Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 25 Ion 2008 3:17 am

ti'n rhoi nhw mewn i chwarae cardiau a playstation.

Yn amlwg ti heb fynd i garchar unwaith, gwyliau dydy hi ddim o gwbwl. Does gen ti ddim breifatrwydd, does gen ti ddim gyfrifiadur a rhyngrwyd, ti'n byw yn sefyllfa peryglus 'da phobl peryglus, a dwi'm yn mynd i ddechrau siarad am drais. Dwi wedi bod yng ngharchar Canadaidd (fel twrist wrth gwrs!) a gwnes i ddim hoffi be gwelais i ynddi! Dim ond cardiau a playstation...waw, maen nhw'n dymuno!

Am ryw reswm ti ddim yn cytuno gyda cosbi.

Ym...sut wyt ti'n gallu dweud i mi nad oes gen i unrhyw syniad o gosbi jest oherwydd mod i'n erbyn cosb eithaf? Dwi'n credu mewn cosbi, ti'n gallu bod yn sicr (a fel dwi newydd egluro i ti, cosbi ydy sbel yng ngharchar). Ond dwi'n cyntuno 'da maddau hefyd, mewn achosion cymharol. Pan roedd Iesu'n darfod ar y groes, maddeuodd o'i ddienyddwyr, er enghraifft. Mae Duw yn dweud na ddylen ni ddala cenfigennau yn erbyn pobl. Ti wedi anghofio hwn dwedwn i.

Wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid ei feddwl ynglyn a'i ddigofaint yn erbyn llofruddio? Pam?

Dwi wedi rhoi i ti'r rheswm. Does dim barnwyr effeithiol heddiw, roedd gan y bobl Moses yn y cyd-destun hyn.

Lle mae dy sylfaen Beiblaidd am hyn?

Mae o'n dweud "Hebrew" (yn gymharol) amryw adegau yn ystod be mae o'n dweud, ac yn bwysig, ar y dudalen lle mae o'n siarad am gosb eithaf. Ac hefyd, dyma rhywbeth ddiddorol: "Thou shalt not...curse the ruler of thy people." Yn y cyd-destun hwn dan ni'n gallu tybio ei fod o'n siarad am Moses. Dylet ti edrych ar y bwyntiau hwn hefyd:

"Also thou shalt not oppress a stranger: for ye know the heart of a stranger, seeing ye were strangers in the land of Egypt."
Cyd-destunol.

"And six years thou shalt sow thy land, and shalt gather in the fruits thereof:"
Cyd-destunol.

"For mine Angel shall go before thee, and bring thee in unto the Amorites, and the Hittites, and the Perizzites, and the Canaanites, the Hivites, and the Jebusites: and I will cut them off."
Cyd-destunol, eto.

Felly ar ôl be dwi'n gweld yma, mae rhannau o'r gyfraith, wedyn y gorchmynion eu-hun, cyd-destunol i'r bobl Hebreaidd dan Moses.
Golygwyd diwethaf gan Gwenci Ddrwg ar Gwe 25 Ion 2008 3:28 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:18 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Nid ydw i'n cefnu ar yr Hen Destament ond mae'n rhaid i ti ei ddarllen yng nghyd-destun a law yn llaw a'r Testament Newydd. I fyny at farwolaeth Iesu ar y groes roedd gan Dduw gyfamod arbennig a chenedl Israel, roedd felly yn medru delio gyda eu pechodau mewn modd cyfundrefnol fel cenedl ac uned ynddo ef ei hun.


Beth sy'n gwneud i ti feddwl fod Duw gyda syniadau/safonau gwahanol i genhdeloedd eraill?

Nid oes modd i ti gymharu cenhedloedd heddiw gyda chenedl Irsael yr hen destament oherwydd nid yw Duw wedi ethol unrhyw genedl neulltiedig heddiw - delio gyda eneidiau dynion a merched unigol y mae Duw heddiw ac trwy ei ragluniaeth mae nhw yn ymffurfio yn genhedloedd ydyn, ond nid yw Duw yn dosbarthu barn a gras ar lefel y genedl mae yn ddosbarthu ar
sail unigolyddol i bob Iddew a chenedl ddyn.


sut felly, beth sy'n gwneud i ti feddwl fod Duw gyda syniadau/safonau gwahanol i genhdeloedd eraill? Pam fyddai Duw yn boddran pobl fyw un ffordd os na fuasai eisiau'r holl genhedloedd fyw felna.

Wrth gwrs fod Duw yn deisyfu i bob cenedl heddiw fyw yn ol ei ddeddfau a'i foesau ond maen gwireddu hynny drwy i bobl yn y cenhedloedd yna ddod i ffydd yng Nghrist, wedi hynny bydd y bobl yna yn cael eu 'trawsffurfio' (Rhuf 12:2) ac y mwya o Gymry bydd wedu eu 'trawsffurfio' y mwya "Cristnogol" fydd y Genedl. Maen digwydd bottom up yn ein dyddia post-Croesholiad ni nid top down fel yn nyddiau pre-Croesholiaid y genedl etholedig yn yr Hen Destament. Maen rhaid i ti ddeall hyn rooney, o ddeall hyn dwi'n tybied y bydd dy "genhadaeth" ysbrydol di ar ei hennill o lawer.


Rhys, nid wyt wedi rhoi cyfiawnhad Beiblaidd i mi o pam fod dienyddio llofruddwyr yn anfoesol bellach.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 3:24 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Yn amlwg ti heb fynd i garchar unwaith, gwyliau dydy hi ddim o gwbwl. Does gen ti ddim breifatrwydd, does gen ti ddim gyfrifiadur a rhyngrwyd, ti'n byw yn sefyllfa peryglus 'da phobl peryglus, a dwi'm yn mynd i ddechrau siarad am drais. Dwi wedi bod yng ngharchar Canadaidd (fel twrist wrth gwrs!) a gwnes i ddim hoffi be gwelais i ynddi! Dim ond cardiau a playstation...waw, maen nhw'n dymuno!


does dim cyfiawnder

Ym...sut wyt ti'n gallu dweud i mi nad oes gen i unrhyw syniad o gosbi jest oherwydd mod i'n erbyn cosb eithaf? Dwi'n credu mewn cosbi, ti'n gallu bod yn sicr (a fel dwi newydd egluro i ti, cosbi ydy sbel yng ngharchar). Ond dwi'n cyntuno 'da maddau hefyd, mewn achosion cymharol. Pan roedd Iesu'n darfod ar y groes, maddeuodd o'i ddienyddwyr, er enghraifft. Mae Duw yn dweud na ddylen ni ddala cenfigennau yn erbyn pobl. Ti wedi anghofio hwn dwedwn i.


yr wyt yn cymysgu cyfraith a threfn a ffordd i fyhafio mewn cymdeithas sifil, ac yn anghytuno gyda cyfraith Duw ynglyn a'r gosb i lofruddwyr

Mae o'n dweud "Hebrew" (yn gymharol) amryw adegau yn ystod be mae o'n dweud, ac yn bwysig, ar y dudalen lle mae o'n siarad am gosb eithaf. Ac hefyd, dyma rhywbeth ddiddorol: "Thou shalt not...curse the ruler of thy people." Yn y cyd-destun hwn dan ni'n gallu tybio ei fod o'n siarad am Moses. Dylet ti edrych ar y bwyntiau hwn hefyd:

Cyd-destunol, eto.

Felly ar ôl be dwi'n gweld yma, mae rhannau o'r gyfraith, wedyn y gorchmynion eu-hun, cyd-destunol i'r bobl Hebreaidd dan Moses.


ond mae'r ddeddf yn dweud wrthym deimladau Duw am bechodau, a pa mor ddifrifol mae Duw yn gweld pechodau. Piti fod cymaint o "Gristnogion" yn anwybyddu'r Hen Detament, wnaeth Iesu ddim felly pam chi'n anwybyddu? Yr Hen Destament sy'n rhoi'r cefndir i'r newydd. Os chi'n trio deall y newydd heb yr Hen Destament yna newch chi byth ei ddeall, waeth i chi ddilyn unrhyw athro arall da ddim, yn hyn o beth mae gen yr anffyddwyr bwynt.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 25 Ion 2008 3:44 am

ond mae'r ddeddf yn dweud wrthym deimladau Duw am bechodau, a pa mor ddifrifol mae Duw yn gweld pechodau.

Ia mae hynny'n arddangos ei deimladau, lle dwi'n anghytuno yna? Ond sut-bynnag mae'r cosbau eu-hun yn cyd-destunol, fel dwi newydd arddangos gan roi i ti dystiolaeth rhesymegol wyt ti heb wrthwynebu yn effeithiol.

Dwi'm i'n anwybyddu'r Hen Destament o gwbwl, ond dwi'n gallu gweld y cyd-destun ynddi trwy darllen rhannau arall yn ofalus, a dwi'm yn cymryd yr un casgliad 'na ti oddi.

does dim cyfiawnder

Pa math o ateb di hwn? Dylet ti egluro pam.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Muralitharan » Gwe 25 Ion 2008 12:14 pm

Mae Rooney yn hoff iawn o son am 'gyfiawnder' fel y mae o'n deall/dehongli'r gair hwnnw, yn bennaf ar sail ei ddarlleniad o o rannau o'r Hen Destament. Prin iawn iawn iawn yw ei gyfeiriadau at Efengyl Tangnefedd, ac at y syniad gwaelodol hwnnw oedd yn sail i holl dystiolaeth Iesu Grist, sef maddeuant. A tydi o byth, hyd y gwela i, yn cyfeirio at gariad!Efallai nad oes lle i syniadau peryglus fel y rhain yn ei gredo bersonol ef. Am ryw reswm pan y bydda i'n darllen cyfraniadau Rooney alla i ddim peidio a meddwl ei fod o'n gweiddi arnon ni ...
Alla i ddim deall sut y mae rhywun sy'n ei alw ei hun yn Gristion yn cael cymaint o bleser o weld pobl (ddrwg neu beidio) yn cael eu lladd - yn enw 'cyfiawnder'.
Mae edefyn arall yn trafod pam fod y capeli yn colli'r bobl ifanc. Tybed ...?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 4:10 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:
does dim cyfiawnder

Pa math o ateb di hwn? Dylet ti egluro pam.


"Llygad am lygad, dant am ddant"
Dyma'r sylfaen ar gyfer system gyfiawnder. Mae hyd yn oed gwleidyddion modern yn defnyddio'r slogan "punishment needs to fit the crime". Pan nad oes cydbwysedd yna does gen ti ddim cyfiawnder.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Muralitharan » Gwe 25 Ion 2008 4:45 pm

Gan dy fod yn mwynhau hyn gymaint, Rooney, dwi'n cymryd felly y byddet ti'n fodlon chwarae rhan y dienyddiwr ...?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Gwe 25 Ion 2008 5:57 pm

Muralitharan a ddywedodd:Alla i ddim deall sut y mae rhywun sy'n ei alw ei hun yn Gristion yn cael cymaint o bleser o weld pobl (ddrwg neu beidio) yn cael eu lladd - yn enw 'cyfiawnder'.


Pleser? Does dim pleser.

Ezekiel 33:10-11
Therefore you, O son of man, say to the house of Israel: "Thus you say, 'If our transgressions and our sins lie upon us, and we pine away in them, how can we then live?'" "Say to them, 'As I live,' says the Lord God, 'I have no pleasure in the death of the wicked, but that the wicked turn from his way and live. Turn, turn from your evil ways! For why should you die, O house of Israel?'"
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Re:

Postiogan Nanog » Gwe 25 Ion 2008 10:26 pm

rooney a ddywedodd:
beth ni fod gwneud gyda llofruddiwr fel Saddam, ei yrru ar gwrs?


Roeddwn i'n meddwl mwy fel Gwobr Nobel am gadw heddwch. Ers iddo golli grym, mae cannoedd o filoedd wedi eu lladd. Yn llywodraeth Saddam roedd pobl o wahanol credoau ee roedd ei ddirprwy (sy'n dal mewn carchar) Tariq Aziz dwi'n meddwl, yn Gristion. Roedd merched yn gallu mynd mas i weithio heb gorchuddio pob rhan o'r corff. Roedd ysbytai yn Iraq gyda'r gorau. Prif-ysgolion da a amgueddfeydd ardderchog. Mae hyn i gyd wedi newid nawr wrth gwrs. Pryd wneith pobl sylweddoli taw nid gwlad gorllewinol yw Iraq. Mae na wahanol rheolau. Pobl yn ciwio mewn llinell bron i farw dros eu credo. Do, mi wnaeth e hyn mewn modd llaw-drwm ar brydie, ond beth fyddech chi'n diwgwyl iddo wneud.....cael rhyw fath o 'big conversation'? Mae hi mor annodd i chi bobl gyfaddef fod y dyn yn un dewr, urddasol ac wedi cadw ei wlad gyda'i gilydd yng ngwyneb pob math o anhawsterau. Dyma beth oedd Saddam wedi osgoi. Mi roedd ei funude olaf yn rhai......sut allwch eu disgrifio? Dim deigryn, jysd cryfder a dewrder yn ngwyneb y rhai oedd yn ei watwar. Tybed a fyddai Bush a Bliar wedi gwneud felly. Falle cawn ni weld 'to. Mae nhw wedi gosod rhyw fath o gynsail.

Mi ail ategaf fy ngeiriau blaenorol.....Heddwch i'w lwch.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 26 Ion 2008 12:35 am

'I have no pleasure in the death of the wicked, but that the wicked turn from his way and live. Turn, turn from your evil ways!

Ond ti eisiau lladd pobl cyn roi iddynt siawns o newid eu gweithgaredd. Ti'n saethu dy-hun yn y corfan *paw*, mae hwn yn lladd dy ddadl yn hollol. :ofn: Dwi wedi clywed am llofruddwyr sy wedi troi at Duw wedyn sbel yng Ngharchar, tason nhw wedi cael ei lladd basen nhw heb drio o gwbwl (hwn ydy marn Duw hefyd, ar ol be wyt ti newydd rhoi fel enghraifft).
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron