Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 30 Rhag 2006 11:36 am

Wel be mae pawb yn meddwl ?

Hwyrach rwyf yn bersonol yn erbyn cosbi trwy marwolaeth. Ond i ddeud y gwir,pan welais y rhaff yn cael ei glymu o wmpas ei wddf ac yn meddwl am filoedd o bobl roedd wedi cael ei lladd, teimlaf hwyrach bod yr ymosodiad gan Prydain ac UDA yn syniad da yn pendraw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhods » Sad 30 Rhag 2006 11:47 am

Yn wreiddiol roeddwn o blaid y rhyfel oherwydd y busnes 'weapons of mass destruction' OND ar ol sylwi mai celwydd noeth odd hyn gan Blair a Bush - sylweddolaf mai camgymeriad enfawr odd y rhyfel. Er ni - yr unig beth da sy di dod mas o fe yw bod y bastard Hussein yna di cael ei grogi heddiw. :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Y Celt Cymraeg » Sad 30 Rhag 2006 11:58 am

Bechod nath o ddim diodda cymaint a rheina nath o a'i drefn llofryddio a phoenydio dros y blynyddoedd, ond oleia mae o pellach di cael i haeddiant.
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 30 Rhag 2006 12:03 pm

Barbaraidd a ffiaidd. Dangos nad oes unrhywbeth wedi newid yn Irac ers cyfnod Saddam yn rheoli. Mae'r sefyllfa yr un mor afiach heddiw yn Irac ac yr oedd hi yng nghyfnod Saddam. Mae trais yn hybu trais, bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn Irac a'r rhwygiadau yn mynd yn fwy.

Mae gweld pobl yn y Gorllewin yn ymfalchio yn ei farwolaeth hefyd yn afiach.

Byddai cynnal achos teg yn rhyngwladol, a rhoi dedfryd o garchar am oes wedi bod yn ddedfryd symbolaidd llawer cryfach i ddangos fod Irac yn newid, a bod rhaid i'r trais ddod i ben. Dial gan y buddugwyr yn unig oedd yr achos yma.

Roedd Saddam yn ddyn afiach, ac roedd ei reolaeth yn Irac yn afiach, ond mae'n ymddangos fod y sefyllfa yno wedi gwaethygu i bobl Irac ers y rhyfel.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Y Celt Cymraeg » Sad 30 Rhag 2006 12:23 pm

[quote="Dial gan y buddugwyr yn unig oedd yr achos yma." quote]



Cyfiawnder 'sa rai yn ei alw fo...
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan huwcyn1982 » Sad 30 Rhag 2006 12:54 pm

Am ddau ddegawd a hanner mi oedd grwpiau megis amnest rhyngwladol, human rights watch ac eraill yn galw am Saddam Hussein i gael ei gosbi am droseddau hawliau dynol, tra roedd Prydain, America ac eraill yn cefnogi'r dyn yn ariannol ac yn filwrol.

Tra roedd Saddam mewn pŵer, roedd miloedd ar filoedd yn cael achos llys diffygiol, ac yn cael ei lladd gan y wladwriaeth.

Trwy gefnogi'r achos llys hwn yn Iraq, mae Prydain a gwledydd eraill y glymblaid wedi dangos diystyried llwyr am gyfraith ryngwladol a chonfensiynau Genefa, ac wedi ymddwyn mewn modd buasai Saddam ei hun wedi bod yn gefnogol ohoni os nad ef oedd ar brawf.

Does byth esgus am ddefnyddio'r gosb eithaf.

Mi ddylai fod Saddam wedi cael achos llys o flaen llys rhyngwladol, ac aros yn y carchar am weddill ei oes.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sad 30 Rhag 2006 1:14 pm

Dwi'n dueddol i gytuno gyda Hedd a Huwcyn1982. Pa well yda ni na Saddam ei hun wrth ddefnyddio'r un dulliau ag ef fel cosb? Yn bersonol dwi'n credu y buasai wedi bod yn well iddo dreulio gweddill ei oes yn y carchar gan ddioddef yno, mewn ffordd mae Saddam wedi cael 'get away' drwy gael marwolaeth cyflym.

Sut fedra ni gefnogi'r gosb eithaf os oeddem ni yn erbyn ffordd o weithredu Saddam? Yr oll mae hyn yn ddangos ydy fod dim wedi newid yn Iraq yn ffordd mae nhw'n gweithredu ers i Saddam golli ei bwerau.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 30 Rhag 2006 1:25 pm

Tueddol ydw i i gytuno efo Hedd a Huwcyn. Waeth pa mor ffiaidd o ddyn oedd Saddam mae'n ragrithiol hynod bod pobl sy'n erbyn y gosb eithaf yn cefnogi hyn (fel Tony annwyl...)

Ond mae rhywbeth dyfnach iawn yma. Rhoddwyd y gosb eithaf iddo am lofruddio 183 o Gwrdiaid nol yn yr 80au (pryd y cefnogem ef), heb fentro son am unrhyw droseddau eraill a wnaed. Os felly, oni ddylai Blair a Bush cael y gosb eithaf hefyd wedi i filoedd ar filoedd ar filoedd o bobl farw yn Irac dros y blynyddoedd ddiwethaf (bosib mwy na ddaru Saddam ladd dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy)?

Ac mae'n gwneud yr holl son am y WMDs edrych yn ffwy ffals a gwag nac erioed.
'Sgwn i sut oedd Bush Snr a Magi yn teimlo am hyn; hwythau'n gefnogol i'w deyrnasaeth o Irac yn yr 80au, a Magi mor drist o weld Pinochet yn marw ychydig nol?

Y mwy dw i'n meddwl am y peth y salaf dw i'n deimlo: er nad ydw i o gwbl yn anhapus gweld cefn ar Saddam.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Sili » Sad 30 Rhag 2006 1:32 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Barbaraidd a ffiaidd. Dangos nad oes unrhywbeth wedi newid yn Irac ers cyfnod Saddam yn rheoli. Mae'r sefyllfa yr un mor afiach heddiw yn Irac ac yr oedd hi yng nghyfnod Saddam. Mae trais yn hybu trais, bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn Irac a'r rhwygiadau yn mynd yn fwy.

Mae gweld pobl yn y Gorllewin yn ymfalchio yn ei farwolaeth hefyd yn afiach.


Wedi taro'r hoelen ar ei phen.

Yn anffodus, dwi'm yn meddwl y byddai'r opsiwn o'i gadw mewn carchar hyd ei oes yn ymarferol gan na fyddai pobl Irac wedi goddef hyn. Ond yn bersonnol mae'r busnas "llygaid am lygaid" ma'n hollol afiach.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Mabon.Llyr » Sad 30 Rhag 2006 2:40 pm

Sili a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Barbaraidd a ffiaidd. Dangos nad oes unrhywbeth wedi newid yn Irac ers cyfnod Saddam yn rheoli. Mae'r sefyllfa yr un mor afiach heddiw yn Irac ac yr oedd hi yng nghyfnod Saddam. Mae trais yn hybu trais, bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn Irac a'r rhwygiadau yn mynd yn fwy.

Mae gweld pobl yn y Gorllewin yn ymfalchio yn ei farwolaeth hefyd yn afiach.


Wedi taro'r hoelen ar ei phen.

Yn anffodus, dwi'm yn meddwl y byddai'r opsiwn o'i gadw mewn carchar hyd ei oes yn ymarferol gan na fyddai pobl Irac wedi goddef hyn. Ond yn bersonnol mae'r busnas "llygaid am lygaid" ma'n hollol afiach.

Dyma'n union syt dwin teimlo. Ond fel dwedodd Sili, fyddai pobl Irac yn fwy anhapus byth pe bai heb ei ladd. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron