Blewyn a ddywedodd:Wel Dan, efallai achos fod perygl ceith y cyfarpar ei ddefnyddio yn ein herbyn peate Saudi yn troi arnom
O duw duw Blewyn dyna yn UNION pam bod gymynt o bobol yn erbyn gwerthu’r fath arfau i Saudi yn y lle cynta! Mae gwerthu nhw di bod yn uffernol o anodd oherwydd hynnu ond mae nhw wedi gwerthu beth bynnag! A dweud y gwir, y prif reswm pam wnaeth Saudi ddyfalu brynu y holl Tornados na ganndo “ni” oedd achos eu bod nhw ddim yn gallu prynu rhai modern o America oherwydd bod na ormod yn erbyn gelyn Israel cael arfau mor modern! Ath hyn arwain at gytundeb Al Yamamah.
Blewyn a ddywedodd:am nad ydym eisiau trosglwyddo sgiliau penodol filwrol i Saudi
Dim yr arfau yn unig mae Saudi yn wario ond hefyd ar hyfforddiant gan y cyflenwyr. Ti di clywad am yr United States Military Training Mission?
Blewyn a ddywedodd:ond fod yr UDA yn penderfynnu fod pris amddiffyn y tiriogaeth yn rhy uchel. (llif olew wedi lleihau, gormod o drafferthion mewn llefydd eraill i boeni am y gwlff....)
Unwaith eto pwyntiaf allan bod y siawns o hynnu i gyd ddigwydd yn isel iawn.
3) Pan es i ddweud amser maith yn ol “Plis paid a deud wrthaf sa ti'n disgwl i'r UDA gadw draw os fuasa Irac wedi ymosod ar Saudi neu Kuwait” nes di ateb: “I’r gwrthwyneb”.
Blewyn a ddywedodd:Yn bresennol, Dan. Da ni'n trafod y dyfodol.....wneith yr olew ddim para am byth.
O diar mi, Blewyn! Roedda ni yn trafod y dyfodol hefyd pan es di dweud “i’r gwrthwyneb”. Edrych yn ol dy hun! Son am rhoi dy hun mewn twll!
Blewyn a ddywedodd:Er mwyn i'r arweiniaeth yn Saudi allu dweud wrth eu pobl fod y 'Strike Eagle' yn amddiffyn y wlad......
Be ddiawl?! Nage, Blewyn, toes bosib dy fod yn gywir yn fana. Dwi wirioneddol gweld hyn fel ymdrech pathetic ac anobeithiol i helpu dy safbwynt. Ti’n anwybyddu’n llwyr pwrpas y Strike Eagle yn y lle cynta.
Blewyn a ddywedodd:a'r peth cyntaf ofynnith y bobl os welant fod eu arweiniaeth yn prynu F15 cyffredin ydy "why we cannot have Strike Eagle ?"
Wyt ti’n trio dweud wrtha i na’r BOBOL wnaeth berswadio’r arweiniaeth yn Saudi Arabia i brynu’r Strike Eagle?! Ti’n gwneud petha fyny yn dy ben heb ddefnyddio unrhyw resymeg o gwbwl! Hollol chwerthinllyd!
Blewyn a ddywedodd:A dyna'n union pam mae'r awyren mae'r UDA wedi ei gynllunio, adeiladu a gwerthu i Saudi yn cael ei alw'n.......Strike Eagle
Hollol anghywir unwaith eto. Ni chafodd ei alw yn Strike Eagle er mwyn Saudi Arabia. Ni chafodd y Strike Eagle ei gynllunio a’i adeiladu i Saudi. Saudi ath brynu nhw -
A DIM ACHOS Y FFYCING ENW. Prin iawn dwi di gweld dadl mor thic a hyn!
trechu eu awyrlu yn reit ulw hawdd gan fod gwahaniaethau rhwng ein awyrennau ni a'u awyrennau nhw wedi eu cynllunio yn fwriadol i wneud yn siwr.
Wishful thinking, fel mae’r sais yn dweud.
Sylwer bod yr holl bwynt o son am effaith y cyfryngau yn Irac gan Blewyn yn y lle cynta wedi newid o drio profi “mai buddugoliaeth yn erbyn goresgynnwr ymosodol oedd y rhyfel yn 1991” oedd ar feddwl yr Iraciaid i pa ochor mae’r Iraciaid yn meddwl oedd y bai.
Be di'r gwahaniaeth Dan ?
Y gair “BUDDIGOLIAETH”. Dio mor anodd na hynnu i weld?
Y pwynt ydy dy fod yn dadlau na fysa Saddam wedi gallu codi byddin eto achos fod y bobl yn deall eu bod wedi cael stid am ymosod ar Kuwait.
Eh? Nes i ddim honni y fath beth! Plis paid a deud wrthaf dy fod wedi dadlau yn erbyn pwynt dwi heb ddweud!
Blewyn a ddywedodd:Mae’r lefel “far-fetched” o dy sefyllfa yn cynyddu efo’r syniad o Saddam a Bin Laden yn bartneriaid mor sydyn.
My enemy's enemy is my friend......
O diar! “My enemy's enemy happens to hate me and I hate him”.
Blewyn a ddywedodd:Rwan ti'n cynnig sefyllfa o Saddam yn rhoi sdid i Brydain, nid Kuwait/Saudi. Hollol, hollol, hollol chwerthinllyd.
Faint o arfau dinistriol fysa raid iddo fo smyglo fewn i Brydain ?
Customs a ddywedodd:Okay, lets see: some clothes, a football, a spot of light porn, posters of David Hasslehoff, 50 litres of anthrax, 65 scud missiles with chemical warheads. Nothing unusal. Okay Mohammed, you’re free to go. Welcome to Britain.
Faint o arfau dinistriol fysa raid i Saddam smyglo i Brydain i rhoi
stid i Brydain? Lle mae dechra?
Blewyn a ddywedodd:Roeddem yn trafod y posibilrwydd o China rymus yn gwrthwynebu ammddiffyniad yr UDA o Saudi Dan. Tria aros ar y pwnc....
O blydi hel fysa “gwrthwynebiad economaidd” gan China ddim digon o gwbwl, Blewyn. Digon hawdd i America feddwl “os di China am ein cosbi yn economaidd am gymeryd Irac drosodd yna da ni ddim am rhoi siar o’r olew Irac i China i ddial arnyn nhw”
d'oes gan neb syniad pa fath o dechnoleg newydd all ddod.
Neb ddim
syniad? Chydig bach o or-ddweud, ti’m yn meddwl?
Naaa Daaan, mi gafodd y cytundeb ei ganslo achos fod Yemen wedi methu cadw eu hochr nhw o'r bargen.
Iesu Grist tria ddeall – os fysa Yemen di dweud “ia” am fynd yn erbyn Irac ni fysa’r cytundeb wedi ei chanslo y funud hwnnw. Mi wnaeth yr UDA feddwl am ffordd i gosbi’r rhai ddywedodd na – a pan aeth hi ddod at Yemen roedd un ffordd o gosbi yn amlwg – canslo’r cytundeb. Dyna fysa cosb Yemen am "fethu cadw eu hochr nhw o'r bargen". A mae'n rhyfeddol bod gwlad sydd yn brolio eu democratiaeh a rhyddid barn cyn gymynt yn penderfynu cosbi gwlad o'r fath am ddweud ei barn a dweud "na".
Yma yn Oman heddiw mae $190 yn prynu 90 llond platiad mawr o Chicken Biryani.
Darllan y dyfyniad yn iawn wnei di? Ydi 90 llond platiad yn ddigon y flwyddyn?
Blewyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:$190 y pen i fwydo y rhai oedd heb fwyd o ffynhonellau eraill
Faint oedd hyn y pen felly ?
Faint oedd dyrnad o reis, neu bysgodyn, yn Irac yn 1992-ymlaen ?
Diolch am fy ngham ddyfynu yn llwyr. Pam nes di’r dyfyniad yna i fyny? Be sy’n bod efo chdi? Dwi hyd yn oed yn anghytuno efo’r dyfyniad mae “Dan Dean” yn ddweud uchod achos mae rhan o’r $190 hefyd yn talu am feddygyniaethau.
Am faint oedd bwyd yn gostio: dyma oedd canlyniad tim o arbenigwyr yn gweithio yn Irac yn 1991:
Food throughout the country is prohibitively expensive and generally in scarce supply. Agricultural production has been halted due to a lack of inputs (fertilizers, seeds, fuel and spare parts) all prohibited under the sanctions resolutions. Between August 1990 and January 1991, food prices had gone up by as much as 1,000%.
Un o’r effeithiau eraill y sanctiynau oedd cost y bwyd yn cynyddu yn uffernol.
D'oedd South Africa ddim yn ein bygwth Dan. Mi fysa atal bwyd a meddyginiaeth wedi brifo'r union bobl roeddem yn ceisio helpu. A deud y gwir Dan, sut fath o gymhariad ydy SA ag Irac ? Mae eisiau mynadd wir Dduw !
Dwi ddim yn “cymharu” SA ag Irac yr idiot gwirion, plis darllen y pwynt yn fanwl cyn dweud rhywbeth!
Diar mi, Blewyn! “Sut arall mae ataliadau fod i weithio ?” medda chdi fatha bod hi’n angenrheidiol i gynnwys bwyd a meddyginiaethau. Cwbwl dwin bwyntio allan ydi gall ataliadau weithio HEB atal bwyd a meddyginiaethau.
Blewyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Mae pobl yn gyfrifol am eu hunain Dan.
Be ddiawl sgen hynnu i’w wneud efo be achosodd y dioddef?! Pa fath o ateb di hwnna i fod?
Be ti ddim yn ddeall amdano ?
Felly dy ateb di i’r holl ddifrod a’r dioddef o’r ataliadau ydi “Mae’r Iracwyr sydd yn dioddef yn gyfrifol am eu hunain”? Nid yw hynnu yn dangos be
achosodd y dioddef, Blewyn.
Cyn y sancsiynau, roedd yr Iraciaid yn gwneud job eitha da o bod yn gyfrifol am eu hunain, gyda 70% o’r bwyd a meddygyniaethau yn dod o wledydd eraill.
Be achosodd yr holl farwolaethau oherwydd defnydd anferthol o
depleted uranium yn Ne Irac, Blewyn? Dyma ti ddewis:
a) O fomiau Americanaidd oedd y DU a bod na ddim meddygyniaethau digon da ar gael i drin yr effeithiau achos nid oedd yr ataliadau yn eu caniatau.
neu b) achos bod Saddam yn adeiladu plasdai