Cath Ddu a ddywedodd:Dweud ddaru mi fod Israel yn outpost i wareiddiad y Gorllewin. Tria wadu hynny Dili. Tria wadu ddemocratiaeth aml bleidiol Israel. Tria wadu parch Israel (er gwaethaf pob cangymeriad) at hawliau dynol. Tria wadu cefnogaeth Israel i oruchafiaeth y gyfraith dros y dosbarth llywodraethu (gweler trafferthion yr Arlywydd a'r Prif Weinidog ar hyn o bryd) a tria weld ymdrech orllewinnol Israel i fod yn gymhwysol trwy gynnig sedd yn y cabinet i Israeli - Arabaidd. Nid seionyddiaeth ydi sail y fath weithredu ond gwareiddiad y gorllewin.
Dw i ddim yn siwr a fyddai llawer o Seionyddion Israel yn gwerthfawrogi dy wrthgyferbynnu rhwng Seionyddiaeth a gwerthoedd gwaraidd. Pan sefydlwyd Israel, gobaith llawer un oedd y byddai'n well na gwledydd y Gorllewin - Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen wrth reswm, a Phrydain i raddau llai - lle roedd parch at hawliau Iddewon wedi bod yn nodedig o absennol ar adegau. Ar sail gwerthoedd Iddewig roedd y Seionyddion cyntaf yn eu gweld eu hunain yn sefydlu eu gwlad, er bod rhai fel Herzl yn gweld rhyw werth yn rhywfaint o dreftadaeth Ewrop.
Cath Ddu a ddywedodd:Ond felly nol at y pwynt Dili, onid yw dy ganu clochydd o agweddau 'High Tory' tuag at bolisi tramor yn llai na moesol?
Sef bod fy safbwynt i'n llai moesol nag un criw o gyn-sosialwyr wedi cael cydwybod drwg am eu gorffennol ac yn awyddus i brofi Duw a ŵyr beth trwy ymgynghreirio â chowbois olewgar, a hynny i gyd dan faner democratiaeth. Hmm, gad i fi feddwl nawr....
Cath Ddu a ddywedodd:Onid teg oedd i mi ddadlau fod dy ddisgrifiad o bolisi tramor neo-geidwadol fel estyniad o Imperialaeth / 'self-interest only foreign policy' braidd yn syml (heb son am fod yn anghywir)?
Dwi'n meddwl 'bod ni wedi sefydlu'r ffaith yn eithaf clir erbyn hyn 'mod i'n anghytuno â ti am hyn. Ynteu wyt ti am fy mhlagio hyd syrffed ynghylch y mater nes i mi ildio trwy ddiflastod?