Blewyn a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Y cyfan wyt ti'n gweud yw fod yr UDA yn iawn i orfodi ei fersiwn nhw o ryddid ar bawb.
Sut wyt ti'n 'gorfodi rhyddid' ? Tria da chdi feddwl drwy dy ateb.Sut all wlad fod yn "rhydd" a heddychlon" os yw'r rhyddid a heddwch yn yn cael ei orfodi drwy fygythiad bomio?
Drwy ddilyn sustem ddemocrataidd ag ymddwyn yn heddychlon tuag at wledydd eraill. Dyna pa mor bell mae rhyddid yn ymestyn.
Mae dy ddau ymateb uchod yn gwrth-ddweud ei gilydd. Bydden i'n awgrymu mai ti ddylai trial feddwl drwy dy ateb gwboi.
Ti sydd wedi penderfynnu fy mod o blaid. Ffeindia un neges lle dwi 'di dweud "Rwyf o blaid arfogi niwclear yn Iran". Fe gei di chwilio tan Sul y Pys.Blewyn a ddywedodd:Enghraifft syml yw pan ddywedaist ti fy mod i o blaid arfogi Iran gydag arfau niwclear
Un ai tu yn erbyn gadael i Iran gael arfau niwcliar, a rhoi pawb ar wyneb y ddaear mewn perygl, neu ti o blaid.
Eto, mi rwyt ti'n mynnu rhoi geiriau yn fy ngheg. Poeni am ragrith ambell i wlad (yr UDA yn bennaf) yn ceisio gorfodi eu trefn nhw ar y Byd. Does dim problem gen i os yw'r UN yn gwithredu yn erbyn gwledydd, mae'r broblem yn codi pan fod gwledydd (yr UDA yn bennaf) yn anwybyddu'r UN, ac yn mynd tu hwnt i remit yr UDA.blewyn a ddywedodd:R'un peth ydy ci a'i gynffon CB ag os ti'n poeni am 'ragrith' y gorllewin mwy na diogelwch ein pobl, mae'n deg dy gyhuddo o fod o blaid arfogi Iran.
Y gwir yw, dy fod ti yn penderfynnu barn pobl sydd ddim yn cytuno gyda thi. Sydd yn ffordd twp o thrafod a dadlau barn, gan nad wyt yn dadlau yn erbyn pwynt yr unigolion wyt yn trafod a nhw.