Pinochet'n marw heb ateb am ei droseddau

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pinochet'n marw heb ateb am ei droseddau

Postiogan Prysor » Sul 10 Rhag 2006 8:52 pm

Pinochet wedi marw. Yr anghenfil wedi cael byw bywyd braf a hir ar ôl yr holl droseddau barbaraidd y bu'n gyfrifol drostynt.

Oes unrhyw gyfiawnder yn y byd 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan huwcyn1982 » Sul 10 Rhag 2006 10:07 pm

Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan 7ennyn » Llun 11 Rhag 2006 12:39 am

Jack Straw - y llipryn llwfr. Dylsai Pinochet fod wedi marw yn ei faw ei hun mewn cell cyn i'w garcas drewllyd gael ei fwydo i'r moch. Cywilydd arnat ti a dy dylwyth, Straw!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Lletwad Manaw » Llun 11 Rhag 2006 8:09 am

A Thatcher yn dweud hefyd ei bod hi yn drist ofnadw am ei farwolaeth.

Mae'n hen bryd i'r ast yma gicio'r bwced hefyd. Ma gofyn cael parti enfawr fel sydd yn Santiago pan drengith y badell.

Mor eironig fod y Ty Gwyn yn dweud y dylem gofio heddiw am y rheiny a ddiddefodd o dan y drefn filwrol Pinochet yn Chile, ag ma' cyn brifwenidog Prydeinig oedd dal mewn pwer ond 16 mlynedd yn ol yn ei glodfori i'r cymylau.

Dylid cofio fan hyn gyfeillion bod y rhan helaeth o Doriaid yn dal i eilun addoli yr hen ddraig.
Dylid ar bob cyfri atgoffa'r pleidleiswyr o hyn a'i sylwadau ar farwolaeth yr unben pan ddeith y rownd nesaf o etholiadau cenedlaethol a Phrydeinig
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Postiogan Positif80 » Llun 11 Rhag 2006 9:24 am

Mae pethau da yn digwydd i bobl drwg; dyna natur bywyd. Tra bod pobl ar y ddaear, ni fydd hynna'n newid.

Mae hyn yn un o'r achlysuron lle dwi'n teimlo'n rhyfedd iawn, oherwydd dwi'n cydnabod fod Pinochet yn ddyn erchyll, ond 'sgen i ddim ots am y peth.

(Ac ie, mi faswn i'n meddwl yn wahanol tase un o'n nheulu i wedi marw yn yr un modd)

Ond dyma beth sy'n digwydd pan mae dyn yn barod i wneud unrhywbeth i gael ac i gadw pwer - mae o'n llwyddo, ac yn cael getaway. Sefyllfa drwg, ond beth all unrhyw un gwneud am y peth rwan?

Dwi'm yn gwybod llawer am hanes y dyn, ond dwi'n siwr y bydda i'n clywed mwy amdano yn y dyddiau i ddod.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dili Minllyn » Llun 11 Rhag 2006 12:58 pm

Positif80 a ddywedodd:Dwi'm yn gwybod llawer am hanes y dyn, ond dwi'n siwr y bydda i'n clywed mwy amdano yn y dyddiau i ddod.

Fel arfer, mae ysgrif goffa dda a gweddol gytbwys yn y Torigraff, gyda llun hynod o'r Cadfridog dan sylw gyda'r Pab Ioan Pawl II.

Sylwadau un o gynrychiolwyr Ronald Reagan yn Chile (o'r erthygl uchod] a ddywedodd:[Pinochet was] the toughest nut I've even seen. He makes Somoza and the rest of those guys look like a bunch of patsies.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Maw 12 Rhag 2006 9:03 pm


Does ryfedd yn y byd i Thatcher ochri gyda Pinochet, gan iddo fe a Bechgyn Chicago baratoi'r ffordd i'w chwyldro economaidd hithau a Ronald Reagan. (Roedd hyn, wrth gwrs, ymhell cyn iddo fe ennill ffafr y Ddynes Haearn trwy gefnogi Pyrdain yn Rhyfel Ynysoedd Falkand, sef y rheswm a roddir fel arfer am y cyfeilgarwch rhwng y dda). Mae blog Lenin's Tomb wedi gwneud pwyntiau dilys ynghylch arwyddocâd gwleidyddol-economaidd Pinochet (tu hwnt i'w arwyddocâd fel llofrudd, lleidr, arteithiwr ac ati).

Lenin's Tomb a ddywedodd:To see him as simply another vile bastard dictator who has snuffed it is to miss the point. He was crucial, inasmuch as he provided the opportunity for advanced capitalist states to test in the periphery a doctrine that lurked in the margins of political discourse back home.

Mae'r erthygl yn y Telegraph dwi wedi sôn amdani uchod hefyd yn gwneud nifer o bwyntiau da am Pinochet ac Allende:

- Er bod Pinochet yn honni iddo achub y wlad rhag anhrefn economaidd, roedd llawer o'r anhrefn a welwyd wedi'i chreu'n fwriadol trwy ymyrraeth ei ffrindiau fe yn yr Unol Daleithiau. Dywedodd Richard Helms, cyfarwyddwr y CIA ar y pryd, ei fod am "wneud i economi Chile sgrechian."

- At hynny, er bod polisïau Allende wedi anfanteisio rhai (yn bennaf y rhai a gollodd eiddo diwydiannol a masnachol pan gafodd ei wladoli) roedd ei raglen yn bur boblogaidd yn y wlad. Cofiwch mai hwn oedd yr arweinydd Comiwnyddol cyntaf yn y byd i gael ei ethol mewn democratiaeth gyfalafol.

- Ac er i Pinochet afdywio rhai rhannau o'r economi, fe dyfodd y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf, gan adael rhyw chwarter o bobl y wlad yn byw mewn tlodi enbyd.

Rhyfedd ei fod yn dal i fod yn eilun i rai.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 13 Rhag 2006 10:21 am

Mae hon yn ffilm dda i roi rhywfaint o gyd-destun chwyldro 1973, gyda ffilm wreiddiol o'r cyfnod a chyfweliadau gyda phlant Allende a phobl oedd yn gweld dyfodol disglair o dan Allende, cyn i Pinochet ddod â'i bolisïau asgell dde i chwalu economi gydraddol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan docito » Mer 13 Rhag 2006 1:42 pm

Fel rhywun sydd wedi gwario cryn dipyn o amser yn Tsili a gweddill De America m'n rhaid dweud bod ymateb pobl yn y wlad yn wahanol iawn i'n syniadau ni
Dwi'n cofio astudio Tsili a'r junta yn yr Ariannin a cael fy mrawychu gan yr erchyllderau ond.........

Y realiti yw bod yna nifer sylweddol (o bosib i mwyafrif) o bobl yn y ddwy wlad yn gefnogwyr brwd o Pinochet a'r llywodraethau milwrol. Cofio sawl person yn son am y 70au fel yr amseroedd da gyda pawb yn gweithio a'r strydoedd yn ddiogel. Ma Tsili yn parhau i fod yn wlad sy'n ffynu ac mae hynny'n bennaf i ganlyniad i ddatblygiadau economaidd pinochet

Nawr, sai'n amddiffyn beth wnaeth y dyn, dwi'n gwybod mai dyma beth oedd y ddadleuon a ddefnyddiwyd i gefnogi hitler et al. Jyst meddwl bod hi wastad yn werth dangos perspectif gwahanol
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dan Dean » Mer 13 Rhag 2006 8:15 pm

docito a ddywedodd:Cofio sawl person yn son am y 70au fel yr amseroedd da gyda pawb yn gweithio a'r strydoedd yn ddiogel. Ma Tsili yn parhau i fod yn wlad sy'n ffynu ac mae hynny'n bennaf i ganlyniad i ddatblygiadau economaidd pinochet


Ym, efallai na am y 70au cynnar oeddynt yn son amdano neu eu bod yn siarad cachu. Mae'n ffaith oedd diweithdra yn uchel iawn o dan y boi i'w gymharu gyda cyfnod Allende, o be dwi di weld 22% yn 1983 i'w gymharu a 4% yn 1973.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron