Anna Nicole Smith wedi marw

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Positif80 » Gwe 09 Chw 2007 4:01 pm

Trist iawn, ar ol iddi colli ei mab a phob dim. Oedd ganddi plant eraill? Roedd hi'n stynnar pan roedd hi yn y ffilm Naked Gun 'na - drist i'w gweld yn troi'n ryw fath o anghenfil i'r cyfryngau.

Dwi'n amau 'roedd ganddi ryw fath o salwch meddwl, y ffordd oedd hi'm ymddwyn weithiau. Doedd hi ddim y person orau yn y byd, ond dwi ddim 'chwaith, felly pwy ydw i i'w beirniadu?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Manon » Gwe 09 Chw 2007 5:10 pm

Positif80 a ddywedodd:Dwi'n amau 'roedd ganddi ryw fath o salwch meddwl, y ffordd oedd hi'm ymddwyn weithiau. Doedd hi ddim y person orau yn y byd, ond dwi ddim 'chwaith, felly pwy ydw i i'w beirniadu?


Eiliaf. Doedd hi ddim yn angel o bellfordd, ond ar ol gwylio The Anna Nicole Show, 'roedd o'n amlwg bod gan hon broblemau iechyd meddwl eitha' difrifol. Druan ohoni.

A nath hi ddim cymryd mantais o'r hen foi 'na briododd hi. Odd hi isho pres, oedd o isho par o fwbs cynnas i gadw'i ben moel yn gynnas: Pawb yn hapus!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 09 Chw 2007 9:01 pm

Beth sydd yn hollol wirion yw tra bod pawb yn son am y bint wirion na', roedd un o actorion gorau o Brydain wedi marw heddiw hefyd, sef Ian Richardson.

Mae'n cael ei gofio am ei portread o Francis Urqhuart yn House of Cards.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Gwe 09 Chw 2007 9:14 pm

Edefyn am Ian Richardson yma
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Sili » Gwe 09 Chw 2007 9:58 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Beth sydd yn hollol wirion yw tra bod pawb yn son am y bint wirion na', roedd un o actorion gorau o Brydain wedi marw heddiw hefyd, sef Ian Richardson.


Eiliaf, ma'r holl ffys sydd wedi bod ar y newyddion dros ei marwolaeth (39 ne beidio) drwy y gor-ddefnydd o gyffuriau yn ridiciwlys :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Positif80 » Gwe 09 Chw 2007 10:29 pm

Sili a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Beth sydd yn hollol wirion yw tra bod pawb yn son am y bint wirion na', roedd un o actorion gorau o Brydain wedi marw heddiw hefyd, sef Ian Richardson.


Eiliaf, ma'r holl ffys sydd wedi bod ar y newyddion dros ei marwolaeth (39 ne beidio) drwy y gor-ddefnydd o gyffuriau yn ridiciwlys :rolio:


So, let me get this straight..mae'r ffaith bod Anna Nicole Smith yn "bint" yn meddwl ei bod hi'n haeddu llai o barch na ryw lyfi actor? Mae'r ddau wedi marw, a mae hynny'n beth trist iawn.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Sili » Gwe 09 Chw 2007 10:50 pm

Positif80 a ddywedodd:So, let me get this straight..mae'r ffaith bod Anna Nicole Smith yn "bint" yn meddwl ei bod hi'n haeddu llai o barch na ryw lyfi actor? Mae'r ddau wedi marw, a mae hynny'n beth trist iawn.


Bint=dynes felly swni'n mawr obeithio mai dyna'r teitl mai'n ei haeddu.

A tydi hyn ddim yn fater o barch o gwbwl na pwy sy'n ei haeddu yn fwy na'r llall, dim dyna be ddudodd yr un ohona ni. Jest mod i'n credu fod hi'n hollol boncyrs fod na gymaint o ffys ac 'air time' dros ei marwolaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Ray Diota » Llun 12 Chw 2007 10:21 am

Positif80 a ddywedodd:
Sili a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Beth sydd yn hollol wirion yw tra bod pawb yn son am y bint wirion na', roedd un o actorion gorau o Brydain wedi marw heddiw hefyd, sef Ian Richardson.


Eiliaf, ma'r holl ffys sydd wedi bod ar y newyddion dros ei marwolaeth (39 ne beidio) drwy y gor-ddefnydd o gyffuriau yn ridiciwlys :rolio:


So, let me get this straight..mae'r ffaith bod Anna Nicole Smith yn "bint" yn meddwl ei bod hi'n haeddu llai o barch na ryw lyfi actor? Mae'r ddau wedi marw, a mae hynny'n beth trist iawn.


pam de? Gwed ‘tho fi pam bod hi’n drist iawn bo ni ddim I gyd yn crio achos bo rhyw fenyw led-wallgof yn America ‘di marw…

Runig beth trist am y peth yw bo’r fath berson yn gallu cal gymaint o sylw y lle cynta… dim bo fi’n cwyno, cofiwch, odd hi’n gallu edrych yn ddigon deche back in the day…
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Positif80 » Llun 12 Chw 2007 10:48 am

'Sdim rhaid i ti fod yn drist - dwi'm yn dweud hynna o gwbl . I ddweud y gwir, 'doeddwn i ddim yn drist am y peth, gan nad o'n i'n nabod y ferch a doedd gen i ddim diddordeb ynddi.

I gyd oeddwn i'n dweud oedd pan dylien ni bod yn fwy nag yn llai trist am farwolaeth actor fel Richardson neu "bint" fel Anna Nicole Smith.

Yn y diwedd, dwi'm rili yn poeni am y naill na'r llall. Paid a meddwl am eiliad fy mod i'n awgrymu dyle unrhyw un fod yn drist am marwolaeth unrhyw un dydyn nhw ddim yn nabod. yn wir, roeddwn i'n casau'r holl galaru dros ben llestri adeg marwolaeth Diana.

Hefyd, dwi'n cytuno hefo unrhyw un sy'n dweud fod yr achos yn cael gormod o sylw.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan haia_tin_iawn » Llun 12 Chw 2007 7:39 pm

mi roedd gena i bechod drosti. doedd hi ddim yn edrych fel ei bod hi mewn rheolaeth o'i bywyd o gwbl. mae'n amlwg ei bod hi'n actio fel oedd hi er mwyn gael sylw, oherwydd ei bod hi'n berson unig iawn ar tu mewn. a mae hune'n rhywbeth trist ofnadwy.

dwi'm yn meddwl bod o'n deg i ddeud, diolch byth ei bod hi di marw ayyb, mae hune just yn beth afiach i ddweud am unrhywun.

mi roedd hi wedi cael blwyddyn galed iawn flwyddyn yma ond mi wnaeth hyn ddod allan o nunlle i ddweud y gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
haia_tin_iawn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Llun 14 Tach 2005 11:27 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai