Be' yw barn aelodau'r maes am hyn?
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/6281545.stm
A ddylai'r Twrcwn gael eu derbyn yn ran o deulu y Gymuned Ewropeaidd?
Allai ddim yn fy myw gredu fod y wlad hon, a'i hanes gwarthus ym maes hawliau dynol ar fin ymuno a'r Undeb. Fe fues i'n siarad yn ddiweddar ag unigolyn addysgiedig o Istanbul ag roedd hi yn methu deall pam fod pobol yn wrthwynebus i Dwrci ymuno ar Undeb Ewropeaidd.
Nonsens hollol yn fy marn i yw sylw rhai, taw o dynnu gwledydd fel Twrci i fewn i'r EU mae eu gwneud nhw yn fwy rhyddfydig/goleuedig.