwedd y tridegau yn cael dim sylw gennyt.

Dili a ddywedodd:Does yna ddim lle i'r un wlad fynnu plismona'r byd, a baswn i'n amheus iawn am gymhellion unrhyw wlad sy'n ceisio gwneud hynny.


Felly rhwydd hynt i bob teyrn o fewn ffiniau ei wlad? Naw wfft i'r rhai hynny sy'n perthyn i Amnest ryngwladol - gadwch lonydd i drais o fewn ffiniau Cuba / Chile / China / Rwsia. Dim i wneud a ni. Gwaraidd a moesol dros ben Dili :rolio: .

Dili a ddywedodd:Fel arfer, pan mae gwledydd yn mynd i mewn i wledydd eraill i "gadw trefn" neu "gadw heddwch", cymhellion digonol economaidd sydd ganddynt, fel America yn Irac.


O na, ddim y rwtsh yma eto :rolio:

Dili a ddywedodd:Enghraifft arall o sut y mae ymyrraeth y Pwerau Mawr wedi gwaethygu pethau yw'r hen Iwgoslafia. Digon tebyg bod hen gasinebau ethnig yn bodoli ers tro, ond mae'n werth nodi bod pobl yr ardal yn bur unedig yn eu safiad yn erbyn Twrci ar y naill law ac Awstria-Hwngari ar y llall ar ddechrau'r 20fed ganrif.


Eh? Unedig? Yn erbyn Twrci? (dwi'n sicr y byddai'r Bosniad yn rhyfeddu o glywed hyn). Yn erbyn Awstria - Hwngari? :lol: :lol: , o pliiiiis dwed wrth y croatiaid oed ddim hyd yn oed yn rhan o Serbia na greater Serbia tan 1919 (wedi i Awstria Hwngari ddod i ben.

Dili a ddywedodd:Ond fe waethygwyd y sefyllfa yn sylweddol yn yr 1930au a'r 1940au pan ymgynghreiriodd yr Almaen a Rwsia â gwahanol garfanau ethnig er mwyn hybu eu buddiannau eu hunain,


Rwsia? O ddifrif calon lle ti'n cael y stwff yma Dili?

Dili a ddywedodd:Go brin y byddai rhagor o ymyrraeth o dramor yn Iwgoslafia'n gwella pethau.


Wel dwi'n tybio fod ymyrraeth tramor wedi arwain at HEDDWCH. Croeso i ti edrych ar y newyddion o Bosnia, Croatia, Kosovo. Lle y bu hil-laddiad, ymgyrchoedd treisgar yn erbyn y boblogaeth ceir heddiw heddwch. So be yn union di dy bwynt? Nad yw Bosnia yn cyfrif oherwydd fod y cyfan yn groes i dy ragfarn wrth Americanaidd?

Dili a ddywedodd:Ac os ymyrryd, i wneud beth? O blaid pwy? I sefydlu ffiniau, efallai, ond yn ble, ac ar delerau pwy?


O ddifrif Dili, wyt ti'n gwybod unrhywbeth am drafferthion Iwgoslafia rhwng 1991 a 1999? Pa ffiniau? Beth am ffiniau y gwledydd ffedral oedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia? Lle da i gychwyn. Onid cydnabod yr hawl i hunan reolaeth ydi un o ganllawiau'r chwith wleidyddol? Ta di gwrth-americaniaeth yn bwysicach? Pam yn union na ddylid fod wedi derbyn penderfyniad democrataidd seneddau a phobl Croatia a Bosnia i ddatgan annibyniaeth? Beth yw'r broblem o ran ymyrryd i wrthwynebu lluoedd Serbia yn gweithredu yn erbyn yr hawl hwn i ymreolaeth?

Beth yn union di'r broblem fan hyn?

Yn naturiol, o dderbyn cachu llwyr Hurd a Major (a Marxism Today o ran hynny :P ) am ethnic hatreds ayb mae'n hawdd golchi dy ddwylo wrth i filoedd o bobl gael eu lladd - dyna wir effaith dy syniadaeth hurt na ddylai gwledydd ymyrryd fel plismon rhyngwladol. Onid gwych o beth fyddai gweld ymyraeth ar batrwm Iwgoslafia yn Darfur?

A beth yn union oedd mantais economaidd yr UDA (diolch i Clinton) o ymyrryd yn y gyflafan yn Bosnia?

Dili a ddywedodd:Efallai y byddai'n fwy buddiol ei weld yn ymgais i ddychwelyd at yr hen feddylfryd imperialaidd a'r syniad y gall Gorllewinwyr wareiddio'r byd.


Pam lai? O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel? Congl fechan o wareiddiad democrataidd orllewinol yng nghanol mor o ddifyg democratiaeth a diffyg hawliau dynol.

I mi mae gwareiddiad y gorllewin yn golygu hawliau i ferched, hawliau dynol, parch a chydraddoldeb ayb. Rwan os y dewis ydi byw dan Sharia yn Nigeria a derbyn llabuddio merched am gael eu treisio neu dderbyn dedfrydau megis torri dwylo lladron yna rho i mi wareiddiad y Gorllewin. Tydi Sharia a gwareiddiad y gorllewin DDIM yn gyfartal. Mae un yn amlwg well na'r llall. Full stop.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Mer 31 Ion 2007 7:36 pm

Cath Ddu a ddywedodd:O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel?


:ofn:

I'r rhai sydd wedi bod yn dilyn yr edefyn hon - llaw i fyny pwy sydd wedi pwyntio allan y rhagrith yn y neges uchod.

Delwedd
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dili Minllyn » Mer 31 Ion 2007 9:15 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel? Congl fechan o wareiddiad democrataidd orllewinol yng nghanol mor o ddifyg democratiaeth a diffyg hawliau dynol.

Dechreuwn ni efo dy bwynt gwaethaf yn gyntaf. Yn syml iawn, nage. Dim ond un rheswm sydd dros fodolaeth Israel, sef bod carfan o Iddewon wedi ewyllysio iddi fod. Dyw hi ddim yn bod er mwyn bod yn outpost i'r Gorllewin yn y Dwyrain Canol, mae hi'n bod er mwyn bod yn gartref diogel i'r Iddewon wedi canrifoedd o gamdrin yn Ewrop. Fel Seionydd sydd am weld y Wladwriaeth Iddewig yn ffynnu er ei mwyn ei hunan, mae pobl fel ti sy'n ei gweld hi'n rhyw Airstrip One cyfleus i Oceania yn codi cyfog arnaf.

Cath Ddu a ddywedodd:O Dduw bach. Dwi'n credu fod dyfynu Tony 'I was always right' Benn ymhell o fod yn cryfhau dy ddadl. Rhyfedd fod ymyraeth Stalin yn y sefyllfa Ewropeaidd ddiwedd y tridegau yn cael dim sylw gennyt.

Dwi'n fwy na bodlon trafod Teyrnasiad gwaedlyd Stalin – a'i rôl yn nhwf Natsïaeth – ond do'n i ddim yn gwybod mai hwnnw oedd testun ein trafod. O ran Tony Benn, gan ei fod e'n fyw ar y pryd ac yn sylwebu ar ddigwyddiadau yn ddigon agos (ac yntau yn y Llu Awyr a'i dad agos iawn at lywodraeth Prydain), dwi'n meddwl bod ei farn a ar y mater gystal ag un neb arall.

Cath Ddu a ddywedodd:Naw wfft i'r rhai hynny sy'n perthyn i Amnest ryngwladol - gadwch lonydd i drais o fewn ffiniau Cuba / Chile / China / Rwsia.

Mudiad gwirfoddol o unigolion cydwybodol yw Amnest Rhyngwladol, sy'n ymgyrchu'n ddiwahan yn erbyn camdrin ym mhob gwlad, gan gynnwys sawl gwlad nad yw gwledydd Gorllewin yn poeni ryw lawer am hawliau dynol ynddi, gan y byddai'n groes i'w buddiannau nhw i'w gwneud, fel Tsieina a Sawd Arabia. Does dim modd yn y byd cymharu gwaith da Amnest ag anturiaethau penchwiban y neo-cons.

Cath Ddu a ddywedodd:Eh? Unedig? Yn erbyn Twrci? (dwi'n sicr y byddai'r Bosniad yn rhyfeddu o glywed hyn). Yn erbyn Awstria - Hwngari? :lol: :lol: , o pliiiiis dwed wrth y croatiaid oed ddim hyd yn oed yn rhan o Serbia na greater Serbia tan 1919 (wedi i Awstria Hwngari ddod i ben.

Digon teg, ar ôl tipyn bach mwy o ymchwilio, dwi'n meddwl mod i wedi camddeall yr hanes. Fel mae'r erthygl yma yn awgrymu, doedd y Bosniaid ddim yn rhyw frwd iawn dros undod Slafiaid y De (Iwgoslafia).

Cath Ddu a ddywedodd:Rwsia? O ddifrif calon lle ti'n cael y stwff yma Dili?

O, rwyt ti'n gwadu ymyrraeth Stalin yn Nwyrain Ewrop nawr, wyt ti?

Cath Ddu a ddywedodd:Onid gwych o beth fyddai gweld ymyraeth ar batrwm Iwgoslafia yn Darfur? A beth yn union oedd mantais economaidd yr UDA (diolch i Clinton) o ymyrryd yn y gyflafan yn Bosnia?

Beth, rhagor o fomio o'r awyr? Pwy a ŵyr beth oedd yn gyrru Clinton i dindroi am flynyddoedd ac wedyn ymyrryd yn ffordd mwyaf lletchwith posibl. Ar un ystyr - fel hen ryddfrydwr da - roedd e am gael ei weld yn gwneud rhywbeth, ar y llaw arall, roedd e'n cael ei gwrsio gan fwganod Fietnâm ac yn arswydo rhag gweld milwyr America'n mynd yn sownd mewn rhyfel diderfyn ar lawr gwlad, felly mi ddanfonodd ei awyrennau i mewn i ollwng angau o ddiogewlch yr awyr. A dyna fe'n achub y byd a chadw ei ddwylo'n weddol lân o waed Americanaidd, os nad gwaed Slafiaid diniwed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Mer 31 Ion 2007 11:23 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Pam lai? O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel? Congl fechan o wareiddiad democrataidd orllewinol yng nghanol mor o ddifyg democratiaeth a diffyg hawliau dynol.

I mi mae gwareiddiad y gorllewin yn golygu hawliau i ferched, hawliau dynol, parch a chydraddoldeb ayb. Rwan os y dewis ydi byw dan Sharia yn Nigeria a derbyn llabuddio merched am gael eu treisio neu dderbyn dedfrydau megis torri dwylo lladron yna rho i mi wareiddiad y Gorllewin. Tydi Sharia a gwareiddiad y gorllewin DDIM yn gyfartal. Mae un yn amlwg well na'r llall. Full stop.


Ta waeth am y gweddill dw i'n cytuno cant y cant â hyn.

Er gwaethaf ei ffaeleddau niferus iawn, ac mae'r modd y'i ffurfiwyd yn amherthnasol, y gwir amdani ydi bod Israel yn neisiach gwlad na'i chymdogion. Yn wir swn i'n dweud bod y ffaith eu bod yn wlad digon "gorllewinol" ei naws yn fwy o reswm fyth i'w condemnio pan mae nhw'n gwneud pethau drwg, achos mae nhw'n gadael ein system ddemocrataidd ryddfrydol "ni" i lawr. Nhw ydi cenhadwyr democratiaeth ryddfrydol yn yr ardal, mewn ffordd, felly mae sgil-effaith eu camweddau gymaint â hynny'n waeth gan ei fod yn troi pobl yn erbyn y system honno; system sydd gant a mil gwaith gwell na chyfraith sharia neu unrhyw ffurf o theocratiaeth neu dotalitariaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Owain Llwyd » Mer 31 Ion 2007 11:24 pm

Cath Ddu a ddywedodd:I mi mae gwareiddiad y gorllewin yn golygu hawliau i ferched, hawliau dynol, parch a chydraddoldeb ayb. Rwan os y dewis ydi byw dan Sharia yn Nigeria a derbyn llabuddio merched am gael eu treisio neu dderbyn dedfrydau megis torri dwylo lladron yna rho i mi wareiddiad y Gorllewin. Tydi Sharia a gwareiddiad y gorllewin DDIM yn gyfartal. Mae un yn amlwg well na'r llall. Full stop.


Ond mae trigolion Sawdi Arabia yn byw o dan Sharia. Mae'r heddlu crefyddol yno yn nodedig o erchyll. Ac mae Condoleeza Rice, ryw fis yn ôl, wedi galw'r wlad yn 'moderate' a 'mainstream'.

O ystyried hyn - a dw i'n amau nad ydi Rice ddim yn mentro allan i ben cangen wrth ddefnyddio'r geiriau yna - anodd gen i weld sut mae dy agwedd hollol ddealladwy at Sharia yn cyd-fynd yn gysurus efo dy ffydd yn awydd gweinyddiaeth bresennol yr UDA i ledu 'gwareiddiad y gorllewin'. Bosibl 'mod i'n colli rhywbeth, wrth gwrs.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 12:03 am

Dan Dean a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel?


:ofn:

I'r rhai sydd wedi bod yn dilyn yr edefyn hon - llaw i fyny pwy sydd wedi pwyntio allan y rhagrith yn y neges uchod.

Delwedd


Be ti'n trio neud Dan, plesio Sioni?

O ddifrif, da chi fel rhyw identicit nashis :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron