ti'n rhoi nhw mewn i chwarae cardiau a playstation.
Yn amlwg ti heb fynd i garchar unwaith, gwyliau dydy hi ddim o gwbwl. Does gen ti ddim breifatrwydd, does gen ti ddim gyfrifiadur a rhyngrwyd, ti'n byw yn sefyllfa peryglus 'da phobl peryglus, a dwi'm yn mynd i ddechrau siarad am drais. Dwi wedi bod yng ngharchar Canadaidd (fel twrist wrth gwrs!) a gwnes i ddim hoffi be gwelais i ynddi! Dim ond cardiau a playstation...waw, maen nhw'n dymuno!
Am ryw reswm ti ddim yn cytuno gyda cosbi.
Ym...sut wyt ti'n gallu dweud i mi nad oes gen i unrhyw syniad o gosbi jest oherwydd mod i'n erbyn cosb eithaf? Dwi'n credu mewn cosbi, ti'n gallu bod yn sicr (a fel dwi newydd egluro i ti, cosbi ydy sbel yng ngharchar). Ond dwi'n cyntuno 'da maddau hefyd, mewn achosion cymharol. Pan roedd Iesu'n darfod ar y groes, maddeuodd o'i ddienyddwyr, er enghraifft. Mae Duw yn dweud na ddylen ni ddala cenfigennau yn erbyn pobl. Ti wedi anghofio hwn dwedwn i.
Wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid ei feddwl ynglyn a'i ddigofaint yn erbyn llofruddio? Pam?
Dwi wedi rhoi i ti'r rheswm. Does dim barnwyr effeithiol heddiw, roedd gan y bobl Moses yn y cyd-destun hyn.
Lle mae dy sylfaen Beiblaidd am hyn?
Mae o'n dweud "Hebrew" (yn gymharol) amryw adegau yn ystod be mae o'n dweud, ac yn bwysig, ar y dudalen lle mae o'n siarad am gosb eithaf. Ac hefyd, dyma rhywbeth ddiddorol: "Thou shalt not...curse the ruler of thy people." Yn y cyd-destun hwn dan ni'n gallu tybio ei fod o'n siarad am Moses. Dylet ti edrych ar y bwyntiau hwn hefyd:
"Also thou shalt not oppress a stranger: for ye know the heart of a stranger, seeing ye were strangers in the land of Egypt."
Cyd-destunol.
"And six years thou shalt sow thy land, and shalt gather in the fruits thereof:"
Cyd-destunol.
"For mine Angel shall go before thee, and bring thee in unto the Amorites, and the Hittites, and the Perizzites, and the Canaanites, the Hivites, and the Jebusites: and I will cut them off."
Cyd-destunol, eto.
Felly ar ôl be dwi'n gweld yma, mae rhannau o'r gyfraith, wedyn y gorchmynion eu-hun, cyd-destunol i'r bobl Hebreaidd dan Moses.