Pinochet'n marw heb ateb am ei droseddau

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 12:49 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Dechreuwn ni efo dy bwynt gwaethaf yn gyntaf. Yn syml iawn, nage. Dim ond un rheswm sydd dros fodolaeth Israel, sef bod carfan o Iddewon wedi ewyllysio iddi fod. Dyw hi ddim yn bod er mwyn bod yn outpost i'r Gorllewin yn y Dwyrain Canol, mae hi'n bod er mwyn bod yn gartref diogel i'r Iddewon wedi canrifoedd o gamdrin yn Ewrop. Fel Seionydd sydd am weld y Wladwriaeth Iddewig yn ffynnu er ei mwyn ei hunan, mae pobl fel ti sy'n ei gweld hi'n rhyw Airstrip One cyfleus i Oceania yn codi cyfog arnaf.


O cer i gachu Dili. Pa mor hunan gyfiawn ti'n bwriadu bod yn yr edefyn hwn eh? Falle nad yw Israel yn bod fel outpost i'r Gorllewin ond NID dyna fu i mi ddweud. Dweud ddaru mi fod Israel yn outpost i wareiddiad y Gorllewin. Tria wadu hynny Dili. Tria wadu ddemocratiaeth aml bleidiol Israel. Tria wadu parch Israel (er gwaethaf pob cangymeriad) at hawliau dynol. Tria wadu cefnogaeth Israel i oruchafiaeth y gyfraith dros y dosbarth llywodraethu (gweler trafferthion yr Arlywydd a'r Prif Weinidog ar hyn o bryd) a tria weld ymdrech orllewinnol Israel i fod yn gymhwysol trwy gynnig sedd yn y cabinet i Israeli - Arabaidd. Nid seionyddiaeth ydi sail y fath weithredu ond gwareiddiad y gorllewin.

Cyn taflu dy faw (ensyniadau am diniweidrwydd, codi cyfog arnat ayb) beth am ddarllen y negeseuon gyntaf?

Dili a ddywedodd:Dwi'n fwy na bodlon trafod Teyrnasiad gwaedlyd Stalin – a'i rôl yn nhwf Natsïaeth – ond do'n i ddim yn gwybod mai hwnnw oedd testun ein trafod.


Eh? Ti'n cadw'r hawl i fynd ar ol bob sgwarnog i brofi rhyw urddas mewn polisi tramor "i'm allright jack" ac wedyn yn cwyno am fy ymdrech i ehangu'r drafodaeth? Gyda llaw - rheol newydd i drafodaeth Maes e - os ti'n defnyddio Wikipedia fel sail i dy ddadl yna ti di colli. Ai Wikipedia oedd sylfaen y rwtsh bu i ti gyfrannu am yr hen Iwgoslafia?

Dili a ddywedodd:Mudiad gwirfoddol o unigolion cydwybodol yw Amnest Rhyngwladol, sy'n ymgyrchu'n ddiwahan yn erbyn camdrin ym mhob gwlad, gan gynnwys sawl gwlad nad yw gwledydd Gorllewin yn poeni ryw lawer am hawliau dynol ynddi, gan y byddai'n groes i'w buddiannau nhw i'w gwneud, fel Tsieina a Sawd Arabia. Does dim modd yn y byd cymharu gwaith da Amnest ag anturiaethau penchwiban y neo-cons.


O wir Dili, mae hyn tu hwnt i fod yn syrffedus. Be di'r ddadl fan hyn felly? Pob hawl i fudiad o wirfoddolwyr gael cydwybod ond nid felly gwladwriaethau ar sail pleidlais ddemocrataidd y bobl? Onid oes gan wladwriaethau o dderbyn cefnogaeth etholwyr yr hawl i ddatgan barn a gweithredu ar y farn honno yn enw cydwybod, moesoldeb a hawliau dynol?

Wrth gwrs, efallai dy fod o'r farn fod cadw dy hun yn bur efo ceiniog neu ddwy i leddfu dy gydwybod trwy Amnest tra'n gweiddi'n groch yn erbyn unrhyw wethredu er mwy hawliau dynol yn safbwynt moesol. Cyfoglyd a chyfforddus fyddai fy nigrifiad i o'r fath safbwynt serch hynny.

Dili a ddywedodd:Digon teg, ar ôl tipyn bach mwy o ymchwilio, dwi'n meddwl mod i wedi camddeall yr hanes.


Dwi'n parchu dy onestrwydd fan hyn.

Dili a ddywedodd:O, rwyt ti'n gwadu ymyrraeth Stalin yn Nwyrain Ewrop nawr, wyt ti?


Yn achos Ttio a Iwgoslafia, ydw, ydw ac ydw eto. O ddifrif Dili, ti'n trio gwneud ffwl ohonot dy hun? Ti'n gwybod DIM am Iwgoslafia os ti' awgrymu fod y wlad dan ddylanwad Stalin / Undeb Sofietaidd.

Dili a ddywedodd:Pwy a ŵyr beth oedd yn gyrru Clinton i dindroi am flynyddoedd ac wedyn ymyrryd yn ffordd mwyaf lletchwith posibl.


Am y pwynt cyntaf mae'r ateb yn HOLLOL amlwg. Yr Undeb Ewropeaidd ac arweinyddiaeth Ffrainc a Phrydain ar y mater yn anffodus. O ran Clinton, wel dwi erioed wedi edmygu y dyn ond yn achos Iwgoslafia cymaint oedd gwrthwynebiad yr EU i ymyrraeth fel y bu i'r UDA arfogi Croatia fel sail i newid y sefyllfa. Nid lletwith oedd y canlyniad ond ysgubol gan arwain bron yn syth at wyrdroi y sefyllfa nid yn unig yng Ngroatia ond hefyd yn Bosnia. Dim ond diffyg gwybodaeth LLWYR fyddai wedi dy arwain i ofyn y cwestiwn hwn Dili.

Dili a ddywedodd:A dyna fe'n achub y byd a chadw ei ddwylo'n weddol lân o waed Americanaidd, os nad gwaed Slafiaid diniwed.


O Iesu mawr. Pa rwtsh nesaf o law Dili yr holl anwybodus? Sawl bywyd gollwyd yn Iwgoslafia yn dilyn ymyraeth Clinton a'r UDA a sawl bywyd gollwyd tra'n disgwyl i'r EU setlo'r broblem?

O ddifrif ti'n gwybod DIM, DIM am yr hyn ddigwyddodd yn Iwgoslafia rhwng 1993 - 1999. Ti'n gwybod DIM am fethiant polisi yr EU o beidio ymyrryd a chanlyniadau gwaedlyd y polisi hwnnw. Ti'n gwybod DIM am effaith rhoi lluoedd y CU yn Bosnia HEB yr hawl i ymyrryd (gweler Srebrenicia), a ti'n gwybod DIM am pa mor syml ac allweddol oedd ymyrraeth yr UDA i greu heddwch mewn cwta naw mis.

I chdi, eistedd ar y cryion yn malu cachu am hanes a hen elyniaeth ethnig oedd yr ateb. Y canlyniad oedd llofruddio o leiaf 250,000 o drigolion Bosnia a Croatia. I mi, ymyrraeth allanol mewn materion gwlad arall er budd hawliau dynol oedd yr ateb.

Mae'n ymddangos i mi dy fod yn gweld bywydau y diniwed yn bris gwerth ei dalu cyn belled nad oes angen yr UDA i greu'r amodau am heddwch. Sut yn union mae sinic fel ti'n credu dy fod mewn sefyllfa i gondemnio syniadau'r neo-cons? :rolio:

Rhagrith llwyr.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 1:02 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Ond mae trigolion Sawdi Arabia yn byw o dan Sharia. Mae'r heddlu crefyddol yno yn nodedig o erchyll. Ac mae Condoleeza Rice, ryw fis yn ôl, wedi galw'r wlad yn 'moderate' a 'mainstream'.

O ystyried hyn - a dw i'n amau nad ydi Rice ddim yn mentro allan i ben cangen wrth ddefnyddio'r geiriau yna - anodd gen i weld sut mae dy agwedd hollol ddealladwy at Sharia yn cyd-fynd yn gysurus efo dy ffydd yn awydd gweinyddiaeth bresennol yr UDA i ledu 'gwareiddiad y gorllewin'. Bosibl 'mod i'n colli rhywbeth, wrth gwrs.


Wyt Owain. Trafod neo-conservatism mae'r edefyn hwn bellach. Nid gweinyddiaeth neo-conservative sydd yn yr UDA ar hyn o bryd er fod yna unigolion neo-Conservative o fewn y gyfundrefn.

Yn anffodus mae'r term neo-con wedi cael ei herwgipio gan y Guardian / BBC ayb i olygu unrhyw un sy'n siarad ar ran yr Arlywydd Bush - ond mae hynny'n hollol anghywir. I roi esiampl, dim ond yn diweddar fe gafodd John Bolton (sic) argymhelliad Bush fel cynrychiolydd yr UDA yn y CU ei ddisgrifio gan y BBC fel neo-conservative. Tydi hyn jyst DDIM yn wir. Mae John Bolton yn llawer agosach at feddylfryd hen ffasiwn Dili, Ken Clarke a Douglas Hurd o bolisi tramor. I Bolton yr hyn sy'n bwysig i'r UDA sy'n cyfrif, felly cydweithredu gyda unben sy'n gyfeillgar - OK. Cydweithio gyda gwlad sy'n wrth ddemocrataidd - OK. Cydweithio gyda Saudi - OK. Nid dyma ddadl y neo-cons. Dadl fawr y neo-cons yw fod cefnogi y math yma o gyfundrefnyn anghywir o safbwynt moesol ac yn y tymor hir yn sicr o fod y anghywir o ran buddiannau yr UDA a'r gorllewin.

Yn anffodus lleiafrif yw'r neo-cons hyd yn oed o fewn cyfundrefn Bush.

Jyst un esiampl bach arall. Dwi'm ddigon hen i fod yn 'fan'o Lloyd Cole. Mae ei LP newydd yn son am 'neo-con economic dream'. Difyr iawn, yn enwedig o ystyried mae yn y maes polisi tramor y datblygodd y disgrifiad. Mae neo-con fe ymddengys (gweler diffyg dealltwriaeth Dili) wedi cael ei gyflwyno gan y Guardian / BBC etc fel rhyw fath o surrogate rheg. Tydi hynny ddim yn dweud fod y BBC / Guardian / Dili yn deall y term.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Owain Llwyd » Iau 01 Chw 2007 9:35 am

Cath Ddu a ddywedodd:Wyt Owain. Trafod neo-conservatism mae'r edefyn hwn bellach.


Mi oedd hawliau dynol ac ymyrraeth filwrol gan wladwriaethau yn thema eitha amlwg yn dy ymateb blaenorol i Dili. Ta waeth.

O ran diddordeb, pwy fyset ti'n eu rhestru ymhlith y neogeidwadwyr?

Cath Ddu a ddywedodd:Gyda llaw - rheol newydd i drafodaeth Maes e - os ti'n defnyddio Wikipedia fel sail i dy ddadl yna ti di colli.


Ydi hwnna'n ddatganiad ex cathedra ta oes isio pleidlais ddemocrataidd arno?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dili Minllyn » Iau 01 Chw 2007 10:23 am

Cath Ddu a ddywedodd:O cer i gachu Dili. Pa mor hunan gyfiawn ti'n bwriadu bod yn yr edefyn hwn eh?

Cymaint ag afer. Er hynny, rhaid cydnabod 'fod ti'n gwybod mwy am Iwgoslafia na fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dan Dean » Iau 01 Chw 2007 1:02 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:O lle dwi'n sefyll byddai gwareiddiad y gorllewin yn dra manteisiol mewn amryw o wledydd y byd - ac wedi'r cyfan, onid dyna un o'r prif ddadleuon dros amddiffyn Israel?


:ofn:

I'r rhai sydd wedi bod yn dilyn yr edefyn hon - llaw i fyny pwy sydd wedi pwyntio allan y rhagrith yn y neges uchod.


Be ti'n trio neud Dan, plesio Sioni?

O ddifrif, da chi fel rhyw identicit nashis :rolio:


Pathetic. Ti di troi yn arbenigwr ar rhoi dehongliad chwerthinllyd o fy negeseuon, sydd yn bechod. Dwin meddwl dy fod yn gwybod yn iawn be dwin drio bwyntio allan yn fama, a dio ffyc ol i'w wneud efo Sioni.

Cath Ddu a ddywedodd:Tria wadu parch Israel (er gwaethaf pob cangymeriad) at hawliau dynol.

"Camgymeriad". Os fysa maeswyr di galw erchylltra Castro yn "gamgymeriad" yn hanner gynta yr edefyn hon, meddyliwch ffrothio fysa Cath Ddu. Crist or nef. Sa ti'n galw sefyllfa Gaza ar y funud yn "gamgymeriad" ar ran Israel?

Dyma pam nes i ofyn y cwestiwn yma yn gynnar yn yr edefyn:

Fi amser maith yn ol a ddywedodd:Pam ti'n sgrechian yn erbyn triniaeth Castro o'i wrthwynebwyr ond yn fodlon galw pawb sydd yn erbyn record hawliau dynol Israel yn hiliol? Ti'm yn meddwl bod na elfen o ragrith yn safbwyntia dy hun cyn i chdi wario bob neges yn canolbwyntio ar yr un math o ragrith gan rai o'r chwith?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 2:24 pm

Dan Dean a ddywedodd:Pathetic. Ti di troi yn arbenigwr ar rhoi dehongliad chwerthinllyd o fy negeseuon, sydd yn bechod. Dwin meddwl dy fod yn gwybod yn iawn be dwin drio bwyntio allan yn fama, a dio ffyc ol i'w wneud efo Sioni.


Gallu darllen meddylie rwan hefyd Dan / Sioni? Ta waeth, os am wneud rhyw bwynt yna trio wneud o'n amlwg plis, mae dilyn dy ddadl ddigon anodd pan ti'n ymdrechu i fod yn glir.

Dan a ddywedodd:"Camgymeriad".


Rho'r dyfyniad mewn cyd destun os gweli di'n dda.

Dan a ddywedodd:Os fysa maeswyr di galw erchylltra Castro yn "gamgymeriad" yn hanner gynta yr edefyn hon, meddyliwch ffrothio fysa Cath Ddu. Crist or nef. Sa ti'n galw sefyllfa Gaza ar y funud yn "gamgymeriad" ar ran Israel?


1. Waw, cydnabyddiaeth gan Dan o erchylltera Castro. O'r diwedd. (yn amlwg nid Sioni sydd yma)

2. Gaza - ymddangos fel cangymeriad ymysg Palesteiniaid ar hyn o bryd.

O ran dy 'gwestiwn'; hiliol ydi arddel agweddau at y sefyllfa yn Israel fyddai'n arwain at ddiddymiad y wladwriaeth honno. Ti wedi dod yn beryglus o agos at wneud hynny (o falle ma Sioni oedd hwnnw - who knows, who cares :rolio: ) a dyna pam y bu i mi ddefnyddio'r disgrifiad.

Wrth gwrs, doedd y cyhuddiad ddim yn dy blesio ond mae Dan / Sioni yn mwynhau datgan fod agweddau fi ac eraill yn dangos diffyg parch at fywydau Iraciaid ayb oherwydd eu bod yn Iraciad - onid cyhuddiad o hiliaeth ydi hynny hefyd?

Dan Dean mewn tŷ gwydyr - paid taflu cerrig boi, sori 'met'.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 2:29 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:O cer i gachu Dili. Pa mor hunan gyfiawn ti'n bwriadu bod yn yr edefyn hwn eh?

Cymaint ag afer. Er hynny, rhaid cydnabod 'fod ti'n gwybod mwy am Iwgoslafia na fi.


Falle wir. Ond felly nol at y pwynt Dili, onid yw dy ganu clochydd o agweddau 'High Tory' tuag at bolisi tramor yn llai na moesol?

Onid teg oedd i mi ddadlau fod dy ddisgrifiad o bolisi tramor neo-geidwadol fel estyniad o Imperialaeth / 'self-interest only foreign policy' braidd yn syml (heb son am fod yn anghywir)?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Iau 01 Chw 2007 3:21 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Dan a ddywedodd:Os fysa maeswyr di galw erchylltra Castro yn "gamgymeriad" yn hanner gynta yr edefyn hon, meddyliwch ffrothio fysa Cath Ddu. Crist or nef. Sa ti'n galw sefyllfa Gaza ar y funud yn "gamgymeriad" ar ran Israel?


1. Waw, cydnabyddiaeth gan Dan o erchylltera Castro. O'r diwedd. (yn amlwg nid Sioni sydd yma)

2. Gaza - ymddangos fel cangymeriad ymysg Palesteiniaid ar hyn o bryd.


Dwi wirioneddol ddim yn credu dy fod wedi hyd noed meddwl heb son am deipio'r uchod.

1. Pwy di'r unig un yn yr edefyn hon sydd wedi dyfynnu adroddiad A.R. yn erbyn Castro? Fi(cer i'r ail dudalen i weld). "O'r diwedd" medda chdi 4 tudalen wedyn, "cydnabyddiaeth gan Dan o erchylltera Castro". Diar mi!

2. Ia, "bai'r Palestiniaid ydio". Israel yn ddiniwad, siwr. Dyma engraifft clir o anwybyddiaeth llwyr o erchylltrau hiliol Israel dros y degawdau diwethaf sydd wedi arwain at ffordd y Palestiniaid o fyw yn Gaza. Dyma'r math o beth sydd wedi neud i mi bwyntio allan dy ragrith yn yr edefyn hwn.

Cath Ddu a ddywedodd:O ran dy 'gwestiwn'; hiliol ydi arddel agweddau at y sefyllfa yn Israel fyddai'n arwain at ddiddymiad y wladwriaeth honno. Ti wedi dod yn beryglus o agos at wneud hynny (o falle ma Sioni oedd hwnnw - who knows, who cares :rolio: ) a dyna pam y bu i mi ddefnyddio'r disgrifiad.

Dangosa i mi lle dwi di dod yn beryglus o agos at wneud hynny, neu doro engraifft o fy agwedd.

Ac i helpu ti gofio, nes di defnyddio'r disgrifiad fy mod i'n hilgi am i mi feiddio dweud bod Israel di gwrthod cytundeb heddwch gan yr Aifft yn 1973.

A mae'n ddrwg gen i Cath ond nai atgoffa am yr edefyn da ni yn son amdano. A dydi'r defnydd o'r term hiliol ddim cweit i'w wneud efo ddiddymiad y wladwriaeth Israel yn fana. :lol:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Cath Ddu » Iau 01 Chw 2007 5:08 pm

Dan Dean a ddywedodd:Dwi wirioneddol ddim yn credu dy fod wedi hyd noed meddwl heb son am deipio'r uchod.


Fel y bu i mi nodi mae dy ddadleuon a dy ddyfynu di-ddiwedd yn cymysgu meidrolyn fel fi. Serch hynny, os ti'n condemnio erchyll weithredoedd Castro yna gwych.

(Er dwi'n amheus gan i ti golli'r pwynt yn llwyr pan fu i mi gondemnio fy nhad yng nghyfraith am fynd ar wylie i'r wlad - beth oedd dy gymhariaeth? O, yr UDA wrth gwrs - shwd haf nown :rolio: . O dderbyn fod Castro yn unben sy'n sarthu ei bobl, fel ti'n wneud fe ymddengys (cywir?) onid gweithred debyg i ymweld a De Affrica yn yr '80au ydi rhoi dy ddoleri i gefnogi ei gyfundrefn? Os ti'n methu gweld hynny (a dyna'r achos yn gynnar yn yr edefyn hwn) yna pa syndod i mi gredu dy fod yn amddiffyn Cuba)

Dan a ddywedodd:2. Ia, "bai'r Palestiniaid ydio". Israel yn ddiniwad, siwr. Dyma engraifft clir o anwybyddiaeth llwyr o erchylltrau hiliol Israel dros y degawdau diwethaf sydd wedi arwain at ffordd y Palestiniaid o fyw yn Gaza. Dyma'r math o beth sydd wedi neud i mi bwyntio allan dy ragrith yn yr edefyn hwn.


Pa ragrith Dan bach? Dwi ddim hyd yn oed yn credu i mi ddweud mai 'bai'r Palesteiniaid' oedd o. Onid dweud mae cangymeriad y Palesteiniaid fu i mi? Falle dy fod wedi fy maglu eto :lol: ond os wyt yn fy ngham ddyfynu yna tybed pam? Ta waeth, sut yn union mae Israel ar fai am gyfnod o ladd ei gilydd rhwng Hamas a Fata (sic)? Difyr fydde cael gwybod.

A dyna'r gair hiliol eto, ti'n cymeryd dy bechu am fy mod wedi defnyddio y gair i dy ddisgrifio di (neu Sioni - same difference) ac eto ti'n spoutio'r cachu arferol am hiliaeth Israel. Tipyn o hiliaeth sy'n gweld Palesteiniad o fwslim yn y Cabinet yn Israel - ta waeth plygaf i dy arbenigedd ar y mater hiliol yma :rolio: .

Dan a ddywedodd:Dangosa i mi lle dwi di dod yn beryglus o agos at wneud hynny, neu doro engraifft o fy agwedd.


O yeah? Be yn union ydi agwedd Hamas tuag at Israel a be yn union dy dy agwedd di tuag at Hamas (ta Sioni oedd hwnnw?). Oes 'na wahaniaeth?

Dan a ddywedodd:Ac i helpu ti gofio, nes di defnyddio'r disgrifiad fy mod i'n hilgi am i mi feiddio dweud bod Israel di gwrthod cytundeb heddwch gan yr Aifft yn 1973.


Diolch eto am y fath gyd-destun. Cam ddyfynu, dim cyd-destun. Sa ti'n gwneud gwleidydd Dan bach. O ddifrif, ti a dy identikit brawd, da chi'n cut out caricature o'r socialist workers sy'n digwydd siarad Cymraeg.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Iau 01 Chw 2007 8:17 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Serch hynny, os ti'n condemnio erchyll weithredoedd Castro yna gwych.

Mae'r dystiolaeth fy mod i yn condemnio di bod yn yr edefyn ers mis, a dwin siwr dy fod yn gwybod hynnu'n iawn. (wel, ddylsa chdi beth bynnag)

Cath Ddu a ddywedodd:(Er dwi'n amheus gan i ti golli'r pwynt yn llwyr pan fu i mi gondemnio fy nhad yng nghyfraith am fynd ar wylie i'r wlad - beth oedd dy gymhariaeth? O, yr UDA wrth gwrs - shwd haf nown :rolio: . O dderbyn fod Castro yn unben sy'n sarthu ei bobl, fel ti'n wneud fe ymddengys (cywir?) onid gweithred debyg i ymweld a De Affrica yn yr '80au ydi rhoi dy ddoleri i gefnogi ei gyfundrefn? Os ti'n methu gweld hynny (a dyna'r achos yn gynnar yn yr edefyn hwn) yna pa syndod i mi gredu dy fod yn amddiffyn Cuba)

Mae na fwy o bwrpas i fynd am wylia i rhywle na rhoi doleri i'r wlad hwnnw, Cath. Tydi "mynd ar wylia" ddim llawer o dystiolaeth o "addoli" neu "cefnogi lladd 15000" rheolwr y wlad honno.

Cath Ddu a ddywedodd:Pa ragrith Dan bach? Dwi ddim hyd yn oed yn credu i mi ddweud mai 'bai'r Palesteiniaid' oedd o. Onid dweud mae cangymeriad y Palesteiniaid fu i mi? Falle dy fod wedi fy maglu eto :lol: ond os wyt yn fy ngham ddyfynu yna tybed pam? Ta waeth, sut yn union mae Israel ar fai am gyfnod o ladd ei gilydd rhwng Hamas a Fata (sic)? Difyr fydde cael gwybod.


Os fuaswn i yn gwneud camgymeriad, y ffordd gora o dderbyn hynnu fysa dweud fy mai i ydio.

"sut yn union mae Israel ar fai am gyfnod o ladd ei gilydd rhwng Hamas a Fata?" Lle yn union es i rhoi'r bai ar Israel am hynnu? A doedd sefyllfa Gaza cyn Hamas a Fatah gwffio yn erbyn eu gilydd ddim llawer gwaeth, felly dydi ddim yn gwneud llawer o synnwyr rhoi rhan fwyaf o'r bai arnyn nhw.

A dyna'r gair hiliol eto, ti'n cymeryd dy bechu am fy mod wedi defnyddio y gair i dy ddisgrifio di (neu Sioni - same difference) ac eto ti'n spoutio'r cachu arferol am hiliaeth Israel. Tipyn o hiliaeth sy'n gweld Palesteiniad o fwslim yn y Cabinet yn Israel - ta waeth plygaf i dy arbenigedd ar y mater hiliol yma :rolio: .

Wyt ti yn trio deud wrthaf i bod na ddim byd hiliol yn y ffordd mae Israel di trin y Palestiniaid ers bodolaeth y wlad?

Mae na fwslim yn y cabinet. Ac? Mae na un yn y BNP hefyd. Oedd dirprwy Saddam yn gristion. Faint o wahaniaeth mae hyn yn ei wneud?

Cath Ddu a ddywedodd:
Dan a ddywedodd:Dangosa i mi lle dwi di dod yn beryglus o agos at wneud hynny, neu doro engraifft o fy agwedd.


O yeah? Be yn union ydi agwedd Hamas tuag at Israel a be yn union dy dy agwedd di tuag at Hamas (ta Sioni oedd hwnnw?). Oes 'na wahaniaeth?

Fedrai deallt yn iawn y ffactorau tu ol i pam bod Hamas yn bodoli(sydd efo lot i'w wneud efo triniaeth y Palestiniaid gan Israel yn y lle cynta) ond yn llwyr yn erbyn rhai o'r ffyrdd maent yn brwydro.

Cath Ddu a ddywedodd:
Dan a ddywedodd:Ac i helpu ti gofio, nes di defnyddio'r disgrifiad fy mod i'n hilgi am i mi feiddio dweud bod Israel di gwrthod cytundeb heddwch gan yr Aifft yn 1973.


Diolch eto am y fath gyd-destun. Cam ddyfynu, dim cyd-destun. Sa ti'n gwneud gwleidydd Dan bach. O ddifrif, ti a dy identikit brawd, da chi'n cut out caricature o'r socialist workers sy'n digwydd siarad Cymraeg.


Cam ddyfynu? "Llyncu'r cyfan dwyt - hilgi" medda chdi wrtha i yn yr edefyn dwi di ddangos. Ti hefyd yn cyhuddo nifer arall o wrth-semetiaeth.

A dwnim be i wneud efo dy agwedd hollol blentynaidd ataf o son am fy mrawd ymhob neges er bod ganddo dim byd i'w wneud efo'r trafodaeth yma (tebyg i pan ti'n dod a termau hollol amherthnasol fel "pilger", "guardian" neu "hitler" i fyny). Typical.

Cath Ddu a ddywedodd:Pa ragrith Dan bach?

Y ffaith dy fod wedi gwario hanner yr edefyn yn cega ar unrhyw un sydd ti weld yn Castro apologist(a mae mynd i Ciwba am wylia neu gynhadledd digon da i fod yn un i chdi), ond ar y llaw arall ti i weld yn Israeli apologist llwyr, gan ddefnyddio'r geiriau hyd "hiliol" a "gwrth-semetiaeth" yn erbyn unrhyw un sydd yn erbyn ymddygiad Israel.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron