gan huwcyn1982 » Sad 30 Rhag 2006 12:54 pm
Am ddau ddegawd a hanner mi oedd grwpiau megis amnest rhyngwladol, human rights watch ac eraill yn galw am Saddam Hussein i gael ei gosbi am droseddau hawliau dynol, tra roedd Prydain, America ac eraill yn cefnogi'r dyn yn ariannol ac yn filwrol.
Tra roedd Saddam mewn pŵer, roedd miloedd ar filoedd yn cael achos llys diffygiol, ac yn cael ei lladd gan y wladwriaeth.
Trwy gefnogi'r achos llys hwn yn Iraq, mae Prydain a gwledydd eraill y glymblaid wedi dangos diystyried llwyr am gyfraith ryngwladol a chonfensiynau Genefa, ac wedi ymddwyn mewn modd buasai Saddam ei hun wedi bod yn gefnogol ohoni os nad ef oedd ar brawf.
Does byth esgus am ddefnyddio'r gosb eithaf.
Mi ddylai fod Saddam wedi cael achos llys o flaen llys rhyngwladol, ac aros yn y carchar am weddill ei oes.