Hwyl i Hillary Clinton!

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ai Hillary Clinton fydd yr Arlywyddwraig gyntaf yn America?

Ia
15
75%
Na
5
25%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

Postiogan S.W. » Llun 22 Ion 2007 1:13 pm

Efallai fod hynny'n ddryslyd ond gan eu bod nhw'n galw eu cyn arlywyddion yn Mr President mae'n mynd i fod yn gymhleth - dwim yn gweld nhw'n newid y rheol hynny.

Mae on mynd yn fwy cymhelth wrth gyfeirio at "President Clinton" - ba un byddai hwnnw? Wedi dweud hynny mae nhw eisioes hefo 2 President Bush yn does.....
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dylan » Llun 22 Ion 2007 8:03 pm

huwwaters a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Achub ni Barack Obama!


Pobol yn ei ofni'n barod. Pobl di cychwyn rumours ei fod yn Fwslem ac am fod yn sympathetig i derfysgwyr. Ffaith oedd, mi oedd ei dad o draw Mwslemaidd yn unig.


Mae adroddiadau wedi bod yn y wasg bod tîm Hillary wedi ceisio pardduo Obama trwy sôn am gyfnod yn ystod ei blentyndod mewn madrassa yn Indonesia.

Debyg bod hyn i gyd yn strôc o athrylith cwbl gwbl afiach gan gefnogwyr y Gweriniaethwyr. Gwraidd y stori ydi un erthygl gan golofnydd o InsightMag.com (tegan o eiddo'r Parchedig Sun Myung Moon, y nytar llwyr sydd hefyd berchen y Washington Times). Mae nhw 'di llwyddo i bardduo Clinton ac Obama ar yr un pryd; y naill trwy ddangos ei bod yn chwarae'n frwnt, a'r llall trwy rwdlan ei fod yn Fwslem (wrth gwrs dylai hynny ddim bod yn broblem, ond naif ydi smalio nad ydi o'n un dybryd mewn gwirionedd, yn yr America sydd ohoni). Felly tra mae'r ddau yna'n dadlau dros y mater cwbl ddi-bwys yma, mae Gweriniaethwyr yn llechu'n y cysgodion ac yn tynnu'r strings. Da de?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mali » Llun 22 Ion 2007 8:04 pm

S.W. a ddywedodd:Efallai fod hynny'n ddryslyd ond gan eu bod nhw'n galw eu cyn arlywyddion yn Mr President mae'n mynd i fod yn gymhleth - dwim yn gweld nhw'n newid y rheol hynny.

Mae on mynd yn fwy cymhelth wrth gyfeirio at "President Clinton" - ba un byddai hwnnw? Wedi dweud hynny mae nhw eisioes hefo 2 President Bush yn does.....


Doeddwn i heb feddwl am hynny :lol: , ond ti'n berffaith iawn S.W. Mae nhw'n galw bob cyn arlywydd yn Mr President.
Felly , ydi America yn barod am arlywydd benywaidd ? Mae hi'n ymddangos yn ymgeisydd cryf iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dylan » Llun 22 Ion 2007 8:12 pm

Mae Obama'n hollol crap be' bynnag. Dydi o heb ddweud unrhyw beth o sylwedd o gwbl eto. Mae o 'di mynd ar charm offensive (ac mae o'n siaradwr da a hoffus, gwir) a mwydro'n neis neis am "gydweithredu" a malu ffycin cachu'n ddi-drugaredd am bwysigrwydd ei grefydd, ond be' ddiawl mae o'n sefyll amdano? Beth ydi'i weledigaeth o?

Duw hyn a duw llall, dyna'r cwbl 'dan ni'n ei glywed o hyd. Mae'r etholiad yma'n mynd i gael ei ennill gan yr ymgeisydd sy'n hawlio'r ffydd cryfaf. "Dw i'n well Cristion na ti!" Aaargh.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Maw 23 Ion 2007 8:42 pm

Dwi'n meddwl bod gormod o bobl - o'r chwith a'r dde - yn gweld trwy dwyll Hillary Clinton iddi fod yn llwyddiannus. Ar y naill law, dyna hi'n East Coast Liberal boenus o ffasiynol ei syniadau - sy'n sicr o golli pleidleisiau i'w phlaid yn Nhaleithiau'r De - ar y llaw arall, dyna hi'n trïo peidio â swnio fel rhyw ryddfrydwraig boenus o ffasiynol o Efrog Newydd trwy rwdlan yn ffuantus am y "rhyfel yn erbyn terfysgaeth".
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai