Lledu democratiaeth

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lledu democratiaeth

Postiogan Dylan » Sad 06 Ion 2007 3:00 pm

Siwr gen i mai dyma asgwrn y gynnen pan ddaw dadleuon am y rhyfel yn Irác ayyb. 'Dw i'n mawr hyderu bod nifer o'r rhai a gefnogodd hwnnw yn gwneud hynny am resymau moesol a didwyll. Digon teg. Yn wir teg awgrymu mai dyma hanfod neo-geidwadaeth fodern. Mae'n nod digon nobl yn hynny o beth. 'Dw i'n meddwl bod y sawl sy'n melltithio neo-geidwadwyr ac sy'n credu eu bod yn bobl gas yn eu hanfod yn camddeall eu safbwynt yn sylfaenol.

Ond 'dw i'n cael trafferth meddwl am unrhyw achos erioed o gyfundrefn ddemocrataidd sefydlog yn cael ei gorfodi ar un wlad gan wlad arall trwy drais. Dim un. 'Dw i ddim yn sôn am amddiffyn democratiaeth sy'n bodoli eisoes rhag bygythiad allanol (fel RhB2, er enghraifft), ond yn hytrach ceisio, trwy drais, greu cyfundrefn ddemocrataidd o'r newydd mewn gwlad lle nad oes traddodiad o'r fath wedi bodoli erioed. All rhywun fy nghywiro? Japan hwyrach? Ddim yn siwr. Ta waeth.

'Dan ni gyd, pob un wan jac, yn erbyn Saddam a'i debyg (ac mae'n dweud cyfrolau am safon disgwrs wleidyddol yr oes bod angen y fath ffycin disclaimer yn y lle cyntaf), a 'dan ni i gyd yn ysu i'r bobl sy'n gorfod byw mewn cyfundrefnau o'r fath i gael y cyfle i fyw fel 'dan ni yma'n ddigon ffodus i gael gwneud. Ond alla' i ddim yn fy myw weld sut y gellir cyflawni hynny trwy ryfel. Mae gwaethygu'r sefyllfa'n Irác, er enghraifft, wedi bod yn tipyn o gamp.

Mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn "naturiol", hynny ydi'n fewnol, yn deillio o rym ewyllys y bobl.

Cyn i mi ddechrau mwydro'n ormodol, dyma fy mhrif bwynt. 'Dw i'n credu'n gryf mai arloeswr democratiaeth rhyddfrydol yn y Dwyrain Canol fydd Iran. 'Dw i'n reit sicr bod dyddiau'r Aiatolas, y twpsod barfog â'u cyfraith Sharia, wedi'u rhifo. Mewn gwlad lle mae canran anferth o'r boblogaeth o dan 25, mae'r ieuenctid yno'n ddigon gorllewinol eu naws o be' 'dw i'n ei ddallt. Bydd stiwdants Iran yn arwain rhyw fath o chwyldro democrataidd eu hunain o fewn y degawd neu ddwy nesa'. Dyna fy mhroffwydoliaeth i. Neu o leia', dyna oedd fy mhroffwydoliaeth cyn i ni wneud smonach bach o bethau trwy fynd i ryfel ddrws nesa'. 'Dw i'n pryderu bod y difrod enbyd a achoswyd gan hynny wedi symud y broses yn ôl yn anffodus. Ond fe ddaw'r dydd yn hwyr neu'n hwyrach, gobeithio.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Lledu democratiaeth

Postiogan Cath Ddu » Sad 06 Ion 2007 11:40 pm

Dylan a ddywedodd:Siwr gen i mai dyma asgwrn y gynnen pan ddaw dadleuon am y rhyfel yn Irác ayyb. 'Dw i'n mawr hyderu bod nifer o'r rhai a gefnogodd hwnnw yn gwneud hynny am resymau moesol a didwyll. Digon teg. Yn wir teg awgrymu mai dyma hanfod neo-geidwadaeth fodern. Mae'n nod digon nobl yn hynny o beth. 'Dw i'n meddwl bod y sawl sy'n melltithio neo-geidwadwyr ac sy'n credu eu bod yn bobl gas yn eu hanfod yn camddeall eu safbwynt yn sylfaenol.


Dyna'r pwynt yr oeddwn yn wneud i Dili Minllyn.

Dylan a ddywedodd:Ond 'dw i'n cael trafferth meddwl am unrhyw achos erioed o gyfundrefn ddemocrataidd sefydlog yn cael ei gorfodi ar un wlad gan wlad arall trwy drais. Dim un. 'Dw i ddim yn sôn am amddiffyn democratiaeth sy'n bodoli eisoes rhag bygythiad allanol (fel RhB2, er enghraifft), ond yn hytrach ceisio, trwy drais, greu cyfundrefn ddemocrataidd o'r newydd mewn gwlad lle nad oes traddodiad o'r fath wedi bodoli erioed. All rhywun fy nghywiro? Japan hwyrach? Ddim yn siwr. Ta waethf.


Wel mae'r Almaen, Yr Eidal a Japan yn esiamplau go dda sef trechu cyfundrefnau gwrth ddemocrataidd ac wrth gwrs mae'r rhyfe oer yn esiampl gwych o fygythiad trais yn arwain at sefydlu gwladwriaethau rhydd a democrataidd.

Ac wrth gwrs, anodd yw anghofio cwymp Junta' Archentwyr nyn dilyn rhyfel y Falklands (er mai nid dyna fwriad yr ymgyrch)

Dylan a ddywedodd:'Dan ni gyd, pob un wan jac, yn erbyn Saddam a'i debyg (ac mae'n dweud cyfrolau am safon disgwrs wleidyddol yr oes bod angen y fath ffycin disclaimer yn y lle cyntaf), a 'dan ni i gyd yn ysu i'r bobl sy'n gorfod byw mewn cyfundrefnau o'r fath i gael y cyfle i fyw fel 'dan ni yma'n ddigon ffodus i gael gwneud. Ond alla' i ddim yn fy myw weld sut y gellir cyflawni hynny trwy ryfel. Mae gwaethygu'r sefyllfa'n Irác, er enghraifft, wedi bod yn tipyn o gamp.


Wel anodd cytuno efo chdi fan hyn. Tydi Nannog yn bendant ddim yn cytuno ei fod yn erbyn Saddam ac mae sylwadau eraill o fewn y Maes yn amwys iawn.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Macsen » Sad 06 Ion 2007 11:54 pm

Y rhwystr mawr i ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol, hyd y gwela'i, yw'r diffyg ysgariaethyn meddwl y bobol rhwng crefydd a'r wladwriaeth. Unwaith mae'r bobol yn rhoi'r gorau i feddwl bod eu harweinydd wedi ei ddewis gan Ala, mi fydden nhw'n sylwi beth yw gwerth pledleisio. Y ffordd gorau i dempro radicaliaeth grefyddol yw gyda materoliaeth. Sylwer, yn Libanus, un o'r gwledydd gyda'r economi gora (wel cyn i Israel yrru nhw nol i oe y cerrig), bod Mwslemiaid a Cristnogion yn medru cyd-fyw o fewn plaid wleidyddol. Yn Irac, gyda'r holl dlodi enbyd, dyw Mwslemiaid prin yn medru cyd-fyw o fewn plaid wleidyddol. Felly gyda economi digon cryf yn y Dwyrain Canol, a pobol sy'n medru prynu'r flat screens a'r iPods diweddaraf, byddai nhw'n rhoi'r gorau i feddwl mae cynllun duw yw popeth, ac sylwi mai eu cyfrifoldeb nhw a nid ryw bwer cosmig yw dewis arweinydd call.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Democratiaeth?

Postiogan Tshiffalaffs » Sul 07 Ion 2007 1:01 am

Nid jest cynnal etholiad mo democratiaeth. gall hyd yn oed etholiadau rhydd a theg fod yn ddiffygiol os nad oes is-adeiladedd mewn lle a chytundeb cyffredinol rhwng y pleidiau gwahanol i barchu'r canlyniad. Yr hyn sydd wedi digwydd mewn llawer iawn o wledydd, yn enwedig yn y Trydydd Byd, yw meddylfryd y 'winner takes all', sef mae un llwyth/grwp ethnig/dosbarth/carfan crefyddol yn ennill y bleidlais, ac maent yn rheoli er lles y grwp hwnnw ar drail y gweddill. Ni fydd yna heddwch mewn gwlad fel Irac, nes fod pob grwp yn cytuno i dderbyn ewyllys y mwyafrif - er nad ydynt o reidrwydd yn cytuno - ac yn gweithio fel gwrthblaid o fewn y system seneddol/gwleidyddol i wrthwynebu polisiau'r rheolblaid pan bo hynny'n briodol. Byddai'n rhaid i'r rheolblaid gytuno i barchu statws y gwrthbleidiau ac ymrwymo ei hun i gynrychioli PAWB, nid yn unig y bobl a'i rhoddodd mewn grym. Heb yr elfennau hyn, mae naill ai llywodraeth unbeniaethol yn llethu unrhyw wrthwynebiad, neu welwn ni coup ar ol coup yn ysgubo llywodraeth etholedig o bwer, megis yn Haiti. Heb strwythur gadarn mewn lle, ni fydd dim byth yn gwella yn y gwledydd hyn. Mewn theori o leiaf, dylai sefydlu strwythur fel hyn fod yn haws mewn gwledydd fel Irac, lle mae'r mwyafrif yn gymharol addysgiedig ac yn gallu dod o hyd i wybodaeth/newyddion/barn o sawl ffynhonell wahanol, nag y bydd mewn gwlad fel Affganistan, lle mae'r hen gyfundrefn llwyth dal yn ofnadwy o gryf.[/b]
Twp fel sledj.
Tshiffalaffs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 8:45 pm
Lleoliad: Brongwyn

Re: Lledu democratiaeth

Postiogan Owain Llwyd » Sul 07 Ion 2007 1:33 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Siwr gen i mai dyma asgwrn y gynnen pan ddaw dadleuon am y rhyfel yn Irác ayyb. 'Dw i'n mawr hyderu bod nifer o'r rhai a gefnogodd hwnnw yn gwneud hynny am resymau moesol a didwyll. Digon teg. Yn wir teg awgrymu mai dyma hanfod neo-geidwadaeth fodern. Mae'n nod digon nobl yn hynny o beth. 'Dw i'n meddwl bod y sawl sy'n melltithio neo-geidwadwyr ac sy'n credu eu bod yn bobl gas yn eu hanfod yn camddeall eu safbwynt yn sylfaenol.


Dyna'r pwynt yr oeddwn yn wneud i Dili Minllyn.


Gan ddilyn cyngor diweddar y Gath i fi mewn edefyn arall, mi es i ati i ddarllen mwy am agwedd "weddol iach" y neogeidwadwyr a'r "ffydd mewn democratiaeth a rhyddid yr unigolyn" sy'n galon i'w syniadaeth. Wedi bod yn sbio yn galed, ond heb weld rhyw lawer o'r dywededig agweddau eto.

Richard Perle a ddywedodd:If we just let our vision of the world go forth, and we embrace it entirely, and we don't try to piece together clever diplomacy but just wage a total war, our children will sing great songs about us years from now.


Dydi "ffydd mewn rhyfel llwyr" ddim yn swnio yn uffernol o iach.

Michael Ledeen a ddywedodd:The purpose of total war is to permanently force your will onto another people


A dydi gorfodi ewyllys ar bobl eraill ddim yn swnio'n aruthrol o ddemocrataidd.

Stephen P. Rosen a ddywedodd:We are in the business of bringing down hostile governments and creating governments favorable to us


Na hynna.

Michael Ledeen a ddywedodd:Every ten years or so, the United States needs to pick up some small crappy little country and throw it against the wall, just to show the world we mean business


Didwyll? Yn ddiamau. Hanfod neogeidwadaeth fodern? Hawdd coelio. Ond nobl a moesol? Hyd yma, dw i heb gael fy mherswadio bod y neogeidwadwyr sanctaidd yn poeni'n fawr am werthoedd girlie, wimplyd fatha'r hawl i self-determination a bod yn glên wrth bobl ddiarth.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Re: Lledu democratiaeth

Postiogan Dylan » Sul 07 Ion 2007 2:58 am

Cath Ddu a ddywedodd:Wel mae'r Almaen, Yr Eidal a Japan yn esiamplau go dda sef trechu cyfundrefnau gwrth ddemocrataidd ac wrth gwrs mae'r rhyfe oer yn esiampl gwych o fygythiad trais yn arwain at sefydlu gwladwriaethau rhydd a democrataidd.


'Dw i'n ildio Japan, hwyrach. Ond eto 'roedd RhB2 yn sefyllfa digon eithriadol. Anodd cymharu effaith pell-gyrhaeddol rhyfel byd-eang gyda rhywbeth fel Irác.

Wel anodd cytuno efo chdi fan hyn. Tydi Nannog yn bendant ddim yn cytuno ei fod yn erbyn Saddam ac mae sylwadau eraill o fewn y Maes yn amwys iawn.


Hmm, gobeithio'n wir dy fod yn anghywir. Ond fel 'ro'n i'n ei ddweud mae'n faleisus i gyhuddo rhywun o fod yn pro-Saddam dim ond achos eu bod wedi nodi bod pethau'n waeth fyth rwan nag oedden nhw dywed pum mlynedd yn ôl.

Ond ta waeth, 'dw i ddim isio mynd lawr y trywydd yna fan hyn. Liciwn i drio craffu ar yr egwyddor sylfaenol o drio gorfodi democratiaeth yn allanol trwy drais.

Hynny ydi, ydi'r bobl isio democratiaeth mewn gwirionedd? Fel y dywed Macsen, rhaid seciwlareiddio'r broses wleidyddol cyn y gellir cael democratiaeth. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd angen datblygu'n naturiol oddi fewn. Os, fel ag y mae'n ymddangos, 'dan ni wedi radicaleiddio a pholareiddio'r elfennau crefyddol yn yr ardal trwy fynd i ryfel, mae'n gwbl wrth-gynhyrchiol yn hynny o beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 07 Ion 2007 3:12 am

Owain, rhaid cyfaddef 'dw i yn teimlo bod modd dadlau'n ddigon rhesymol mai Richard Perle ydi'r diafol. Ddim yn anghytuno â hynny o gwbl. Ond 'dw i'n dal yn credu bod y mwyafrif o'r garfan neo-geidwadol yn ddigon didwyll.


We are in the business of bringing down hostile governments and creating governments favorable to us


Tra mae hwnna'n swnio'n sinistr ar un wedd, 'dw i'n credu bod modd ei ddehongli mewn ffordd mwy ffafriol (ond 'dw i ddim yn gyfarwydd â Rosen felly wn i ddim os ydi o'n haeddu'r fath beth). Byddai rhai'n dadlau mai ystyr "favorable to us" yn y fan hyn ydi "democratiaeth rhyddfrydol" tebyg i'r hyn sy' gennym yn y gorllewin.

Yn y bôn, mae rhaid gofyn a ydi'n system wleidyddol ni (y "gorllewin") yn well na system gwledydd fel Irác. 'Dw i'n meddwl bod angen i ni fod yn lot lot mwy hyderus a haerllug fan hyn a dweud "ydi, bendant". 'Dw i'n cael fy hun yn troi fwyfwy yn erbyn perthynoledd moesol ("ond pwy ydan ni i feirniadu?"). Mae'r gwledydd 'ma'n shit. 'Dan ni'n well na nhw. Tasa nhw fwy fel ni, byddai'r byd yn le lot gwell. Ni ddylai fod arnom ofn cydnabod hynny.

Ond nid ei orfodi arnynt trwy drais ydi'r ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Sul 07 Ion 2007 4:29 am

Ia, ond yr hun yr yda "ni" yn ei wneud ydi manteisio a meddianu adnoddau a economiau er mwyn cryfhau "ein" statws ar draul pobl a gwledydd eraill, Dylan. Ni fedr gwledydd eraill fod yr un mor "dda" a ni oherwydd na fydda "ni" byth yn gadael i'r fath sefyllfa ddigwydd rhag dinistrio "ein" goruchafiaeth. Wele y polisi amaethyddol ryngwladol a'r hun sy'n digwydd gyda'r subsidies i wneud yn siwr nad ydi gwledydd a phobl dlotach yn medru torri unrhyw farchnad.

Ti'n amlwg yn methu dirnad y gwahaniaeth rhwng sbil PR y Neo Cons a'u bwriadau go iawn. Eu bwriadau go iawn ydi'r hyn mae Richard Perle yn ddatgan er budd eu arian a'u goruchafiaeth, tra mae pobl eraill, dwl, naif, yn ynganu eu propaganda hapus. Nonsens na fedri gyfiawnhau gan unrhyw weithred concrit o gwbl gan dy neo-cons.
Dyma enghraifft o weledigaeth a realiti presennol y neo-cons gan eu cyfaill pennaf, john Pilger.
http://www.johnpilger.com/page.asp?partid=130
Farmers also suffer when their own markets are opened up to competition from the powerful agricultural industries of the developed world. In 1994 Mexico opened its markets to competition from US agriculture under the requirements of the North American Free Trade Agreement (NAFTA), and within just three years 800,000 Mexican farmers faced bankruptcy as a result of direct competition from the industrial agriculture of the US Mid-west.

Similarly, cattle farmers from Burkina Faso to South Africa have been forced out of business as a result of cheaply produced (and heavily subsidised) meat from the European Union being dumped on African markets.

Other pro-globalisation agents have also favoured multinational agricultural companies over the small farmers of the developing world. Within a day of the US Democratic Party receiving a $500,000 'donation' from banana multinational Chiquita, the Clinton government filed a complaint at the WTO against European trade agreements which favour bananas imported from small farmers in the Caribbean.

The WTO's disputes settlement body ruled in favour of the multinational, demanding that it should have greater access to the lucrative European market. Up to 200,000 Caribbean farmers, many of them women, may lose their livelihoods as a result of the ruling.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dili Minllyn » Sul 07 Ion 2007 8:40 am

Dwi'n meddwl bod Tom Lehrer wedi crynhoi'r agwedd neo-geidwadol yn eithaf da yn y gân yma.

Send the Marines, Tom Lehrer, 1965 a ddywedodd:When someone makes a move
Of which we don't approve,
Who is it that always intervenes?
U.N. and O.A.S.,*
They have their place, I guess,
But first - send the Marines!

We'll send them all we've got,
John Wayne and Randolph Scott;
Remember those exciting fighting scenes?
To the shores of Tripoli,
But not to Mississippoli,
What do we do? We send the Marines!

For might makes right,
And till they've seen the light,
They've got to be protected,
All their rights respected,
Till somebody we like can be elected.

Members of the corps
All hate the thought of war;
They'd rather kill them off by peaceful means.
Stop calling it aggression,
Ooh, we hate that expression!
We only want the world to know
That we support the status quo.
They love us everywhere we go,
So when in doubt,
Send the Marines!

*United Nations and Organization of American States
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan y mab afradlon » Sul 07 Ion 2007 11:36 am

Mae rhyw ddeuoliaeth mawr yn perthyn i agwedd yr Americaniaid at ddemocratiaeth.

Byddai wedi codi sefyllfa diddorol iawn yn Irac pe bai'r bobl wedi pleidleisio dros lywodraeth theocrataidd, er enghraifft. Mae'n siwr byse'r Berth Mawr wedi ffindio ffordd i ddymchwel hwnnw'n weddol glou!

Ond, mae rhyw gof da fi ynglyn a phleidlais ddemocrataidd ynglyn a rhyfela yn erbyn Saddam. Lle cafodd llywodraethau'r byd (neu o leiaf y rhai sy'n cael eu caniatau i ymuno 'da'r genhedloedd unedig gan yr Americanwyr)gyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn y rhyfel. Ac wy'n credu i fi gofio taw yn erbyn rhyfel pleidleisiodd y byd...

O, anghofiais i...
...creating governments favorable to us
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai