Dili Minllyn a ddywedodd:Dechreuwn ni efo dy bwynt gwaethaf yn gyntaf. Yn syml iawn, nage. Dim ond un rheswm sydd dros fodolaeth Israel, sef bod carfan o Iddewon wedi ewyllysio iddi fod. Dyw hi ddim yn bod er mwyn bod yn outpost i'r Gorllewin yn y Dwyrain Canol, mae hi'n bod er mwyn bod yn gartref diogel i'r Iddewon wedi canrifoedd o gamdrin yn Ewrop. Fel Seionydd sydd am weld y Wladwriaeth Iddewig yn ffynnu er ei mwyn ei hunan, mae pobl fel ti sy'n ei gweld hi'n rhyw Airstrip One cyfleus i Oceania yn codi cyfog arnaf.
O cer i gachu Dili. Pa mor hunan gyfiawn ti'n bwriadu bod yn yr edefyn hwn eh? Falle nad yw Israel yn bod fel outpost i'r Gorllewin ond NID dyna fu i mi ddweud. Dweud ddaru mi fod Israel yn outpost i wareiddiad y Gorllewin. Tria wadu hynny Dili. Tria wadu ddemocratiaeth aml bleidiol Israel. Tria wadu parch Israel (er gwaethaf pob cangymeriad) at hawliau dynol. Tria wadu cefnogaeth Israel i oruchafiaeth y gyfraith dros y dosbarth llywodraethu (gweler trafferthion yr Arlywydd a'r Prif Weinidog ar hyn o bryd) a tria weld ymdrech orllewinnol Israel i fod yn gymhwysol trwy gynnig sedd yn y cabinet i Israeli - Arabaidd. Nid seionyddiaeth ydi sail y fath weithredu ond gwareiddiad y gorllewin.
Cyn taflu dy faw (ensyniadau am diniweidrwydd, codi cyfog arnat ayb) beth am ddarllen y negeseuon gyntaf?
Dili a ddywedodd:Dwi'n fwy na bodlon trafod Teyrnasiad gwaedlyd Stalin – a'i rôl yn nhwf Natsïaeth – ond do'n i ddim yn gwybod mai hwnnw oedd testun ein trafod.
Eh? Ti'n cadw'r hawl i fynd ar ol bob sgwarnog i brofi rhyw urddas mewn polisi tramor "i'm allright jack" ac wedyn yn cwyno am fy ymdrech i ehangu'r drafodaeth? Gyda llaw - rheol newydd i drafodaeth Maes e - os ti'n defnyddio Wikipedia fel sail i dy ddadl yna ti di colli. Ai Wikipedia oedd sylfaen y rwtsh bu i ti gyfrannu am yr hen Iwgoslafia?
Dili a ddywedodd:Mudiad gwirfoddol o unigolion cydwybodol yw Amnest Rhyngwladol, sy'n ymgyrchu'n ddiwahan yn erbyn camdrin ym mhob gwlad, gan gynnwys sawl gwlad nad yw gwledydd Gorllewin yn poeni ryw lawer am hawliau dynol ynddi, gan y byddai'n groes i'w buddiannau nhw i'w gwneud, fel Tsieina a Sawd Arabia. Does dim modd yn y byd cymharu gwaith da Amnest ag anturiaethau penchwiban y neo-cons.
O wir Dili, mae hyn tu hwnt i fod yn syrffedus. Be di'r ddadl fan hyn felly? Pob hawl i fudiad o wirfoddolwyr gael cydwybod ond nid felly gwladwriaethau ar sail pleidlais ddemocrataidd y bobl? Onid oes gan wladwriaethau o dderbyn cefnogaeth etholwyr yr hawl i ddatgan barn a gweithredu ar y farn honno yn enw cydwybod, moesoldeb a hawliau dynol?
Wrth gwrs, efallai dy fod o'r farn fod cadw dy hun yn bur efo ceiniog neu ddwy i leddfu dy gydwybod trwy Amnest tra'n gweiddi'n groch yn erbyn unrhyw wethredu er mwy hawliau dynol yn safbwynt moesol. Cyfoglyd a chyfforddus fyddai fy nigrifiad i o'r fath safbwynt serch hynny.
Dili a ddywedodd:Digon teg, ar ôl tipyn bach mwy o ymchwilio, dwi'n meddwl mod i wedi camddeall yr hanes.
Dwi'n parchu dy onestrwydd fan hyn.
Dili a ddywedodd:O, rwyt ti'n gwadu ymyrraeth Stalin yn Nwyrain Ewrop nawr, wyt ti?
Yn achos Ttio a Iwgoslafia, ydw, ydw ac ydw eto. O ddifrif Dili, ti'n trio gwneud ffwl ohonot dy hun? Ti'n gwybod DIM am Iwgoslafia os ti' awgrymu fod y wlad dan ddylanwad Stalin / Undeb Sofietaidd.
Dili a ddywedodd:Pwy a ŵyr beth oedd yn gyrru Clinton i dindroi am flynyddoedd ac wedyn ymyrryd yn ffordd mwyaf lletchwith posibl.
Am y pwynt cyntaf mae'r ateb yn HOLLOL amlwg. Yr Undeb Ewropeaidd ac arweinyddiaeth Ffrainc a Phrydain ar y mater yn anffodus. O ran Clinton, wel dwi erioed wedi edmygu y dyn ond yn achos Iwgoslafia cymaint oedd gwrthwynebiad yr EU i ymyrraeth fel y bu i'r UDA arfogi Croatia fel sail i newid y sefyllfa. Nid lletwith oedd y canlyniad ond ysgubol gan arwain bron yn syth at wyrdroi y sefyllfa nid yn unig yng Ngroatia ond hefyd yn Bosnia. Dim ond diffyg gwybodaeth LLWYR fyddai wedi dy arwain i ofyn y cwestiwn hwn Dili.
Dili a ddywedodd:A dyna fe'n achub y byd a chadw ei ddwylo'n weddol lân o waed Americanaidd, os nad gwaed Slafiaid diniwed.
O Iesu mawr. Pa rwtsh nesaf o law Dili yr holl anwybodus? Sawl bywyd gollwyd yn Iwgoslafia yn dilyn ymyraeth Clinton a'r UDA a sawl bywyd gollwyd tra'n disgwyl i'r EU setlo'r broblem?
O ddifrif ti'n gwybod DIM, DIM am yr hyn ddigwyddodd yn Iwgoslafia rhwng 1993 - 1999. Ti'n gwybod DIM am fethiant polisi yr EU o beidio ymyrryd a chanlyniadau gwaedlyd y polisi hwnnw. Ti'n gwybod DIM am effaith rhoi lluoedd y CU yn Bosnia HEB yr hawl i ymyrryd (gweler Srebrenicia), a ti'n gwybod DIM am pa mor syml ac allweddol oedd ymyrraeth yr UDA i greu heddwch mewn cwta naw mis.
I chdi, eistedd ar y cryion yn malu cachu am hanes a hen elyniaeth ethnig oedd yr ateb. Y canlyniad oedd llofruddio o leiaf 250,000 o drigolion Bosnia a Croatia. I mi, ymyrraeth allanol mewn materion gwlad arall er budd hawliau dynol oedd yr ateb.
Mae'n ymddangos i mi dy fod yn gweld bywydau y diniwed yn bris gwerth ei dalu cyn belled nad oes angen yr UDA i greu'r amodau am heddwch. Sut yn union mae sinic fel ti'n credu dy fod mewn sefyllfa i gondemnio syniadau'r neo-cons?
Rhagrith llwyr.