rabscaliwn a ddywedodd:Llai o'r paranoia Owain bach.
Dim diolch. Mae'n fodd i fyw. Mi ddylset ti ei drio fo.
Cymedrolwr: Chwadan
rabscaliwn a ddywedodd:Llai o'r paranoia Owain bach.
Blewyn a ddywedodd:Ydy hwn yn ateb o ddifri ta ti'n trollio eto ?
Blewyn a ddywedodd:Dan bach mae hyn yn mynd yn flinedig iawn. Os ti ddim yn deall rhywbeth, yr ymateb priodol ydy gofyn am esboniad, ddim cyhuddo rhywun o fod yn ddi-reswm.
Blewyn a ddywedodd:Mae o'n gyffelyb i werthu Land Rover Freelander i rhywun ar gefn enw da'r 110 a Defender. (ok ella ddim mor eithafol a hynna, ond r'un syniad)
Blewyn a ddywedodd:Tud wan Dan bach os ti'n rhannu ystafell efo dyn sy'n cario cyllell 12" ti'n gwneud yn siwr dy fod yn cario cleddyf.
Blewyn a ddywedodd:Mi FYDD yr olew yn gorffen rhyw ddydd, MAE Iran am ddechrau gwneuthuro tanwydd niwcliar, MAE Al-Quaeda am y gorau i gythru pobl ar draws y rhanbarth, MAE gan Irac gronfeydd mawr iawn o olew, MAE Tseina ag India yn ehangu'r sydyn iawn, MAE economi'r gorllewin mewn dirwyiad tymor-hir.......
Blewyn a ddywedodd:Sut ddiawl fedri di ddeud fod y siawns o'r UDA beidio amddiffyn Kuwait a Saudi yn y dyfodol yn isel ?
Blewyn a ddywedodd:Ti'n meddwl eu bod yn trosglwyddo bob sgil, heb unrhyw fath o reolaeth i wneud yn siwr ein bod ni yn cadw mantais milwrol drostynt ?
Blewyn a ddywedodd:Eh? Nes i ddim honni y fath beth! Plis paid a deud wrthaf dy fod wedi dadlau yn erbyn pwynt dwi heb ddweud!
Dyma fo :
Blewyn a ddywedodd:Y pwynt dwi'n wneud Dan ydy er fo'r Baaths ag Al Quaeda yn elynion, t'ydy hyn ddim yn golygu bysa nhw ddim yn helpu eu gilydd i ymosod ar yr UDA.
Blewyn a ddywedodd:Faint o arfau dinistriol fysa raid iddo fo smyglo fewn i Brydain ?:lol:
Ia ffacin ffynni Dan :
http://news.bbc.co.uk/1/hi/in_depth/uk/ ... efault.stm
Blewyn a ddywedodd:Ti'n meddwl ddylia nhw ddisgwyl tan fo China yn lot cryfach, a mwy dibynnol ar olew Irac nag y maent heddiw, a nes fod y sefyllfa yn llawer mwy gwrthwynebol rhwng China a'r UDA cyn gwneud hyn, ta wneud o cyn gynted a phosib i gadw'r lefel o golledion mor ised a phosib ?
Blewyn a ddywedodd:Diolch am fy ngham ddyfynu yn llwyr. Pam nes di’r dyfyniad yna i fyny?
Achos ti'n trio gwneud allan mai $190 y pen oedd ar gael i fwydo'r rhai oedd heb. Be mae'r dyfyniad yn ddweud ydy fod yna $190 y pen ar gael i'r boblogaeth gyfan. Yn amlwg d'oedd bawb ddim yn mynd heb, felly r'oedd y ffigwr ar gael i'r rhai oedd angen yn uwch na $190 y pen...
Independent market surveys carried out by the Mission in both the rural and urban areas showed phenomenal increase in food prices. For example, compared to the pre-embargo (July 1990) levels, the average price of wheat flour (the most important staple food) increased in June 1993 by 355 times (or a 35 500 percent increase); rice by 71 times, vegetable oil by 106 times and sugar by 149 times
Dan Dean a ddywedodd:Be sy’n gwneud i mi ddim bod o ddifri wrth son bod y gwrthwynebiad o werthu arfau mor modern i Saudi yn ymwneud efo “perygl ceith y cyfarpar ei ddefnyddio yn ein herbyn peate Saudi yn troi arnom”?
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Mae o'n gyffelyb i werthu Land Rover Freelander i rhywun ar gefn enw da'r 110 a Defender. (ok ella ddim mor eithafol a hynna, ond r'un syniad)
Unwaith eto ..<snip>..fy ateb i yn gwneud lot mwy o synnwyr na un chdi.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Tud wan Dan bach os ti'n rhannu ystafell efo dyn sy'n cario cyllell 12" ti'n gwneud yn siwr dy fod yn cario cleddyf.
Ac er mwyn cael olew gan y dyn sydd yn cario’r cyllell mi wyt yn gwerthu cleddyf iddo a dangos sut i’w ddefnyddio, a wedyn mae’r dyn yn y stafell nesaf(Israel) yn gwylltio efo chdi am werthu’r fath beth achos dy nhw ddim yn ffrindiau, felly ti’n rhoi cleddyf chydig bach gwell iddo fo...
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Mi FYDD yr olew yn gorffen rhyw ddydd, MAE Iran am ddechrau gwneuthuro tanwydd niwcliar, MAE Al-Quaeda am y gorau i gythru pobl ar draws y rhanbarth, MAE gan Irac gronfeydd mawr iawn o olew, MAE Tseina ag India yn ehangu'r sydyn iawn, MAE economi'r gorllewin mewn dirwyiad tymor-hir.......
Nid yw’n gwneud llawer o synnwyr dweud “Mi FYDD yr olew yn gorffen rhyw ddydd” a “MAE gan Irac gronfeydd mawr iawn o olew” yn yr un brawddeg,
Dan Dean a ddywedodd: a mae gan Saudi gronfeydd mwy na Irac beth bynnag.
Dan Dean a ddywedodd:Iran yn ddechrau gwneuthuro tanwydd niwcliar = UDA yn peidio amddiffyn Saudi?!
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Sut ddiawl fedri di ddeud fod y siawns o'r UDA beidio amddiffyn Kuwait a Saudi yn y dyfodol yn isel ?
Coelia neu beidio dwi di ateb y cwestiwn yma o blaen.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Ti'n meddwl eu bod yn trosglwyddo bob sgil, heb unrhyw fath o reolaeth i wneud yn siwr ein bod ni yn cadw mantais milwrol drostynt ?
Mae’r United States Military Training Mission yn gwneud job eitha da o hynnu ar gyfer, o be welaf yn fana, pob cyfarpar mae Saudi wedi brynu gan y wlad. Mae BAE yn gwneud yr un peth yno efo’r Tornados a beth bynnag arall di brynu yng nghytundeb Al-Yamamah.
Dan Dean a ddywedodd:nid yw’r dyfyniad ti'n rhoi yn “dadlau na fysa Saddam wedi gallu codi byddin eto achos fod y bobl yn deall eu bod wedi cael stid am ymosod ar Kuwait”. Nes i ddim dadla hynnu.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Y pwynt dwi'n wneud Dan ydy er fo'r Baaths ag Al Quaeda yn elynion, t'ydy hyn ddim yn golygu bysa nhw ddim yn helpu eu gilydd i ymosod ar yr UDA.
Hynod anhebygol.
Dan Dean a ddywedodd:1) Ni waneth neb smyglo fewn arfau dinistriol i Brydain i hynnu ddigwydd, cafodd y bomiau eu gwneud yn Leeds
Dan Dean a ddywedodd:2) Ti’n ofni petha felna yn digwydd os na fysa’r rhyfel yn erbyn Irac wedi digwydd ond roedd y rhyfel ei hun yn reswm penodol pam ddigwyddodd yr uchod yn y lle cynta.
Dan Dean a ddywedodd:3) Doedd gan Saddam, na Irac, na unrhyw arweinydd, na hyd yn oed neb o dramor dim iw wneud efo’r uchod.
Dan Dean a ddywedodd:4) Er mor erchyll oedd y bomia, ni elli di ddweud bod Prydain di cael stid.
Dan Dean a ddywedodd:Pam ddiawl nes di ddangos y stori yna i mi?
Blewyn a ddywedodd:Ti’n siarad fel petai na mond dau beth bosib sa’n gallu digwydd – “ni” yn ymosod ar Irac cyn gynted a phosib i gadw'r lefel o golledion mor isel a phosib neu ni yn ymosod ar Irac mewn chydig o flynyddoedd efo mwy o golledion. Ti ddim yn cysidro yr alternitif bosib – sef peidio ymosod ar Irac o gwbwl.
Dan Dean a ddywedodd:Roedd rhan fwyaf yn mynd heb. Yn ol adroddiad gan y CU ar World Bank, roedd tua 60% o’r boblogaeth yn GWBWL dibynnu ar fwyd y rhaglen.
Dan Dean a ddywedodd:Independent market surveys carried out by the Mission in both the rural and urban areas showed phenomenal increase in food prices. For example, compared to the pre-embargo (July 1990) levels, the average price of wheat flour (the most important staple food) increased in June 1993 by 355 times (or a 35 500 percent increase); rice by 71 times, vegetable oil by 106 times and sugar by 149 times
Dan Dean a ddywedodd:Yn gynta, dwin meddwl bod y syniad o obeithio bysa’r Iracwyr wedi gallu cael gwared o Saddam ar ol eu llewygu ac atal meddygyniaethau iddynt yn uffernol o wallus.
Dan Dean a ddywedodd:Yn ail, mae’n gwbwl bosib cario allan ataliadau effeithiol yn erbyn y llywodraeth heb gorfod atal pethau mor angenrheidiol i boblogaeth y wlad. Ar ran Irac, i feddwl mai 1990 dechreuodd yr ataliadau, fysa atal arfau a cemegion peryg di bod digon o ergyd i Saddam heb unrhyw effaith ar y diniwed.
Dili Minllyn a ddywedodd:Dweud rydw i bod eisiau i Ewropeaid gydnabod y cyd-destun a pheidio â bod yn hunan-gyfiawn am y peth.
Dili Minllyn a ddywedodd:rabscaliwn a ddywedodd:Wir? Sut ti'n dod i'r casgliad hynny?
A bod yn deg, nid hunan-dwyll unigryw i Thatcher oedd e. Mae pob llywodraeth yn dueddol o gamgymryd ei hewyllys ei hunan am ewyllys y bobl. Yn achos Thatcher, Treth y Pen yw'r enghraifft amlycaf.
Owain Llwyd a ddywedodd:rabscaliwn a ddywedodd:Llai o'r paranoia Owain bach.
Dim diolch. Mae'n fodd i fyw. Mi ddylset ti ei drio fo.
Blewyn a ddywedodd:Achos ti'n cau derbyn na fysa'r llywodraeth na'r lluoedd arfog na'r cwmniau arfau mor dwp a gwerthu'r arfau diweddaraf...
Blewyn a ddywedodd:Ac er mwyn cael olew gan y dyn sydd yn cario’r cyllell mi wyt yn gwerthu cleddyf iddo a dangos sut i’w ddefnyddio, a wedyn mae’r dyn yn y stafell nesaf(Israel) yn gwylltio efo chdi am werthu’r fath beth achos dy nhw ddim yn ffrindiau, felly ti’n rhoi cleddyf chydig bach gwell iddo fo...
Oes gen ti bwynt i wneud ta na ?
Blewyn a ddywedodd:Nid yw’n gwneud llawer o synnwyr dweud “Mi FYDD yr olew yn gorffen rhyw ddydd” a “MAE gan Irac gronfeydd mawr iawn o olew” yn yr un brawddeg,
Dim on os ti mor aruthrol o ddwl nad ydwyt wedio sylweddoli mai cyfeirio at olew Saudi yn gorffen yr oeddwn.
Blewyn a ddywedodd:Iran yn ddechrau gwneuthuro tanwydd niwcliar = UDA yn peidio amddiffyn Saudi?!
Mi wneith yr UDA beidio amddiffyn Saudi pan fo'r rhesymeg economiadd dros wneud hynny yn gorffen. Efallai bydd yna ddigon o reswm i aros yngn nghornel ucha'r gwlff ar ol i olew Saudi orffen - ond yn sicr mi fydd gallu Iran i wneuthuro tanwydd niwcliar yn hwb ar y ffordd allan o'r gwlff.
Blewyn a ddywedodd:Sut ddiawl fedri di ddeud fod y siawns o'r UDA beidio amddiffyn Kuwait a Saudi yn y dyfodol yn isel ?
Coelia neu beidio dwi di ateb y cwestiwn yma o blaen.
Ti heb egluro dy resymau o gwbl
Blewyn a ddywedodd:So ti'n deud y bysa Saddam wedi gallu codi byddin eto ag ymosod eto ar Kuwait ?
Blewyn a ddywedodd:Mae o'n ffaith fod yr olew am orffen rhyw ddydd, a d'oes gen ti ddim esboniad pam fysa'r UDA yn aros yno ar ol i'r olew orffen.
Blewyn a ddywedodd:1) Ni waneth neb smyglo fewn arfau dinistriol i Brydain i hynnu ddigwydd, cafodd y bomiau eu gwneud yn Leeds
Felly.......be ?
Blewyn a ddywedodd:3) Doedd gan Saddam, na Irac, na unrhyw arweinydd, na hyd yn oed neb o dramor dim iw wneud efo’r uchod.
Ydy hyn yn golygu o reidrwydd na fysa rhywun o dramor yn ceisio defnyddio dynion fel rhain yn y dyfodol ?
Blewyn a ddywedodd:4) Er mor erchyll oedd y bomia, ni elli di ddweud bod Prydain di cael stid.
Colledion derbyniol Dan ?
Blewyn a ddywedodd:Achos r'oeddet yn chwerthin ar y syniad y bysa rhywun yn gallu smyglo arf llu-ddinistriol i Brydain a'i ddefnyddio.
Blewyn a ddywedodd:Yn amlwg, petae gan y pedwar bradwr deunydd niwcliar, mi fysen wedi gallu achosi lor fawr fwy o ddifrod a marwolaeth na gwnaethon.
Blewyn a ddywedodd:Eglura i mi sut bysa peidio ymosod ar Irac wedi ein diogelu.
Blewyn a ddywedodd:$190 yn prynu 90 llond platiad mawr o Chicken Biryani.
Blewyn a ddywedodd:OK so $316 y pen felly...sef 240 platiad mawr o Chicken Biryani yn Oman heddiw...
Dan Dean a ddywedodd:Ac wrth gwrs bod ganddynt y technoleg i’w trechu petaent yn troi arnom – nhw adeiladodd y peth!
Dan Dean a ddywedodd:Ond y broblem ydi – gyda’r holl offer soffisticedig maent wedi gael ac ei uwchraddio dros y degawdau diwethaf – Tornados, Hawks, F-15s, Tanciau M1A2 Abrams, Apaches, taflegrynnau Patriot a.y.y.b., a bosib yr Eurofighter yn y dyfodol agos – ni fedraf cytuno fuasai trechu nhw yn hawdd o gwbwl.
Dan Dean a ddywedodd:Niwsfflash – son bod Saudi Arabia am gynnig £2 biliwn i brynu “dau neu dri” o the world's most advanced naval destroyers newydd sbon.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Ac er mwyn cael olew gan y dyn sydd yn cario’r cyllell mi wyt yn gwerthu cleddyf iddo a dangos sut i’w ddefnyddio, a wedyn mae’r dyn yn y stafell nesaf(Israel) yn gwylltio efo chdi am werthu’r fath beth achos dy nhw ddim yn ffrindiau, felly ti’n rhoi cleddyf chydig bach gwell iddo fo...
Oes gen ti bwynt i wneud ta na ?
Ymelaethu ar dy bwynt “os ti'n rhannu ystafell efo dyn sy'n cario cyllell 12" ti'n gwneud yn siwr dy fod yn cario cleddyf’’ i wneud o yn agosach at y sefyllfa da ni yn trafod oeddwn i yn wneud, Blewyn.
Dan Dean a ddywedodd:Fy mhwynt i ydi os yw Irac am “celcio” eu olew mwya thebyg na nhw fydd y cynta o’r ddwy wlad i redeg allan achos mae Saudi yn un fwy felly os di’r “olew yn gorffen rhyw ddydd” yn Saudi Arabia yna ni fydd gan Irac “gronfeydd mawr iawn o olew”. Saudi fydd gan y fwyaf o olew tan i'r olew orffan.
Dan Dean a ddywedodd:Plis paid a deud wrthaf sa ti’n disgwl i’r UDA fynd “www well i ni heglu hi oma achos mae Iran yn gallu gwneuthuro tanwydd niwcliar”. Plis.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Sut ddiawl fedri di ddeud fod y siawns o'r UDA beidio amddiffyn Kuwait a Saudi yn y dyfodol yn isel ?
Coelia neu beidio dwi di ateb y cwestiwn yma o blaen.
Ti heb egluro dy resymau o gwbl
DO DWI FFYCING WEDI! BE FFWC SYDD YN BOD ARNA CHDI?
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:So ti'n deud y bysa Saddam wedi gallu codi byddin eto ag ymosod eto ar Kuwait ?
NADW. Crist or nef ddyn, tria cofio a dallt fy safbwynt o hynnu nei di? Mae o nol tua tudalen tri ne rwla.
Dan Dean a ddywedodd:O reit dwin gweld rwan, roedden yn trafod yr UDA yn amddiffyn Saudi rhag i Irac gymeryd eu maesydd olew o blaen a rwan tisho trafod amddiffyn Saudi ar ol i’r olew orffen. Wel dwi heb gael rheswm call dros ymosod ar Saudi yn y lle cynta os yw’r olew wedi mynd.
Dan Dean a ddywedodd:A dim ots be sydd ar ol yno mi fuasa’r UDA yn mwy na bodlon helpu unrhyw wlad sydd yn cael ei ymosod gan wlad gwrth-americanaidd.
Dan Dean a ddywedodd:Felly ni wnaeth neb SMYGLO nhw fewn. Sori am fod mor gymleth.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:3) Doedd gan Saddam, na Irac, na unrhyw arweinydd, na hyd yn oed neb o dramor dim iw wneud efo’r uchod.
Ydy hyn yn golygu o reidrwydd na fysa rhywun o dramor yn ceisio defnyddio dynion fel rhain yn y dyfodol ?
Nadi. Ac?
Dan Dean a ddywedodd:Ni chafodd Prydain “sdid” y diwrnod hwnnw, oce? Nid oedd genocide ym Mhrydain y diwrnod hwnnw chwaith, ond yn dy resymeg ffantastic di uchod fysa unrhyw un sa’n dweud “nid oedd na genocide yn Llundain” yn gweld y colledion yn “dderbyniol”. Dwim yn credu rhai o’r petha ti yn ddweud de Blewyn, anhygoel!
Dan Dean a ddywedodd:Ydi 3000+ o filwyr a canoedd o filoedd o Iracwyr yn dderbyniol?
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Achos r'oeddet yn chwerthin ar y syniad y bysa rhywun yn gallu smyglo arf llu-ddinistriol i Brydain a'i ddefnyddio.
Yyyyy, diflas. Unwaith eto yn camddeallt a methu’r point, yn fwriadol ella. Nage Blewyn, chwerthin ar y syniad o Saddam yn rhoi sdid i Brydain drwy wneud hynnu.
Dan Dean a ddywedodd:A sut yn union mae rhywun yn smyglo arf llu-dinistriol i Brydain?
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Yn amlwg, petae gan y pedwar bradwr deunydd niwcliar, mi fysen wedi gallu achosi lor fawr fwy o ddifrod a marwolaeth na gwnaethon.
Yn amlwg, petae gan Michael Schumacher arf niwcliar yn ei gar cyn crasho yn 1999 mi fysa wedi gallu achosi lot fawr fwy o ddifrod a marwolaethau na un car ac un goes di torri.
Dan Dean a ddywedodd:Be di’r pwynt pwyntio hynnu allan?
Dan Dean a ddywedodd:A sut mae adeiladu dyfais niwcliar mewn ty yn Leeds?
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Eglura i mi sut bysa peidio ymosod ar Irac wedi ein diogelu.
Cynyddiad mawr o ymosodiadau terfysgol rownd y byd a dwi di colli cyfrif faint o adroddiadau gan arbenigwyr ar derfysgaeth sydd wedi pwyntio allan ein bod chydig llai diogel ar ol cipio Irac.
Dan Dean a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:$190 yn prynu 90 llond platiad mawr o Chicken Biryani.Blewyn a ddywedodd:OK so $316 y pen felly...sef 240 platiad mawr o Chicken Biryani yn Oman heddiw...
Waaaw, mae llond platiad o Chicken Biryani di mynd o $2.11 i $1.31 mewn llai na wythnos!
Dan Dean a ddywedodd:Ti’n siwr o dy ffigyrau yn fama, Blewyn? Ta ti’n neud nhw fyny?
Dan Dean a ddywedodd:Yn gynta, pan roedd tua 60% o’r boblogaeth yn GWBWL dibynnu ar fwyd y rhaglen, dydi hynnu ddim yn meddwl roedd pawb arall ddim angen rhan ohono, felly toedd o ddim yn “$316 y pen”.
Dan Dean a ddywedodd:Mae’n hynod o anhebygol bod gweddill y boblogaeth mewn sefyllfa hollol wahanol.
Dan Dean a ddywedodd:Yn ail, a dwnim faint o weithia fyddai’n gorfod pwyntio hyn allan cyn i chdi sylwi, neu stopio anwybyddu – roedd yr arian hefyd yn talu am feddygyniaethau a pethau eraill angenrheidiol fel carthffosiaeth ac addysg.
Dan Dean a ddywedodd:Faint o fwyd fysa $316 wedi prynu (os fysa rhywun o’r cyhoedd wedi bod yn fwy lwcus a’r gweddill a cael gymynt na hynnu am fwyd yn y lle cynta)? Dwi ddim yn gwybod yn union ond nid yw’n cymeryd jiniys i sylwi bod bwyd yn uffernol o ddrud. (rhag ofn i chdi ofyn “sut ti’n gwybod, Dan?” tria weithio fo allan).
Dan Dean a ddywedodd:Ac os tisho’r bobol cael gwared o’r arweinydd dydi o ddim yn helpu o gwbwl i atal bob dim iddynt achos wedyn mae ganddynt frwydr arall i’w gwffio yn lle – sef brwydr ar gyfer goroesiad eu hunain, gan rhoi llai o amser a'r gallu iddynt feddwl am ffordd o gael gwared o’r arweiniaeth.
Prysor a ddywedodd:Na. Mae erthygl y IoS wedi ei seilio'n gyfangwbl ar ffeithiau pendant ac ymchwil cadarn, ac wedi ei sgwenu gan newyddiadurwyr gwrthrychol a di-duedd . . .
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai