Garnet Bowen a ddywedodd:Gyda llaw Dylan, i ateb dy gwestiwn gwreiddiol - Yr Eidal, Yr Almaen, Siapan, India, Pakistan, Cymru, yr Alban, ayyb ayyb.
Dw i ddim yn siwr pam ti 'di cynnwys Cymru a'r Alban yn y fan yna. Ond ynglyn â'r lleill, ella dylwn i esbonio fy nghwestiwn yn well.
Mae democratiaeth yn ei hanfod yn syniad Ewropeaidd. Er bod ambell eithriad wedi bod yn y cyfnod weddol fodern, fel yr Almaen, Eidal, Sbaen, Portiwgal, ac, yn weddol eironig gan mai'n debyg mai nhw ddyfeisiodd y blydi peth, Groeg, roedd yn amhosibl osgoi'r ffaith bod gan syniadau democrataidd wreiddiau digon cadarn yn Ewrop. Er mae'n wir bod RhB2 wedi arwain at ddemocrateiddio'r Almaen a'r Eidal - gwledydd a oedd am gyfnod digon rhyfedd yn dotalitaraidd -, ar y cyfan swn i ddim yn awgrymu bod democratiaeth wedi bod yn syniad mor chwyldroadol â hynny iddyn nhw. Roedden nhw'n dallt y dalltins yn weddol.
Fel o'n i'n dweud, dw i'n meddwl 'mod i'n ildio Japan. Doedd gan ddemocratiaeth affliw o ddim gwreiddiau yno cyn y rhyfel. Yn yr un modd, mae'n syniad cwbl estron ac anghyfarwydd yn yr Irác sydd ohoni heddiw. Mae India a Pacistan yn gymlethach. Dw i'n dallt beth ti'n feddwl, ond swn i'n trio cyfiawnhau fy hun trwy ddweud bod y ffaith bod Prydain wedi coloneiddio'r lle cyhyd, ac mor drwyadl, yn arwyddocâol. Hynny ydi, nid lledu democratiaeth oedd y bwriad; yn hytrach, sgil-effaith y coloneiddio ehangach oedd datblygiad democratiaeth yno. Yn achos Cymru a'r Alban, hyd yn oed petawn ni wedi aros yn annibynnol mae'n amhosibl honni y buaswn wedi gallu osgoi mabwysiadu democratiaeth gan ein bod yn rhan annatod o wareiddiad gorllewin Ewrop.
Cyn i fi ddechrau mwydro a chymysgu, dw i'n meddwl mai fy mhwynt yn gryno ydi na ellir mynd i ryfel yn unswydd er mwyn lledu democratiaeth (rhyfel byr, cofier), chwalu'r gyfundrefn bresenol yn ddi-drafferth, wedyn gadael ac yna rhywsut ddisgwyl i ddemocratiaeth ffynnu yno. Mae angen lot mwy na gynnau; mae angen unai disgwyl i ddemocratiaeth rhyddfrydol ddatblygu'n naturiol a chynhenid yno (a all gymryd degawdau lawer, mae'n wir), neu dylid coloneiddio'r lle go iawn fel a ddigwyddodd yn achos India gan wneud i syniadau rhyddfrydol dreiddio i bob rhan o'r gymdeithas.
Rhywbeth tebyg i'r hyn a ddywed GT uchod, yn y bôn.