Y gwirionedd o'r diwedd! Gwaed am Olew.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Llun 05 Maw 2007 1:22 pm

Blewyn a ddywedodd:Mae hyn yn rhoi y trol o flaen y ceffyl. h.y. oherwydd eu cefnogaeth o Israel mae'r UDA yn cael eu casau yn y byd islamaidd. Israel yw bon y gwrthdaro, Dili.

Dwi'n gwybod hynny, ac yn gwybod bod digon o Arabiaid na fyddan nhw'n fodlon nes bod Israel wedi diflannu ar ei ffurf bresennol. Dyna pam o'n i'n dweud bod eisiau cryn dipyn o newid ar y ddwy ochr.

O ran y Belgiaid yn Rwanda gyda llaw, mae eisiau cydnabod, dwi'n meddwl eu bod wedi llywodraethu'r wlad am ryw hanner canrif a bod y drefn greon nhw wedi para wedi iddyn nhw fynd, a hynny gyda'u cefnogaeth nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan rabscaliwn » Llun 05 Maw 2007 1:38 pm

Yn y lle cyntaf, mae dadleuon Owain Llwyd yn hurt o Gomiwnyddol. Pobl Gwynedd yn colli rhoelaeth ar eu sbwriel? Ffor hefyn's sec. Ydyn, ma'r bobl yn disgwyl i'r llywodraeth rhedeg adnoddau naturiol ar eu rhan, ac os yw'r llywodraeth yn penderfynu mai'r ffordd gorau o wneud hynny yw trwy roi contract i gwmniau preifat i wneud y gwaith, dyna, 'by proxy', yw dymuniad y bobl.

Yn ail, dwi ddim yn gweld beth yw'r ots fod cwmniau Prydeinig/Ffrengig/Americanaidd yn cael y contracts. Mae hynny'n well na rhoi mwy o arian fyth yng nghoffrau llywodraethau Arabaidd gwallgof, a hefyd mae'n golygu cryfhau economiau gorllewinol yn y frwydr anochel yn erbyn economi Tseina - brwydr nad oes prin gobaith ei hennill ar y gorau. Mae angen pob ceiniog allwn ni gael arno ni!

:lol:
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Dili Minllyn » Llun 05 Maw 2007 6:20 pm

rabscaliwn a ddywedodd:Yn y lle cyntaf, mae dadleuon Owain Llwyd yn hurt o Gomiwnyddol.

Ac felly'n anwir?

rabscaliwn a ddywedodd:Os yw'r llywodraeth yn penderfynu mai'r ffordd gorau o wneud hynny yw trwy roi contract i gwmniau preifat i wneud y gwaith, dyna, 'by proxy', yw dymuniad y bobl.

Dymuniad y llywodraeth yw dymuniad y bobl? Dyna'r hunan-dwyll a yrrodd Thatcher at ei thranc.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan rabscaliwn » Llun 05 Maw 2007 7:37 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
rabscaliwn a ddywedodd:Yn y lle cyntaf, mae dadleuon Owain Llwyd yn hurt o Gomiwnyddol.

Ac felly'n anwir?

Erm, aye. Dim ond gwallgofddyn sy'n arddel comiwnyddiaeth bellach. Nefi wen, faint o dystiolaeth sydd ei angen ar ddyn?

Dili Minllyn a ddywedodd:
rabscaliwn a ddywedodd:Os yw'r llywodraeth yn penderfynu mai'r ffordd gorau o wneud hynny yw trwy roi contract i gwmniau preifat i wneud y gwaith, dyna, 'by proxy', yw dymuniad y bobl.

Dymuniad y llywodraeth yw dymuniad y bobl? Dyna'r hunan-dwyll a yrrodd Thatcher at ei thranc.

Wir? Sut ti'n dod i'r casgliad hynny?
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Owain Llwyd » Llun 05 Maw 2007 9:58 pm

rabscaliwn a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:
rabscaliwn a ddywedodd:Yn y lle cyntaf, mae dadleuon Owain Llwyd yn hurt o Gomiwnyddol.

Ac felly'n anwir?

Erm, aye. Dim ond gwallgofddyn sy'n arddel comiwnyddiaeth bellach. Nefi wen, faint o dystiolaeth sydd ei angen ar ddyn?


Wel. Wedi cael fy nyrchafu o 'hurt' i 'wallgof' o fewn chwe awr, a minnau heb hyd yn oed sylweddoli 'mod i'n Gomiwnydd. Lle bydda i'n cyrraedd nesa ar y trajectori rhyfeddol 'ma?

Ond dw i'n dal heb allu gweld sut mae trosglwyddo swyddogaethau llywodraeth leol i gwmnïau preifat anatebol yn hwb i'r broses ddemocrataidd.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Blewyn » Maw 06 Maw 2007 3:58 am

Dili Minllyn a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:O ran y Belgiaid yn Rwanda gyda llaw, mae eisiau cydnabod, dwi'n meddwl eu bod wedi llywodraethu'r wlad am ryw hanner canrif a bod y drefn greon nhw wedi para wedi iddyn nhw fynd, a hynny gyda'u cefnogaeth nhw.

Gwir, ond t'ydy hyn ddim yn golygu nad oedd gan y Rwandaid reolaeth dros eu ymddygiad eu hunain. Ddim plant ydy nhw, oedolion llawn mor fedrus a chyfrifol a phawb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Maw 06 Maw 2007 5:04 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Ond dw i'n dal heb allu gweld sut mae trosglwyddo swyddogaethau llywodraeth leol i gwmnïau preifat anatebol yn hwb i'r broses ddemocrataidd.

Enghraifft o ymestyn egwyddor yn amhriodol. Cytunaf nad yw hyn yn gwella'r sefyllfa sbwriel yn Ngwynedd, ac ei fod mwy na thebyg yn ganlyniad o ddyheuad rhyw reolwr yng Nghaernarfon i allu rhoi bai ar rhywun arall am sefyllfa'r sbwriel yn hytrach na cymryd gofal o'i dasg, ond t'ydy hyn ddim yn golygu nad oes rhesymau gwahanol o blaid defnyddio cwmniau allanol i echdynnu olew Irac.

1. Does ganddyn nhw mo'r sgiliau sydd angen.
2. Does ganddyn nhw mo'r cyfarpar nag arian i'w brynu.
3. Does ganddyn nhw ddim disgyblaeth na rheolaeth dros lygredd.
4. Mae nhw angen cyn gymaint o arian a fedran nhw gael cyn gynted a phosib er mwyn ei ddosbarthu i gadw'r bobl rhag chwyldroi ag i sefydlu gwasanaethau.
5. Mae nhw angen arian i sefydlu byddin unedig dan arweiniaeth gryf cyn i'r wlad rannu'n hollol.
6. Mae'n debyg iawn bydd gallu arbenigol y cwmniau olew yn arwain at gyfraddau echdyniad mwy effeithiol - hynny yw, canran uwch o'r olew yn cael ei echdynnu o bob maes drwy dechnolegau a dechnegau mwy effeithiol nag oes gan yr Iraciaid. Yn syml, mae 80% o elw 80% yr olew yn well na 100% o elw 60% yr olew. Mae hyn hefyd yn dylanwadu'r fawr ar ddyfodol meysydd olew y wlad - mae gwneud smonach o dyllu neu ddatblygu maes olew yn nechrau bywyd y maes yn gallu amharu ar y canran o olew a echdynnid o'r maes h.y. fod gorfod gadael mwy i lawr yno nag oedd raid.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan rabscaliwn » Maw 06 Maw 2007 9:56 am

Owain Llwyd a ddywedodd:
rabscaliwn a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:
rabscaliwn a ddywedodd:Yn y lle cyntaf, mae dadleuon Owain Llwyd yn hurt o Gomiwnyddol.

Ac felly'n anwir?

Erm, aye. Dim ond gwallgofddyn sy'n arddel comiwnyddiaeth bellach. Nefi wen, faint o dystiolaeth sydd ei angen ar ddyn?


Wel. Wedi cael fy nyrchafu o 'hurt' i 'wallgof' o fewn chwe awr, a minnau heb hyd yn oed sylweddoli 'mod i'n Gomiwnydd. Lle bydda i'n cyrraedd nesa ar y trajectori rhyfeddol 'ma?

Ond dw i'n dal heb allu gweld sut mae trosglwyddo swyddogaethau llywodraeth leol i gwmnïau preifat anatebol yn hwb i'r broses ddemocrataidd.

Owain bach, paid bod mor sensitif. Gan ei bod hi'n amlwg nad wyt ti'n arddel ar allu digonol i ddeall yr hyn wedes i, gad i fi esbonio:
Fe wedes i bod dy ddadleuon di'n hurt o Gomiwnyddol. Nes i ddim dweud bod ti'n hurt, nac yn Gomiwnyddol, eithr dy ddadleuon di yn y fan hon.
Gan na chyhuddais di o fod yn Gomiwnydd, wrth reswm felly doedd y gosodiad mai dyn 'gwallgof' yn unig sydd yn Gomiwnydd ddim wedi ei anelu ato ti. Di-euog eto.
Llai o'r paranoia Owain bach. :lol:
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Dili Minllyn » Maw 06 Maw 2007 10:08 am

rabscaliwn a ddywedodd:Wir? Sut ti'n dod i'r casgliad hynny?

A bod yn deg, nid hunan-dwyll unigryw i Thatcher oedd e. Mae pob llywodraeth yn dueddol o gamgymryd ei hewyllys ei hunan am ewyllys y bobl. Yn achos Thatcher, Treth y Pen yw'r enghraifft amlycaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Maw 06 Maw 2007 10:09 am

Blewyn a ddywedodd:Gwir, ond t'ydy hyn ddim yn golygu nad oedd gan y Rwandaid reolaeth dros eu ymddygiad eu hunain. Ddim plant ydy nhw, oedolion llawn mor fedrus a chyfrifol a phawb arall.

Cwbl gywir. Dweud rydw i bod eisiau i Ewropeaid gydnabod y cyd-destun a pheidio â bod yn hunan-gyfiawn am y peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron