Dili Minllyn a ddywedodd:Dweud rydwi bod Prydain yn gweithredu ymhell cyn 1938, gan fynd ati'n fwriadol i hybu ffasgaeth yn Ewrop fel opsiwn mwy apelgar na Bolsieficiaeth.
O Dduw bach. Dwi'n credu fod dyfynu Tony 'I was always right' Benn ymhell o fod yn cryfhau dy ddadl. Rhyfedd fod ymyraeth Stalin yn y sefyllfa Ewropeaidd ddiwedd y tridegau yn cael dim sylw gennyt.
Dili a ddywedodd:Does yna ddim lle i'r un wlad fynnu plismona'r byd, a baswn i'n amheus iawn am gymhellion unrhyw wlad sy'n ceisio gwneud hynny.
Felly rhwydd hynt i bob teyrn o fewn ffiniau ei wlad? Naw wfft i'r rhai hynny sy'n perthyn i Amnest ryngwladol - gadwch lonydd i drais o fewn ffiniau Cuba / Chile / China / Rwsia. Dim i wneud a ni. Gwaraidd a moesol dros ben Dili
.
Dili a ddywedodd:Fel arfer, pan mae gwledydd yn mynd i mewn i wledydd eraill i "gadw trefn" neu "gadw heddwch", cymhellion digonol economaidd sydd ganddynt, fel America yn Irac.
O na, ddim y rwtsh yma eto
Dili a ddywedodd:Enghraifft arall o sut y mae ymyrraeth y Pwerau Mawr wedi gwaethygu pethau yw'r hen Iwgoslafia. Digon tebyg bod hen gasinebau ethnig yn bodoli ers tro, ond mae'n werth nodi bod pobl yr ardal yn bur unedig yn eu safiad yn erbyn Twrci ar y naill law ac Awstria-Hwngari ar y llall ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Eh? Unedig? Yn erbyn Twrci? (dwi'n sicr y byddai'r Bosniad yn rhyfeddu o glywed hyn). Yn erbyn Awstria - Hwngari?
, o pliiiiis dwed wrth y croatiaid oed ddim hyd yn oed yn rhan o Serbia na greater Serbia tan 1919 (wedi i Awstria Hwngari ddod i ben.
Dili a ddywedodd:Ond fe waethygwyd y sefyllfa yn sylweddol yn yr 1930au a'r 1940au pan ymgynghreiriodd yr Almaen a Rwsia â gwahanol garfanau ethnig er mwyn hybu eu buddiannau eu hunain,
Rwsia? O ddifrif calon lle ti'n cael y stwff yma Dili?
Dili a ddywedodd:Go brin y byddai rhagor o ymyrraeth o dramor yn Iwgoslafia'n gwella pethau.
Wel dwi'n tybio fod ymyrraeth tramor wedi arwain at HEDDWCH. Croeso i ti edrych ar y newyddion o Bosnia, Croatia, Kosovo. Lle y bu hil-laddiad, ymgyrchoedd treisgar yn erbyn y boblogaeth ceir heddiw heddwch. So be yn union di dy bwynt? Nad yw Bosnia yn cyfrif oherwydd fod y cyfan yn groes i dy ragfarn wrth Americanaidd?
Dili a ddywedodd:Ac os ymyrryd, i wneud beth? O blaid pwy? I sefydlu ffiniau, efallai, ond yn ble, ac ar delerau pwy?
O ddifrif Dili, wyt ti'n gwybod
unrhywbeth am drafferthion Iwgoslafia rhwng 1991 a 1999? Pa ffiniau? Beth am ffiniau y gwledydd ffedral oedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia? Lle da i gychwyn. Onid cydnabod yr hawl i hunan reolaeth ydi un o ganllawiau'r chwith wleidyddol? Ta di gwrth-americaniaeth yn bwysicach? Pam yn union na ddylid fod wedi derbyn penderfyniad democrataidd seneddau a phobl Croatia a Bosnia i ddatgan annibyniaeth? Beth yw'r broblem o ran ymyrryd i wrthwynebu lluoedd Serbia yn gweithredu yn erbyn yr hawl hwn i ymreolaeth?
Beth yn union di'r broblem fan hyn?
Yn naturiol, o dderbyn cachu llwyr Hurd a Major (a Marxism Today o ran hynny
) am ethnic hatreds ayb mae'n hawdd golchi dy ddwylo wrth i filoedd o bobl gael eu lladd - dyna wir effaith dy syniadaeth hurt na ddylai gwledydd ymyrryd fel plismon rhyngwladol. Onid gwych o beth fyddai gweld ymyraeth ar batrwm Iwgoslafia yn Darfur?
A beth yn union oedd mantais economaidd yr UDA (diolch i Clinton) o ymyrryd yn y gyflafan yn Bosnia?
Dili a ddywedodd:Efallai y byddai'n fwy buddiol ei weld yn ymgais i ddychwelyd at yr hen feddylfryd imperialaidd a'r syniad y gall Gorllewinwyr wareiddio'r byd.
Pam lai? O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel? Congl fechan o wareiddiad democrataidd orllewinol yng nghanol mor o ddifyg democratiaeth a diffyg hawliau dynol.
I mi mae gwareiddiad y gorllewin yn golygu hawliau i ferched, hawliau dynol, parch a chydraddoldeb ayb. Rwan os y dewis ydi byw dan Sharia yn Nigeria a derbyn llabuddio merched am gael eu treisio neu dderbyn dedfrydau megis torri dwylo lladron yna rho i mi wareiddiad y Gorllewin. Tydi Sharia a gwareiddiad y gorllewin DDIM yn gyfartal. Mae un yn amlwg well na'r llall. Full stop.