"Rhyfel" yn erbyn Iran. Pryd?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ceribethlem » Mer 19 Rhag 2007 9:15 am

Blewyn a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Y cyfan wyt ti'n gweud yw fod yr UDA yn iawn i orfodi ei fersiwn nhw o ryddid ar bawb.

Sut wyt ti'n 'gorfodi rhyddid' ? Tria da chdi feddwl drwy dy ateb.

Sut all wlad fod yn "rhydd" a heddychlon" os yw'r rhyddid a heddwch yn yn cael ei orfodi drwy fygythiad bomio?

Drwy ddilyn sustem ddemocrataidd ag ymddwyn yn heddychlon tuag at wledydd eraill. Dyna pa mor bell mae rhyddid yn ymestyn.


Mae dy ddau ymateb uchod yn gwrth-ddweud ei gilydd. Bydden i'n awgrymu mai ti ddylai trial feddwl drwy dy ateb gwboi.

Blewyn a ddywedodd:
Enghraifft syml yw pan ddywedaist ti fy mod i o blaid arfogi Iran gydag arfau niwclear

Un ai tu yn erbyn gadael i Iran gael arfau niwcliar, a rhoi pawb ar wyneb y ddaear mewn perygl, neu ti o blaid.
Ti sydd wedi penderfynnu fy mod o blaid. Ffeindia un neges lle dwi 'di dweud "Rwyf o blaid arfogi niwclear yn Iran". Fe gei di chwilio tan Sul y Pys.

blewyn a ddywedodd:R'un peth ydy ci a'i gynffon CB ag os ti'n poeni am 'ragrith' y gorllewin mwy na diogelwch ein pobl, mae'n deg dy gyhuddo o fod o blaid arfogi Iran.
Eto, mi rwyt ti'n mynnu rhoi geiriau yn fy ngheg. Poeni am ragrith ambell i wlad (yr UDA yn bennaf) yn ceisio gorfodi eu trefn nhw ar y Byd. Does dim problem gen i os yw'r UN yn gwithredu yn erbyn gwledydd, mae'r broblem yn codi pan fod gwledydd (yr UDA yn bennaf) yn anwybyddu'r UN, ac yn mynd tu hwnt i remit yr UDA.

Y gwir yw, dy fod ti yn penderfynnu barn pobl sydd ddim yn cytuno gyda thi. Sydd yn ffordd twp o thrafod a dadlau barn, gan nad wyt yn dadlau yn erbyn pwynt yr unigolion wyt yn trafod a nhw.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Dan Dean » Mer 19 Rhag 2007 12:20 pm

Gyda phob parch, chdi sydd ddim yn deall. Dwi'n byw yn y dwyrain canol ag yn gweithio efo Iraniaid [amherthnasol].

Iesu Grist. Methu'r pwynt yn gyfangwbl. Dy ddadl di yw fod Iran "yn barod i gydberthynnu parch y genedl efo arfau niwcliar". Ti unai wedi camddeall y datganiad dwi di dangos i chdi yn llwyr neu wedi neud hynnu 100% i fyny i brofi rhywfath o bwynt amherthnasol. Tydi Iran erioed wedi honni'r fath beth. Anwybyddu gwir neges y datganiad - sef cynnig i wledydd eraill gweithio efo rhaglen niwcliar Iran fel eu bod yn gallu sicrhau nad yw'r arfau yn gallu cael eu adeiladu yn y lle cynta.

Blewyn a ddywedodd:
Yna esbonia i mi sut aeth China, Yr Undeb Sofietaidd, Pacistan a Prydain llwyddo adeiladu nhw tra bod eu gelyn efo rhai.

Ymm..fel dwedais, mae 9 gwlad ar ol hanner can mlynedd yn record reit dda Dan. Ti ar drugs ?

Yndw, mi ydw i ar ddrygs twenti ffor sefyn. Fel oedd Bill Hicks, Hunter S. Thompson a miloedd eraill sydd yn gallu deall a dadansoddi safbwyntiau pobol eraill yn iawn a fod yn rhesymegol yn eu dadleuon yn wahanol i rhai prics diflas. Wyt ti yn yfed olew i ginio?

Pa wledydd sydd wedi dyfalu peidio adeiladu arfau niwcliar ar sail "achos mae ein gelynion efo rhai"?
A mi ofynnaf eto: esbonia i mi sut aeth China, Yr Undeb Sofietaidd, Pacistan a Prydain llwyddo adeiladu nhw tra bod eu gelyn efo rhai. Mae rhan fwyaf o'r 9 gwlad efo nhw oherwydd oedd gan eu gelynion rhai.
A mae'r rhesymeg yma yn dod o'r un boi sydd yn cega arnaf i am feiddio meddwl na fysa Iran yn adeiladu arfau niwcliar - er bod gan eu gelynion miloedd ohonynt!
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Mer 19 Rhag 2007 12:31 pm

Chdi ddwedodd bod rhai sydd yn "cyfleu arfau i'r gwrthryfelwyr wrth-democrataidd yn Irac" a hefyd rhai sydd yn "carcharu a chrogi hoywon a chosbi merched os nad ydynt yn gwisgo'r dillad cywir" yn brawf eu bod yn gefnogol o ymosodiad gan wlad eu hunain ar y Gorllewin.

Na Dan, deud wnes i ei fod yn dangos bysa nhw yn ymosod ar y gorllewin

Sydd yr un mor wallus ac yn neidio mewn i ganlyniad drwy ddadansoddiad syml.

D'oes dim gwahanieth rhwng beth wnaeth o yn Halabja a beth wnaeth Prydain a'r Almaen yn ystod y rhyfel byd cyntaf.

Roedd rhan fwyaf o Halabja yn bobol a phlant diniwed oedd ddim yn darged dilys o gwbwl. Roedd ymosodiadau cemegol Rhyfel Byd 1 yn erbyn byddinoedd y gelyn. "Dim gwahaniaeth".

R'oedd yna filwyr Iran yn Halabja, a r'oedd y Kwrdiaid yn eu helpu. T'ydy o ddim gwahanol i beth wnaeth ein gwlad ni i Dresden, neu'r Almaen i Coventry. Neu, yn wir, yr UDA i Hiroshima.

Wel pwyntia allan mai yr Ail ryfel byd wyt yn son amdano tro nesa yn lle y rhyfel byd cyntaf. :rolio:
A be ffwc ydi dy bwynt wni ddim. Roedd be ddigwyddodd yn y 4 lle na'n annerbyniol ac anystyriol.

Blewyn a ddywedodd:T'ydy'r UDA ddim yn dweud wrth wledydd eraill SUT i redeg eu gwledydd, dim ond i wneud yn siwr fod pob person yn y wlad yn cael DEWIS sut ei redeg.

:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:
Hanesyddol anghywir unwaith eto. Gei di ddechrau trwy ddarllen am America Lladin.

Blewyn a ddywedodd:Tria da chdi feddwl drwy dy ateb.

Ia ceri, does dim lle yn yr edefyn yma i beidio meddwl drwy dy ateb.
Dy dy-dy-dy-dy dy dy dy dyyyyyyyy rhagriiiiiith!
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Blewyn » Sad 12 Ion 2008 4:52 pm

ceribethlem a ddywedodd:Mae dy ddau ymateb uchod yn gwrth-ddweud ei gilydd. Bydden i'n awgrymu mai ti ddylai trial feddwl drwy dy ateb gwboi.

Dim ond ar ddarlleniad fwriadol arwynebol all rhywun fethu a deall y gwahaniaeth rhwng y ddau ddadl Ceri. Swm a sylwedd y mater yw nad oes rhyddid mewn gwlad lle na chaiff pawb bleidlais, a mai dim ond cyn belled a gall gweddill y byd ddygymod efo ymddygiad gwlad y mae rhyddid y wlad honno yn ymestyn. Yn achos Iran, sydd a cymdogion mewn ofn o ymosodiad ohoni ar bob ochr (cymdogion sy'n ein cyflewni ni efo olew ag yn cefnogi ein economi - h.y. dy job di) mae hyn yn golygu dim arfau niwcliar.
Ti sydd wedi penderfynnu fy mod o blaid. Ffeindia un neges lle dwi 'di dweud "Rwyf o blaid arfogi niwclear yn Iran". Fe gei di chwilio tan Sul y Pys.

Wel taw a dy swnian am 'ragrith' ta....
Poeni am ragrith ambell i wlad (yr UDA yn bennaf) yn ceisio gorfodi eu trefn nhw ar y Byd.

Yr unig drefn maent yn geisio orfodi ydy democratiaeth a rhyddid. Cwbl maent yn ofyn i wledydd eraill wneud ydy trin eu pobl yn deg a pheidio gwneud niwsans o'u hunain. Digon teg yn fy marn i.
Does dim problem gen i os yw'r UN yn gwithredu yn erbyn gwledydd, mae'r broblem yn codi pan fod gwledydd (yr UDA yn bennaf) yn anwybyddu'r UN, ac yn mynd tu hwnt i remit yr UDA.

Y broblem efo'r ddadl yma yw nad oes digon o gefnogaeth i ddemocratiaeth a rhyddid (ag amcanion economaidd y gorllewin) tu fewn i'r UN. D'oes gan arweiniaeth Rwsia neu Tseina ddim diddordeb mewn ehangu dylanwad yr UDA, wedyn mi bleidleisiant yn erbyn gweithredu yn ei blaid. Mewn sefyllfa fel yr un presennol, fedr yr UDA ddim fforddio disgwyl nes fo bob coc oen yn y UN yn hapus efo'i 'cut' cyn gweithredu, na ddylia nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Dan Dean » Sul 13 Ion 2008 1:25 pm

Blewyn a ddywedodd:
Ti sydd wedi penderfynnu fy mod o blaid. Ffeindia un neges lle dwi 'di dweud "Rwyf o blaid arfogi niwclear yn Iran". Fe gei di chwilio tan Sul y Pys.

Wel taw a dy swnian am 'ragrith' ta....

Mae hyn yn dangos dy fod yn methu sylweddoli i rhywun allu gweld safbwynt rhai gwledydd yn rhagrithol ynglyn a arfau niwcliar a hefyd yn erbyn gwlad arall cael arfau niwcliar. Mae hyn yn gwbwl bosib.

Yr unig drefn maent yn geisio orfodi ydy democratiaeth a rhyddid. Cwbl maent yn ofyn i wledydd eraill wneud ydy trin eu pobl yn deg a pheidio gwneud niwsans o'u hunain. Digon teg yn fy marn i.

:lol:
Ia ia, dyna'r cwbl sydd ar eu meddylia! Da wan, Blewyn! Sut es di ddod i'r casgliad manwl yna? 'Sw ni'n lecio gwybod.

fedr yr UDA ddim fforddio disgwyl nes fo bob coc oen yn y UN yn hapus efo'i 'cut' cyn gweithredu, na ddylia nhw.

:lol: :lol: :lol:
Felly cociau wyn yw'r gwledydd sydd ddim yn pledleisio i be mae America yn ofyn felly? Beth yw'r pwynt i'r UN os ydi'r Commies neu'r Yellow Peril yn pleidleisio yn erbyn pethau mor neis, ynte Blewyn?

Yw'r UDA eu hunain wedi bod yn gociau wyn yn yr UN? Gawn ni edrych ar chydig o engreifftiau o nifer fawr:

Calls for developed countries to increase the quantity and quality of development assistance to underdeveloped countries. 119 o blaid yn erbyn 1

Calls for alternative approaches within the United Nations system for improving the enjoyment of human rights and fundamental freedoms. 136 yn erbyn 1

Safeguards rights of developing countries in multinational trade negotiations. 112 yn erbyn 1

Attempts to establish a New International Economic Order to promote the growth of underdeveloped countries and international economic co-operation. 134 yn erbyn 1

Emphasises that the development of nations and individuals is a human right. 120 yn erbyn 1

Condemns South Africa for attacks on neighbouring states, condemns apartheid and attempts to strengthen sanctions. 145 yn erbyn 1


Rho gynnig i ddyfalu pwy di'r 1 'ma, Blewyn.

Ti'n son am China. Dim ond 5 gwaith maent wedi defnyddio'r veto ers sefydliad yr UN. Tipyn llai na rhai...
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dan Dean » Sul 13 Ion 2008 1:29 pm

Ac engraifft mwy berthnasol i'r edefyn sydd yn dangos mwy o ragrith:

Production and processing of weapon-usable material should be under international control. - 147 yn erbyn 1
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 5:45 pm

Dan Dean, wnei di grynhoi dy agwedd ynglyn ac Iran i ni os gweli di'n dda? Wyt ti yn gweld Iran fel perygl i'r byd? Wyt ti'n gwadu rol Iran ynglyn a'r terfysgaeth yn y byd? Wyt ti am weld Iran yn datblygu arfau niwclear? Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dan Dean » Sul 13 Ion 2008 10:29 pm

rooney a ddywedodd:Dan Dean, wnei di grynhoi dy agwedd ynglyn ac Iran i ni os gweli di'n dda? Wyt ti yn gweld Iran fel perygl i'r byd? Wyt ti'n gwadu rol Iran ynglyn a'r terfysgaeth yn y byd? Wyt ti am weld Iran yn datblygu arfau niwclear? Diolch.

Ti'n siriys?! Be am i ti ddarllen yr edefyn yn ofalus i gael yr atebion?! Ta tisho fi mynd drwy bob pwynt eto? :rolio:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan rooney » Sul 13 Ion 2008 10:49 pm

Dan Dean a ddywedodd:Ti'n siriys?! Be am i ti ddarllen yr edefyn yn ofalus i gael yr atebion?! Ta tisho fi mynd drwy bob pwynt eto? :rolio:


gen i bethau gwell i'w wneud na darllen chwe tudalen, crynho dy safbwyntiau i ni ynglyn ac Iran
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dan Dean » Sul 13 Ion 2008 10:58 pm

A mae gen i betha gwell i neud na ailadrodd safbwyntiau i rhywun 100% un-llygeidiog sydd bownd o ateb yn ol yn amherthnasol drwy son am y ffycin Beibl.

Felly yr ateb yw: NA.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai