Y gwirionedd o'r diwedd! Gwaed am Olew.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y gwirionedd o'r diwedd! Gwaed am Olew.

Postiogan Nanog » Iau 11 Ion 2007 8:44 am

http://news.independent.co.uk/world/mid ... 132574.ece

The 'IoS' today reveals a draft for a new law that would give Western oil companies a massive share in the third largest reserves in the world. To the victors, the oil? That is how some experts view this unprecedented arrangement with a major Middle East oil producer that guarantees investors huge profits for the next 30 years

So was this what the Iraq war was fought for, after all? As the number of US soldiers killed since the invasion rises past the 3,000 mark, and President George Bush gambles on sending in up to 30,000 more troops, The Independent on Sunday has learnt that the Iraqi government is about to push through a law giving Western oil companies the right to exploit the country's massive oil reserves.

Ac heddiw, mae Bush wedi datgan fydd 20,000 rhaogr o filwyr yn cael eu danfon i Irac.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/6250625.stm i sicrhau'r cyflenwad olew.

Ac i feddwl fyd mod i wedi meddwl taw ymosod ar Irac wnaethon nhw o achos WMD! 'Na dwpsyn!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan huwwaters » Iau 11 Ion 2007 12:39 pm

Wel, mae'n amlwg fod yr UDA ar ôl olew. Ma George Bush newydd arwyddo deddf i ganiatau drilio am olew yn Alaska,; mae'r UDA newydd tynnu eu hunain i fewn i Somalia, ble ma ne ffynonellau olew heb eu defnyddio eto; a'r arwydd fod yr UDA ddim am adael unrhyw adeg ynghynt yn Iraq.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Prysor » Llun 15 Ion 2007 1:05 pm

Diolch, Nanog, am bostio hwn. Darllenais innau'r erthyglau hyn yn yr IoS hefyd. Mae'n gywilidd nad oes mwy o sylw'n cael ei roi i'r diawledigrwydd 'ma.

Un o arfau cryfaf cyfalafiaeth ydi cadw pobl yn fodlon efo'u DVD Players a Plasma Screens etc, fel nad ydyn nhw'n barod i herio'r drefn wrth i'r pŵerau fynd yn fwy a mwy trahaus a thotalitaraidd.

Torture, Guantanamo, lladd cannoedd o filoedd o bobl, infêdio gwledydd am olew, cyfyngu hawliau dynol, camerau, cardiau ID, central database etc etc etc. Fyddai pobl ddim yn derbyn hyn ychydig flynyddoedd yn ôl.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan huwwaters » Llun 15 Ion 2007 1:26 pm

Dwi'n meddwl wneith yr effeithiau ddod i'r olwg dim, rwan ond ymhen y 5 mynedd nesa.

Yr unig ffordd wneith pobl sylwi yw pan fydd effeithiau'r holl ryfela ma ddod gartref. Cyn filwyr gyda breichiau ar goll etc., mwy o ymosodiadau terfysgol yn y wlad yma, a'r ffaith fod San Steffan £35biliwn mewn dyled ac yn dal i fenthyg.

Unwaith fydd llywodraeth arall i fewn ond Llafur, mi fydd pethau fel hyn yn dod i'r amlwg.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 15 Ion 2007 1:57 pm

Nag oes olwe yn ardal Somalia? Sgwn i pam mae'r UDA wedi penderfynnu ymyryd yn fan yna nawr?!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chip » Llun 15 Ion 2007 8:06 pm

ma polisi yr UDA o "Oil for Food " mor anheg dwi just ddim yn deall sut ma nw yn galw ei hun yn ochr da yn y "rhyfel ma". Bydde Bush o bell ffordd ddim mor grif yn ei eisiau i cal wared o'r evil doers os bydde ddim olew ynglwm yn hyn i gyd.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Garnet Bowen » Sul 21 Ion 2007 10:27 pm

Mae'r erthygl yna gyda'r gwaethaf i mi ei darllen erioed. Mae hi'n gwneud honiadau cwbl wallgo, a chwbl wallgo, am drefn fusnes Irac. Yr unig beth sydd wedi digwydd ydi bod llywodraeth Irac wedi dewis trefn PFI i gloddio a thrin ei olew. Hynny yw, mae cwmniau preifat yn gwneud y gwaith o gloddio a thrin, ac yn derbyn cyt o'r elw am wneud hynny. Pam bod hyn mor ofnadwy? Efallai nad ydi'r drefn hon yn un mae pawb yn gytuno a hi, ond mae hi'n drefn hollol resymol. Yn sicr, does 'na ddim synnwyr mewn disgrifio'r drefn fel "To the Victors, the Oil". Lol un-llygeidiog ydi hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Prysor » Sul 21 Ion 2007 10:47 pm

Unllygeidiog yw'r gair i ddisgrifio dy ddadansoddiad di o'r erthygl, Garnet. Tra bod y drefn PFI yn gyffredin mewn rhai gwledydd sydd ag olew, mae'r cyt mae'r cwmniau olew yn mynd i gael allan o broffits olew Irac, yn ôl y cytundeb hwn, yn llawer llawer mwy na'r cyffredin - yn wir, mae o'n unprecedented yn y byd hyd yn hyn.

Ffaith bach wyt ti a chefnogwyr cyfalafiaeth y gorllewin yn dewis ei anwybyddu.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Garnet Bowen » Llun 22 Ion 2007 9:16 am

Mae'r cyt mae'r cwmniau olew yn cael ei gynnig yn adlewyrchu'r sefyllfa yn Irac. Mae gweithio yn Irac yn berygl, ac felly mae'n rhaid rhoi incentive ychwanegol i bobl fuddsoddi. Hefyd, mae gan lywodraeth Irac ddigon o broblemau eraill, heb orfod poeni am y gwaith o dyllu am olew, a'i drin. Mae cynnig cytundeb ffafriol o'r fath yn sicrhau bod 'na rhywun yn fodlon ymgymryd a'r gwaith. Mae hyn yn dod a chyllid i mewn i goffrau'r llywodraeth, heb i'r llywodraeth orfod gwneud dim byd. Un o reolau sylfaenol busnes - mae 50% o rhywbeth yn well na 100% o ddim byd.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cofio mai llywodraeth ddemocrataidd Irac sydd wedi penderfynnu dilyn y trywydd yma. Chafodd hyn ddim mo'i orfodi arnyn nhw, beth bynnag mae'r Independent yn ei ensynu.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Reufeistr » Llun 22 Ion 2007 9:52 am

Garnet Bowen a ddywedodd: Hefyd, mae gan lywodraeth Irac ddigon o broblemau eraill, heb orfod poeni am y gwaith o dyllu am olew, a'i drin.


Oes, mwy o broblemau na fuodd yno erioed, sgwni pam?
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron