"Rhyfel" yn erbyn Iran. Pryd?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"Rhyfel" yn erbyn Iran. Pryd?

Postiogan Nanog » Maw 23 Ion 2007 9:46 pm

Nid gofyn gwnaf am a fydd rhyfel yn erbyn Iran on pryd? Rhoies y gair 'rhyfel' mewn dyfynodau achos mae'n bosib taw ymosodiad niwclear y bydd o leia ar y cychwyn. Yr wythons ddiwetha' mi fuodd Condy ar daith o gwmpas llawer o wledydd y dwyrain canol - Israel Saudi Arabia, Aifft, Iorddonen, Kuwait, Bahrain, Qatar, Oman a'r Emirates er mwyn cael cefnogaeth yn erbyn y wlad Shiaidd / Persiaidd. Mae'r UDA wedi danfon ail long (carrier) ir gwlf - y tro cynta ers 2003 yn ogystal a nifer o longau arall sydd a'r gallu i saethu taflegrau.

Mae'n hen nwyddion fod yr America yn gwrthod derbyn y bydd Iran yn medru datblygu ynni niwclear. Maen't wedi demoneiddio Ahmedinajad drwy ddweud ei fod yn wrth Iddewig. Yn fwy diweddar, maen't wedi gwneud honiadau gwallgof fod Iran y tu ol i'r ymladd sy'n diwydd yn awr yn Irac ac wedi dal nifer o Iraniaid yn y wlad honno gan honni eu bod yno am resymau gwael. Yr unig gwestiwn yw, pryd bydd y tan gwyllt yn dechrau? Mae na si ar led taw mis Ebrill ar y hwyraf....cyn i'r ci bach cefnogol Prydeinig i adael rhif 10. Ryw'n tueddu gytuno. Ydych yn cytuno?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Garnet Bowen » Maw 23 Ion 2007 10:05 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dili Minllyn » Maw 23 Ion 2007 10:14 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Gorau po gynta.

Gorau po gyntaf i ymosodiad niwclear, ynteu jest gorau po gyntaf i unrhyw fath o ryfel?

Neu, efallai, gallwn ni gael rhyfel yn Syria. Mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Maw 23 Ion 2007 10:24 pm

Yn bersonol, dwi'n gweld yr UDA am ddo wyneb yn wyneb â China - p?er mawr y dyfodol. Does gan yr UDA ddim hyder i cymyd mantais o'r wlad yma. Sdim ond angen edrych ar rhifyn Time y mis yma, sy'n dangos fod China efo cytundebau ym mhob man ym myd busnes. Hyd yn oedd gyrru pobl China i wledydd Affrica i adeiladu rheilffyrdd. Ma China hefyd yn diwgydd bod efo nifer o gytundebau economaidd yn Iran, yn ogystal a dibynnu ar y wlad am gyflenwad olew.

Mae hefyd si fod yr Ayatollah yn anghytuno gyda agwedd Ahmedinajad ynglyn a'i agwedd polisi tramor. Geith yr UDA sioc fawr pan neith pobl cychwyn sefyll yn erbyn rhywbeth sydd wedi bod yn rhwydd iawn i'r wlad ers adeg y rhyfel.

Daw dydd India a China.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Nanog » Maw 23 Ion 2007 10:35 pm

Paid a becso am India a China am nawr.......Iran sydd ar y gorwel. Cofia, efalli gwneith rhyfel gydag Iran ddechrau rhyfel byd arall. Mi fydd y dwyrain canol yn wenfflam. Mae gan Iran dros 1 milliwn o filwyr. Mae rhai wedi crybwyll y byddent yn ymuno yn y frwydr yn Irac petai'r UDA yn ymosod arnynt. Rydym yn byw mewn cyfnod arswydus iawn!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dylan » Maw 23 Ion 2007 10:42 pm

Mae Iran yn anferth. 'Dan ni'n sôn am 70 miliwn o bobl, a'r rhan fwyaf o'r rheiny'n bobl ifanc. Tua 70% o'r boblogaeth gyfan yn llai na 30 oed. Dydi rhyfel ddim yn ymarferol, heb sôn am gyfiawn. Dim ffiars. Byddai rhyfel yn gwbl wirioneddol hollol boncyrs dw-lal stiwpid lwpi.

Fel dw i 'di'i ddweud o'r blaen, awe'r stiwdants. Chwyldro cynhenid oddi fewn yn y dyfodol weddol agos amdani, gobeithio. Ond byddai rhyfel yn gwneud pethau cymaint gwaith gwaeth mae'n anhygoel.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Nanog » Maw 23 Ion 2007 10:50 pm

Dylan a ddywedodd: Byddai rhyfel yn hollol wirioneddol cwbl boncyrs dw-lal


Fel Irac?



Chwyldro cynhenid oddi fewn amdani yn y dyfodol weddol agos, gobeithio.


Pam? I ni cael gwlad democrataidd fel yr UDA? CHYU!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dylan » Maw 23 Ion 2007 11:09 pm

pam ti'n dadlau efo fi?

Nanog a ddywedodd:Fel Irac?


wel ia ond gan mil gwaeth eto. Cymhara faint y lle a'r boblogaeth.

Pam? I ni cael gwlad democrataidd fel yr UDA? CHYU!


Pardwn?

ti'n anghytuno bod system ddemocrataidd ryddfrydol yn rhagori ar beth sydd i'w gael yn y Iran ar hyn o bryd? Go iawn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan huwwaters » Maw 23 Ion 2007 11:54 pm

Nanog a ddywedodd:Paid a becso am India a China am nawr.......Iran sydd ar y gorwel. Cofia, efalli gwneith rhyfel gydag Iran ddechrau rhyfel byd arall. Mi fydd y dwyrain canol yn wenfflam. Mae gan Iran dros 1 milliwn o filwyr. Mae rhai wedi crybwyll y byddent yn ymuno yn y frwydr yn Irac petai'r UDA yn ymosod arnynt. Rydym yn byw mewn cyfnod arswydus iawn!


Wel os mae rhywbeth am amharu ar gobeithion India, neu yn enwedig China nawn nhw agor eu cêg. Sdim ond angen edrych ar Gogledd Korea i weld bod yr UDA ddim digon dewr i deutha nhw be i'w wneud.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Nanog » Mer 24 Ion 2007 7:41 am

Dylan a ddywedodd:wel ia ond gan mil gwaeth eto. Cymhara faint y lle a'r boblogaeth.


Dyna pam efalle fod cymaint o son am fom niwclear. Mae'n beryglus i Iran gael gallu niwclear. Falle gwnawn nhw ei ddefnyddio! Mae hynny'n gwbwl annerbyniol. :?

Dylan a ddywedodd:
Pam? I ni cael gwlad democrataidd fel yr UDA? CHYU!


Pardwn?

ti'n anghytuno bod system ddemocrataidd ryddfrydol yn rhagori ar beth sydd i'w gael yn y Iran ar hyn o bryd? Go iawn?

Dylwn i ddim wedi dweud hynna....gan taw nid dadl ar ragoriaethau systememau gwleidyddol yw'r llinyn 'ma.... :winc: Felly, ti'n meddwl na fydd 'na ryfel erbyn Iran.......dwi'n cofio lot o bobl yn dweud yr un peth am Irac hefyd.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron