Lledu democratiaeth

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sul 07 Ion 2007 12:41 pm

Nôd y neo-cons oedd i wneud eu wlad nhw yn fwy cyfoethog byth tra fecso dim byd am y weddill. Ond, am y rhai galle nhw wneud rhyw fath o arian mas o, yn enwedig y dwyrain canol.
Swno'n naif falle? Ond na fel fi'n gwir yn gwel y sefyllfa.

Wele bois hyn, sy'n swno'n reit neis- y Prosiect am y Canrif Newydd Americanaidd.

Yn ddiweddar, mae nhw wedi golli lot fawr o'i pwer a yn ol sôn (ar ol yr etholiade a' Irac yn troi'n cawlach wrth gwrs).
Erthygl diddorol fan hyn, diolch i'r Beeb.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Dylan » Maw 09 Ion 2007 8:21 pm

Mae'r bobl ar flaen y gâd ac sy'n gwneud arian o'r sefyllfa yn foch. Fy mhwynt ydi eu bod wedi gallu twyllo llawer o'u cefnogwyr; mae llawer o'r rheiny wir yn credu fel ag y maent am resymau didwyll. 'Dw i dal yn anghytuno'n chwyrn â nhw os ydyn nhw'n credu bod rhyfel yn fodd o gyflawni hynny wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Mer 10 Ion 2007 2:51 am

Wel mae eu cefnogwyr yn ffyliaid felly tydyn.

Mwy o dystiolaeth o ledu democratiaeth wrth oresgyn Irac. Ma'n syndod ei fod wedi cymryd cyn hired.
How the West will make a killing on Iraqi oil riches
by Danny Fortson
and Andrew Murray-Watson and Tim Webb
January 09, 2007

The Independent


Iraq's massive oil reserves, the third-largest in the world, are about to be thrown open for large-scale exploitation by Western oil companies under a controversial law which is expected to come before the Iraqi parliament within days.

The US government has been involved in drawing up the law, a draft of which has been seen by The Independent on Sunday. It would give big oil companies such as BP, Shell and Exxon 30-year contracts to extract Iraqi crude and allow the first large-scale operation of foreign oil interests in the country since the industry was nationalised in 1972.

The huge potential prizes for Western firms will give ammunition to critics who say the Iraq war was fought for oil. They point to statements such as one from Vice-President Dick Cheney, who said in 1999, while he was still chief executive of the oil services company Halliburton, that the world would need an additional 50 million barrels of oil a day by 2010. "So where is the oil going to come from?... The Middle East, with two-thirds of the world's oil and the lowest cost, is still where the prize ultimately lies,"
he said.

Opponents say Iraq, where oil accounts for 95 per cent of the economy, is being forced to surrender an unacceptable degree of sovereignty.

Proposing the parliamentary motion for war in 2003, Tony Blair denied the "false claim" that "we want to seize" Iraq's oil revenues. He said the money should be put into a trust fund, run by the UN, for the Iraqis, but the idea came to nothing. The same year Colin Powell, then Secretary of State, said: "It cost a great deal of money to prosecute this war. But the oil of the Iraqi people belongs to the Iraqi people; it is their wealth, it will be used for their benefit. So we did not do it for oil."
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 12 Ion 2007 1:09 am

Chwanag o berlau neogeidwadol - y tro yma, gan John Podhoretz.

John Podhoretz a ddywedodd:What if liberal democracies have now evolved to a point where they can no longer wage war effectively because they have achieved a level of humanitarian concern for others that dwarfs any really cold-eyed pursuit of their own national interests?


John Podhoretz a ddywedodd:What if the universalist idea of liberal democracy - the idea that all people are created equal - has sunk in so deeply that we no longer assign special value to the lives and interests of our own people as opposed to those in other countries?


John Podhoretz a ddywedodd:What if the tactical mistake we made in Iraq was that we didn’t kill enough Sunnis in the early going to intimidate them and make them so afraid of us they would go along with anything? Wasn’t the survival of Sunni men between the ages of 15 and 35 the reason there was an insurgency and the basic cause of the sectarian violence now?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Garnet Bowen » Llun 22 Ion 2007 1:29 pm

Mae'r term 'Neo-Geidwadwr' yn un sydd wedi esblygu dros amser - tydi neo-geidwadwr ym 1930, neu 1960, ddim yr un fath a neo-geidwadr heddiw. Hyd yn oed wedyn, mae 'na lawer o ddadlau ynghylch beth yn union ydi neo-geidwadwr heddiw. Ar un llaw, mae Christopher Hitchens yn cael ei ddisgrifio fel neo-con gan rai, tra bo Richard Perle yn neo-con i eraill.

Fel un sydd wedi diddori yn y maes ers peth amser, a sydd a dipyn go lew o gydymdeimlad a'r neo-cons, mae gen i syniadau pendant ynglyn a beth sy'n gwneud rhywun yn neo-con. I mi, mae syniadaeth y neo-cons go iawn yn deillio o werthoedd sylfaenol ryddfrydol.

Yn draddodiadol, mae polisi tramor America wedi canolbwyntio ar warchod buddianau Americanaidd. Er mwyn gwneud hyn, mae America wedi gweithio i sicrhau fod gwledydd allweddol yn cael eu rheoli gan lywodraethau cyfeillgar. Dyma bolisi tramor traddodiadol geidwadol Americanaidd.

Mae'r neo-cons yn dadlau fod gwerthoedd Americanaidd yn bwysicach na buddianau Americanaidd. Neu, yn hytrach, y ffordd orau o warchod yr Unol Daleithiau ydi lledaenu'r gwerthoedd sydd yn sylfaen i America - democratiaeth ryddfrydol. Mae'r neo-cons yn dadlau ei bod hi'n well cael llywodraeth ddemocrataidd ryddfrydol mewn grym, oherwydd bod llywidraethau o'r fath yn llai tebygol o fygwth buddianau America.

Ar yr wyneb, mae hyn yn ddigon tebyg i be mae llawer ar y chwith yn ei gredu - sef bod lledaenu democratiaeth ryddfrydol yn debygol o arwain at fyd mwy heddychlon a ffyniannus. Y gwahaniaeth rhwng y bobl yma a'r neo-cons ydi bod y neo-cons yn fwy milwriaethus, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar gyfrifoldeb gwladwriaethau unigol. Mae'r neo-cons yn gweld fod y drefn wleidyddol ryngwladol yn un fethedig, a bod disgwyl i'r Cenhedloedd Unedig weithredu yn ffolineb. Eu cred nhw ydi bod rhaid i America weithredu'n uniongyrchol i ledeanu democratiaeth ryddfrydol.

Felly, mae'r rhai sy'n disgrifio Donald Rumsfeld, neu Dick Cheney fel neo-cons yn hollol anghywir. Mae neo-con wedi ei droi yn insult cyffredinol sy'n cael ei ddefnyddio i feirniadu llywodraeth George Bush. Ond ychydig iawn o bobl o fewn y llywodraeth sy'n neo-cons go iawn. Athronwyr gwleidyddol ydi'r neo-cons, a nid gwleidyddion.

Gyda llaw Dylan, i ateb dy gwestiwn gwreiddiol - Yr Eidal, Yr Almaen, Siapan, India, Pakistan, Cymru, yr Alban, ayyb ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Llun 22 Ion 2007 6:04 pm

Mae'r holl ddamcaniaeth ei bod yn bosibl gorfodi democratiaeth ryddfrydig a all oroesi tros gyfnod o amser ar wledydd, heb bod esblygiad cynhenid wedi bod tuag at hynny yn bwlshit.

Un esiampl yn unig y gallaf feddwl amdani ydi Japan - a democratiaeth digon rhyfedd ydi honno.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Llun 22 Ion 2007 7:25 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Gyda llaw Dylan, i ateb dy gwestiwn gwreiddiol - Yr Eidal, Yr Almaen, Siapan, India, Pakistan, Cymru, yr Alban, ayyb ayyb.


Dw i ddim yn siwr pam ti 'di cynnwys Cymru a'r Alban yn y fan yna. Ond ynglyn â'r lleill, ella dylwn i esbonio fy nghwestiwn yn well.

Mae democratiaeth yn ei hanfod yn syniad Ewropeaidd. Er bod ambell eithriad wedi bod yn y cyfnod weddol fodern, fel yr Almaen, Eidal, Sbaen, Portiwgal, ac, yn weddol eironig gan mai'n debyg mai nhw ddyfeisiodd y blydi peth, Groeg, roedd yn amhosibl osgoi'r ffaith bod gan syniadau democrataidd wreiddiau digon cadarn yn Ewrop. Er mae'n wir bod RhB2 wedi arwain at ddemocrateiddio'r Almaen a'r Eidal - gwledydd a oedd am gyfnod digon rhyfedd yn dotalitaraidd -, ar y cyfan swn i ddim yn awgrymu bod democratiaeth wedi bod yn syniad mor chwyldroadol â hynny iddyn nhw. Roedden nhw'n dallt y dalltins yn weddol.

Fel o'n i'n dweud, dw i'n meddwl 'mod i'n ildio Japan. Doedd gan ddemocratiaeth affliw o ddim gwreiddiau yno cyn y rhyfel. Yn yr un modd, mae'n syniad cwbl estron ac anghyfarwydd yn yr Irác sydd ohoni heddiw. Mae India a Pacistan yn gymlethach. Dw i'n dallt beth ti'n feddwl, ond swn i'n trio cyfiawnhau fy hun trwy ddweud bod y ffaith bod Prydain wedi coloneiddio'r lle cyhyd, ac mor drwyadl, yn arwyddocâol. Hynny ydi, nid lledu democratiaeth oedd y bwriad; yn hytrach, sgil-effaith y coloneiddio ehangach oedd datblygiad democratiaeth yno. Yn achos Cymru a'r Alban, hyd yn oed petawn ni wedi aros yn annibynnol mae'n amhosibl honni y buaswn wedi gallu osgoi mabwysiadu democratiaeth gan ein bod yn rhan annatod o wareiddiad gorllewin Ewrop.

Cyn i fi ddechrau mwydro a chymysgu, dw i'n meddwl mai fy mhwynt yn gryno ydi na ellir mynd i ryfel yn unswydd er mwyn lledu democratiaeth (rhyfel byr, cofier), chwalu'r gyfundrefn bresenol yn ddi-drafferth, wedyn gadael ac yna rhywsut ddisgwyl i ddemocratiaeth ffynnu yno. Mae angen lot mwy na gynnau; mae angen unai disgwyl i ddemocratiaeth rhyddfrydol ddatblygu'n naturiol a chynhenid yno (a all gymryd degawdau lawer, mae'n wir), neu dylid coloneiddio'r lle go iawn fel a ddigwyddodd yn achos India gan wneud i syniadau rhyddfrydol dreiddio i bob rhan o'r gymdeithas.

Rhywbeth tebyg i'r hyn a ddywed GT uchod, yn y bôn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron