Owain Llwyd a ddywedodd:Ond dw i'n dal heb allu gweld sut mae trosglwyddo swyddogaethau llywodraeth leol i gwmnïau preifat anatebol yn hwb i'r broses ddemocrataidd.
Enghraifft o ymestyn egwyddor yn amhriodol. Cytunaf nad yw hyn yn gwella'r sefyllfa sbwriel yn Ngwynedd, ac ei fod mwy na thebyg yn ganlyniad o ddyheuad rhyw reolwr yng Nghaernarfon i allu rhoi bai ar rhywun arall am sefyllfa'r sbwriel yn hytrach na cymryd gofal o'i dasg, ond t'ydy hyn ddim yn golygu nad oes rhesymau gwahanol o blaid defnyddio cwmniau allanol i echdynnu olew Irac.
1. Does ganddyn nhw mo'r sgiliau sydd angen.
2. Does ganddyn nhw mo'r cyfarpar nag arian i'w brynu.
3. Does ganddyn nhw ddim disgyblaeth na rheolaeth dros lygredd.
4. Mae nhw angen cyn gymaint o arian a fedran nhw gael cyn gynted a phosib er mwyn ei ddosbarthu i gadw'r bobl rhag chwyldroi ag i sefydlu gwasanaethau.
5. Mae nhw angen arian i sefydlu byddin unedig dan arweiniaeth gryf cyn i'r wlad rannu'n hollol.
6. Mae'n debyg iawn bydd gallu arbenigol y cwmniau olew yn arwain at gyfraddau echdyniad mwy effeithiol - hynny yw, canran uwch o'r olew yn cael ei echdynnu o bob maes drwy dechnolegau a dechnegau mwy effeithiol nag oes gan yr Iraciaid. Yn syml, mae 80% o elw 80% yr olew yn well na 100% o elw 60% yr olew. Mae hyn hefyd yn dylanwadu'r fawr ar ddyfodol meysydd olew y wlad - mae gwneud smonach o dyllu neu ddatblygu maes olew yn nechrau bywyd y maes yn gallu amharu ar y canran o olew a echdynnid o'r maes h.y. fod gorfod gadael mwy i lawr yno nag oedd raid.