Rooney, dwyt ti ddim yn mynd i ennill y ddadl hefo fi trwy ddyfynnu adnodau mewn Saesneg!!!
Ateb y cwestiwn - am unwaith - a fyddet ti'n fodlon lladd y bobl hyn dy hun, neu a wyt ti'n mynnu dirprwyo'r gwaith i rywun arall?
Cymedrolwr: Chwadan
Nanog a ddywedodd:rooney a ddywedodd:
beth ni fod gwneud gyda llofruddiwr fel Saddam, ei yrru ar gwrs?
Roeddwn i'n meddwl mwy fel Gwobr Nobel am gadw heddwch. Ers iddo golli grym, mae cannoedd o filoedd wedi eu lladd. Yn llywodraeth Saddam roedd pobl o wahanol credoau ee roedd ei ddirprwy (sy'n dal mewn carchar) Tariq Aziz dwi'n meddwl, yn Gristion. Roedd merched yn gallu mynd mas i weithio heb gorchuddio pob rhan o'r corff. Roedd ysbytai yn Iraq gyda'r gorau. Prif-ysgolion da a amgueddfeydd ardderchog. Mae hyn i gyd wedi newid nawr wrth gwrs. Pryd wneith pobl sylweddoli taw nid gwlad gorllewinol yw Iraq. Mae na wahanol rheolau. Pobl yn ciwio mewn llinell bron i farw dros eu credo. Do, mi wnaeth e hyn mewn modd llaw-drwm ar brydie, ond beth fyddech chi'n diwgwyl iddo wneud.....cael rhyw fath o 'big conversation'? Mae hi mor annodd i chi bobl gyfaddef fod y dyn yn un dewr, urddasol ac wedi cadw ei wlad gyda'i gilydd yng ngwyneb pob math o anhawsterau. Dyma beth oedd Saddam wedi osgoi. Mi roedd ei funude olaf yn rhai......sut allwch eu disgrifio? Dim deigryn, jysd cryfder a dewrder yn ngwyneb y rhai oedd yn ei watwar. Tybed a fyddai Bush a Bliar wedi gwneud felly. Falle cawn ni weld 'to. Mae nhw wedi gosod rhyw fath o gynsail.
Mi ail ategaf fy ngeiriau blaenorol.....Heddwch i'w lwch.
Muralitharan a ddywedodd:Mae'n amlwg nad yw Rooney am ateb fy nghwestiwn. Siomedig.
Muralitharan a ddywedodd:Trist iawn Rooney.
Gan dy fod yn credu mai peth cyfiawn yw lladd pobl, mae'n dilyn felly nad oes ots gen ti sut yr eir ati i wneud hynny. ...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai